1Paul, Apostol galwedig Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyd â phawb a'r sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ym mhob lle, eu Harglwydd hwy a ninnau:
3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
Diolchgarwch.4Yr wyf yn diolch i'm Duw yn wastad am danoch chwi, am ras Duw yr hwn a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu:
5eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, ym mhob ymadrodd, a phob gwybodaeth.
6Megys y cadarnhâwyd tystiolaeth Crist ynoch:
7fel nad ydych yn ddiffygiol mewn un dawn; gan ddyfal‐ddysgwyl am ddadguddiad ein Harglwydd Iesu Grist;
8yr hwn hefyd a'ch cadarnhâ chwi hyd y diwedd, fel y byddwch yn ddiargyhoedd yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
9Ffyddlawn yw Duw, trwy yr hwn y'ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.
Desgrifiad o'r ymraniadau.10Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch yr un peth, ac na byddo ymbleidiau yn eich plith; eithr bod o honoch wedi eich cwbl‐aduno yn yr un meddwl ac yn yr un farn.
11Canys gwnaed yn amlwg i mi am danoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai o dy Chloe, fod cynhennau yn eich plith.
12A hyn yr wyf yn ei feddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi yn wir wyf eiddo Paul; ond myfi wyf eiddo Apollos; ond myfi wyf eiddo Cephas: ond myfi wyf eiddo Crist.
13A ydyw y Crist wedi ei rannu? a groeshoeliwyd Paul drosoch chwi? neu a fedyddiwyd chwi i enw Paul?
14Yr ydwyf yn diolch i Dduw na fedyddiais i neb o honoch, oddi eithr Crispus a Gaius:
15fel na ddywedo neb mai i fy enw i y'ch bedyddiwyd.
16A bedyddiais hefyd deulu.
18Canys ymadrodd y groes, i'r rhai sydd yn myned i golledigaeth, ffolineb yw; eithr i ni y rhai sydd yn cael ein hachub, gallu Duw ydyw.
19Canys y mae yn ysgrifenedig:
Mi a ddyfethaf ddoethineb y doethion,
A gwnaf i ffwrdd â deall y deallus
20Pa le y mae y Doeth? pa le y mae yr Ysgrifennydd? pa le y mae dadleuwr y cyfnod hwn? oni drodd Duw yn ffolineb ddoethineb y byd?
21Canys yn gymmaint ag, yn noethineb Duw, nad adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn a bregethir gadw y rhai sydd yn credu.
22Yn gymmaint hefyd a bod Iuddewon yn gofyn am arwyddion, a Groegwyr yn chwilio am ddoethineb:
23eithr yr ydym ni yn pregethu Crist croeshoeliedig, i Iuddewon yn wir yn dramgwydd, ac i genhedloedd yn ffolineb;
24ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iuddewon a Groegwyr hefyd, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw.
25Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion, a gwendid Duw yn gryfach na dynion.
Safle fydol ei derbynwyr yn brawf o allu yr Efengyl.26Canys edrychwch ar eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o bendefigion, a elwir:
27eithr ffol‐bethau y byd a ddewisodd Duw, fel y cywilyddiai efe y doethion; a gwan‐bethau y byd a ddewisodd Duw, fel y cywilyddiai efe y pethau cedyrn;
28a phethau distadl y byd a phethau dirmygedig a ddewisodd Duw; pethau nad ydynt, fel y dirymmai y pethau sydd:
29fel nad ymffrostiai un cnawd ger bron Duw.
30Eithr o hono ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn ddoethineb i ni oddiwrth Dduw, ac hefyd yn gyfiawnder, ac yn sancteiddhâd, ac yn brynedigaeth:
31fel megys yr ysgrifennwyd:
Yr hwn sydd yn ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.