Ioan 7 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Anghrediniaeth Brodyr Crist.

1Ac ar ol y pethau hyn yr Iesu a rodiodd yn Galilea: canys nid oedd efe yn ewyllysio rhodio yn Judea, oblegyd bod yr Iuddewon yn ceisio ei ladd ef.

2A Gŵyl yr Iuddewon, Gwyl y Pebyll, oedd yn agos.

3Gan hyny ei Frodyr ef a ddywedasant wrtho, Symud oddi yma, a dos ymaith i Judea, fel hefyd y gwelo dy Ddysgyblion dy weithredoedd di, y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.

4Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yn ceisio i fod ei hun yn gyhoedd: os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd.

5Canys nid oedd hyd y nod ei Frodyr yn credu ynddo.

6Dywed yr Iesu gan hyny wrthynt, Nid yw fy amser cyfaddas i eto yn bresenol: ond eich amser cyfaddas chwi sydd yn wastad yn barod.

7Ni ddichon y byd eich cashâu chwi; ond myfi y mae yn ei gashâu, oblegyd fy mod i yn tystiolaethu am dano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg.

8Ewch chwi i fyny i'r Wyl: nid wyf fi yn myned i fyny i'r Wyl hon, oblegyd nid yw fy amser cyfaddas i wedi ei gyflawnu eto.

9Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arosodd yn Galilea.

Taith anghyhoedd yr Iesu i'r Wyl.

10Ond pan yr aeth ei Frodyr ef i fyny i'r Wyl, yna efe ei hun hefyd a aeth i fyny, nid yn amlwg, ond megys yn ddirgelaidd.

11Yr Iuddewon gan hyny oeddynt yn ei geisio ef yn yr Wyl, ac yn dywedyd, Pa le y mae efe?

12A grwgnach lawer oedd am dano ef yn mysg y torfeydd: rhai a ddywedent, Gwr da yw: ond eraill a ddywedent, Na, eithr cam‐arwain y dyrfa y mae.

13Er hyny, nid oedd neb yn llefaru yn agored am dano ef o achos ofn yr Iuddewon.

Ei Athrawiaeth o Dduw.

14Ond pan yr oedd weithian ganol yr Wyl, yr Iesu a aeth i fyny i'r Deml, ac a ddysgodd.

15A'r Iuddewon gan hyny oeddynt yn rhyfeddu, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb fod wedi dysgu?

16Yr Iesu gan hyny a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth i nid eiddof fi ydyw, ond eiddo yr hwn a'm hanfonodd i.

17Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a ddaw i wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae, ai fy mod i yn llefaru o honof fy hun.

18Yr hwn sydd yn llefaru o hono ei hun sydd yn ceisio ei ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd ef, hwnw sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo.

Cyfiawnhâd o'i iachâu ar y Sabbath.

19Oni roddodd Moses i chwi y Gyfraith? Ac nid oes un o honoch yn gwneuthur y Gyfraith: paham yr ydych yn ceisio fy lladd i?

20Y dorf a atebodd, y mae genyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?

21Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o herwydd hyn.

22Moses sydd wedi rhoddi i chwi yr Enwaediad, ond o'r Tadau ac ar ddydd Sabbath chwi a enwaedwch ddyn.

23Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar ddydd Sabbath, fel na thorer Cyfraith Moses, a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn cyfan yn iach ar ddydd Sabbath?

24Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch y farn gyfiawn.

Adnabod Crist heb ei adnabod.

25Dywedodd gan hyny rai o'r Jerusalemiaid, Onid hwn yw yr un y maent hwy yn ceisio ei ladd?

26Ac wele y mae yn llefaru yn eofn, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef! A ddaeth y Llywodraethwyr erioed i wybod mewn gwirionedd mai hwn yw y Crist?

27Eithr yr ydym ni yn adwaen hwn o ba le y mae: eithr y Crist, pan y mae yn dyfod, nid oes neb yn gwybod o ba le y mae.

28Yr Iesu gan hyny a lefodd allan yn y Deml, gan ddysgu a dywedyd, Chwi a'm hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: eto, nid ydwyf wedi dyfod o honof fy hun, ond yr hwn a'm hanfonodd i sydd yn un gwirioneddol, yr hwn nid adwaenoch chwi.

29Myfi a'i hadwaen ef, canys oddi wrtho ef yr ydwyf fi, ac efe a'm hanfonodd i.

30Am hyny yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; eto, ni osododd neb law arno ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod.

31Ond o'r dyrfa llawer a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo y Crist, a wna efe fwy o arwyddion na'r rhai a wnaeth hwn?

Ei ymweliad byr a'i ymadawiad hir.

32Y Phariseaid a glywsant y dyrfa yn sibrwd y pethau hyn am dano; a'r Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid a anfonasant is‐swyddogion, fel y dalient ef.

33Am hyny y dywedodd yr Iesu, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyd â chwi, ac yr wyf yn myned ymaith at yr hwn a'm hanfonodd.

34Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod.

35Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, I ba le y mae hwn a'r fedr myned, fel na chaffom ni ef? Ai at y rhai sydd ar wasgar yn mhlith y Groegiaid y mae ar fedr myned, a dysgu y Groegiaid?

36Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr wyf fi, ni ellwch ddyfod?

Addewid o'r Yspryd Glân.

37Ac ar y dydd diweddaf, dydd mawr yr Wyl, yr Iesu a safodd i fyny, ac a lefodd allan, gan ddywedyd, Os sycheda neb, deued ataf fi, ac yfed.

38Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megys y dywedodd yr Ysgrythyr,

Afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o'i ymysgaroedd:.

39Hyn a ddywedodd efe am yr Yspryd, yr hwn yr oedd y rhai a gredent ynddo ef ar fedr ei dderbyn canys yr Iesu ni ogoneddasid eto.

Ymraniad yn mhlith y bobl.

40 Rhai geiriau hyn, a ddywedasant,

Hwn yn wir yw y Proffwyd

41Eraill a ddywedasant,

Hwn yw y Crist

Ond rhai a ddywedasant, Beth! A ydyw y Crist yn dyfod allan o Galilea?

42Ai ni ddywedodd yr Ysgrythyr, mai o hâd Dafydd yn mhlith y dyrfa o'i achos ef.

44A rhai o honynt a fynasent ei ddal ef: ond ni roddodd neb ddwylaw arno ef.

45Daeth yr is‐swyddogion gan hyny at yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid; a'r rhai hyny a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef?

46Yr is‐swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel hyn.

47Y Phariseaid gan hyny a atebasant iddynt, A ydych chwithau hefyd wedi eich arwain ar gyfeiliorn?

48A gredodd neb o'r Llywodraethwyr ynddo ef, neu o'r Phariseaid?

49Eithr y dyrfa hon nad yw yn gwybod y Gyfraith, melldigedig ydynt.

50Y mae Nicodemus yn dywedyd wrthynt hwy, (yr hwn a ddaeth ato ef o'r blaen, ac oedd un o honynt),

51A ydyw ein Cyfraith ni yn barnu y dyn, oddi eithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod pa beth y mae yn ei wneyd?

52Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o Galilea? Chwilia a gwel, nad oes un proffwyd yn cyfod o Galileia.Y wraig a ddaliwyd mewn godineb.

53[A hwy a aethant bob un i'w dy ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help