1Yr un modd, chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr eich hunain, fel, hyd yn nod os oes rhai heb ufuddhau i'r Gair, trwy ymarweddiad y gwragedd yr enillir hwynt heb y Gair,
2gan sylwi o honynt ar eich ymarweddiad diwair gydag ofn;
3gan y rhai bydded, nid yr addurniad oddi allan o blethiad gwallt, ymwisgo â thlysau o aur neu wisgiad dillad,
4eithr cuddiedig ddyn y galon, yn addurniad anllygredig yr yspryd addfwyn a thawel, yr hwn sydd ger bron Duw yn dra gwerthfawr.
5Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai a obeithient yn Nuw, yn arfer ymaddurno, gan fod yn ddarostyngedig i'w gwŷr eu hunain;
6megys yr ufuddhaodd Sarah i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd, plant i'r hon y'ch gwnaed trwy wneuthur yr hyn sydd dda, ac heb ofni unrhyw arswyd.
7Y gwŷr, yr un modd, cyd‐drigwch â'ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gan roddi anrhydedd i'r wraig, megys i'r llestr gwannaf, megys hefyd yn gyd‐etifeddion grâs y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau.
Anogaeth i undeb a chariad.8Yn olaf, byddwch oll yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn caru'r frawdoliaeth, yn dosturiol, yn ostyngedig,
9nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen; ond yng ngwrthwyneb, yn bendithio, gan i hyn y'ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.
10Canys,
Yr hwn a ewyllysia garu bywyd
A gweled dyddiau da,
Atalied ei dafod oddi wrth ddrwg
A'i wefusau rhag llefaru twyll:
11Gocheled y drwg, a gwnaed y da;
Ceisied heddwch, a dylyned ef;
12Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn,
A'i glustiau ef tu ag at eu deisyfiad hwynt:
Eithr wyneb yr Arglwydd sydd ar y rhai sydd yn gwneuthur drwg.
Bendigedigrwydd dyoddef dros Grist.13A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn selog am yr hyn sydd dda?
14Eithr os bydd i chwi hyd yn nod ddyoddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch eu dychryn hwynt, ac na'ch cynhyrfer,
15eithr fel Arglwydd sancteiddiwch Grist yn eich calonnau; gan fod yn barod bob amser gydag ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch,
16eithr gydag addfwynder ac ofn; a chennych gydwybod dda; fel, yn yr hyn y lleferir yn eich erbyn, y cywilyddier y rhai sydd yn sarhâu eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist.
17Canys gwell ydyw, os cwyllys Duw a'i myn, i chwi ddyoddef pan yn gwneuthur daioni na phan yn gwneuthur drwg.
Dyoddefaint Crist a'i ganlyniadau.18Canys Crist hefyd unwaith am byth a ddyoddefodd am bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei roddi i farwolaeth yn y cnawd, ond ei fywhâu yn yr yspryd;
19yn yr hwn hefyd yr aeth efe ac a bregethodd i'r ysprydion yngharchar,
20y rhai a fuont gynt yn anufudd, pan ddisgwyliai hir‐amynedd Duw yn nyddiau Noah, tra y darperid yr Arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr.
21Yr hwn hefyd, yn y gwrth‐gysgod, sef Bedydd, sydd yn awr yn eich achub chwi, — nid golchiad ymaith fudreddi y cnawd, ond ymholiad cydwybod dda tu ag at Dduw — trwy Adgyfodiad Iesu Grist;
22yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i'r nef, angylion, awdurdodau, a galluoedd wedi eu darostwng iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.