1A hwy yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid a Chadben y Deml, a'r Saduceaid, a ddaethant arnynt hwy,
2yn flin iawn ganddynt am eu bod hwy yn dysgu y bobl, ac yn cyhoeddi yn yr Iesu yr Adgyfodiad sydd oddiwrth y meirw.
3A hwy a osodasant ddwylaw arnynt, ac a'u dodasant mewn dalfa erbyn trannoeth: canys yr oedd hi weithian yn hwyr.
4Ond llawer o'r rhai a glywsant y Gair a gredasant; a rhifedi y gwyr a gyrhaeddodd ynghylch pum mil.
5A dygwyddodd drannoeth i'w Llywodraethwyr a'r Henuriaid a'u Hysgrifenyddion hwy ymgynull yn Jerusalem;
6ac yr oedd Annas yr Arch‐offeiriad yno, a Chaiaphas, ac Ioan, ac Alexander, a chynifer ag oedd o'r tylwyth Arch‐offeiriadol.
7Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a holasant, Yn mha allu neu yn mha enw y gwnaethoch chwi hyn.
8Yna Petr, wedi ei lenwi â'r Yspryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Llywodraethwyr y bobl, a Henuriaid,
9os holir ni heddyw am weithred dda i ddyn eiddil, trwy ba foddion y mae hwn wedi ei iachau;
10bydded hyspys i chwi oll, ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Nazaread, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, yn Hwn y mae hwn yn sefyll yn eich gwydd chwi yn iach.
11Hwn yw y maen a ddiystyrwyd genych chwi, yr adeiladwyr, wedi ei wneuthur yn ben y gongl.
12Ac nid oes yn neb arall iachawdwriaeth: canys hefyd nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi yn mhlith dynion, yn yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.
Rhyddhâd yr Apostolion, 13–22.13A hwy yn gweled hyfder Petr ac Ioan, ac wedi dal sylw mai dynion anllythyrenog a chyffredin oeddynt, a ryfeddasant; a daethant i wybod iddynt fod gyda'r Iesu.
14Ac wrth weled y dyn oedd wedi ei iachâu yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i wrth‐ddywedyd.
15Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned ymaith allan o'r Sanhedrin, hwy a gyd‐ymgynghorasant a'u gilydd, gan ddywedyd,
16Beth fedrwn ni wneyd i'r dynion hyn? Canys yn wir arwydd adnabyddus sydd wedi ei wneuthur trwyddynt hwy, amlwg i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerusalem; ac nis gallwn ei wadu.
17Eithr fel na ledaener y peth
yn mhellach yn mhlith y bobl, bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn.18Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant na thraethent ac na ddysgent ddim o gwbl yn enw yr Iesu.
19Eithr Petr ac Ioan, gan ateb iddynt, a ddywedasant, Ai cyfiawn ydyw, yn mhresenoldeb Duw, i wrandaw arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch:
20canys ni allwn ni beidio a llefaru y pethau a welsom ac a glywsom.
21Eithr hwy, wedi eu bygwth yn mhellach a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael allan pa fodd y cospent hwynt, o achos y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi ei wneuthur.
22Canys mwy na deugain oed oedd y dyn ar yr hwn y gwnaethpwyd yr arwydd hwn o iachâd.
Gweddi yr Eglwys a'i hateb, 23–31.23A hwy, wedi eu gollwng yn rhyddion, a aethant at yr eiddynt, ac a fynegasant pa pethau bynag a ddywedodd yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid wrthynt.
24A hwy, pan glywsant, yn unfryd a godasant eu llais at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, Tydi, yr hwn a wnaethost y nef a'r ddaear a'r môr, a'r oll sydd ynddynt:
25yr hwn, trwy yr Yspryd Glân, trwy enau ein Tâd Dafydd, dy was, a ddywedaist,
Paham y ffromodd cenhedloedd,
Ac y dyfeisiodd pobloedd bethau ofer?
26Brenhinoedd y ddaear a safasant yn ymyl,
A'r Llywodraethwyr a gasglwyd i'r un lle
Yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.
27Canys casglwyd ynghyd, mewn gwirionedd, yn y Ddinas hon, yn erbyn dy sanctaidd Was Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat, gyda Chenhedloedd a phobloedd Israel,
28i wneuthur pa pethau bynag a rag‐ordeiniodd dy law a'th gynghor i ddyfod i i ben.
29Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a dyro i'th weision lefaru dy Air di gyda phob hyfder,
30tra yr estyni di dy law er iachâd, ac y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Was Iesu.
31Ac wedi iddynt weddio, siglwyd y lle yn yr hwn yr oeddynt wedi ymgynull, a hwy a lanwyd oll o'r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder.
Cyd‐feddianaeth Gristionogol, 32–37.32A'r lliaws o'r rhai a gredasant oeddynt o un galon ac enaid: ac nid oedd hyd y nod un a ddywedai fod dim o'i feddianau yn eiddo iddo ei hun; eithr yr oedd pob peth yn gyffredin ganddynt.
33A chyda gallu mawr yr oedd yr Apostolion yn rhoddi eu tystiolaeth o Adgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll.
34Canys nid oedd chwaith un anghenus yn eu plith hwy; oblegyd cynifer ag oedd berchenogion tiroedd neu dai a'u gwerthasent, ac a ddygasent werth y pethau a werthasid,
35ac a'u gosodasent wrth draed yr Apostolion, a chyfrenid i bob un megys yr oedd anghen arno.
36A Joseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr Apostolion (yr hyn o'i gyfieithu yw, Mab Cynghor), Lefiad, genedigol o Cyprus,
37a maes ganddo, ac wedi ei werthu, efe a ddygodd y swm o arian, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.