1Canys gan mai cysgod sydd gan y Gyfraith o ddaionus bethau i ddyfod, ac nid delw
y gwrthrychau, nis gallant gyda'r un aberthau flwyddyn ar ol blwyddyn, y rhai a offrymant yn wastadol, byth berffeithio y rhai a agoshânt.2Pe amgen, oni pheidiasent â'u hoffrymu, gan na fyddai mwyach gydwybod o bechodau gan yr addolwyr, gan eu bod wedi eu glanhâu unwaith am byth?
3Eithr yn yr aberthau hynny, y mae adgoffâd o bechodau bob blwyddyn;
4canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.
Ufudd‐dod ac nid aberth.5Gan hynny, pan yn dyfod i'r byd, efe a ddywed,
Aberth ac offrwm nis mynnaist,
Ond corph a gymhwysaist i mi;
6Mewn cyfan boeth‐offrymau a phech‐aberthau ni'th foddlonwyd;
7Yna dywedais, Wele fi wedi dyfod,
(Yn rhôl y llyfr yr ysgrifennwyd am danaf).
I wneuthur dy ewyllys di, O Dduw.
8Wrth ddywedyd uchod, Aberthau ac offrymau a chyfan boeth‐offrymau a phech‐aberthau nis mynnaist, ac ni'th foddlonwyd ynddynt, y rhai yn ol y Gyfraith a offrymir,
9yna y dywedodd, Wele fi wedi dyfod i wneuthur dy ewyllys di, yn hyn y mae yn tynnu ymaith y cyntaf fel y sefydlo yr ail.
10Ac yn yr ewyllys hwn yr ydym ni wedi ein sancteiddio trwy offrymiad corph Iesu Grist unwaith am byth.
Aberth Crist yn holl‐haeddiannol.11Ac y mae pob offeiriad yn wir yn sefyll o ddydd i ddydd yn gwasanaethu ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau;
12ond hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau, am byth a eisteddodd ar ddeheulaw Duw;
13o hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion yn droedfaingc i'w draed.
14Canys âg un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai sydd yn cael eu sancteiddio.
15Ond tystiolaetha yr Yspryd Glân hefyd i ni, canys wedi iddo ddywedyd,
16Hwn yw y Cyfamod a amodaf â hwynt,
Ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd,
Gan roddi fy nghyfreithiau yn eu calon,
Mi a'u hysgrifennaf hefyd ar eu meddwl,
17 Ychwanega ,
A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwy.
18Yn awr lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm am bechod.
Cynghorion sylfaenedig ar y Cyfamod Newydd.19Am, hynny, frodyr, gan fod gennym hyfder i fyned i mewn i'r Cysegr yng ngwaed yr Iesu,
20yr hon a agorodd efe i ni yn ffordd newydd a byw, trwy y llen, hynny yw, ei gnawd ef,
21ac offeiriad mawr ar dŷ Dduw,
22nesâwn a chalon gywir mewn llawn‐sicrwydd ffydd, ein calonnau wedi eu taenellu oddiwrth gydwybod ddrwg, a'n corph wedi ei olchi â dwfr glân.
23Daliwn afael yng nghyffes ein gobaith fel y byddo yn ddiysgog; canys ffyddlawn yw yr hwn a addawodd;
24ac ystyriwn ein gilydd er ein cyffroi i gariad a gweithredoedd hardd‐deg;
25heb roddi i fyny y cynnulliad o honom ein hunain ynghyd, megys y mae arfer rhai, eithr gan galonogi ein gilydd, a hynny yn fwy, o gymaint a'ch bod yn gweled y Dydd yn nesâu.
Euogrwydd a chosp gwrthgiliad.26Canys pan o'n gwirfodd y parhawn i bechu, ar ol derbyn llawn‐wybodaeth o'r gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau yn aros mwyach,
27eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farn, ac angerdd tân ar fedr ysu y gwrthwynebwyr.
28Un a ddirmygo Gyfraith Moses sydd yn marw heb dosturi ar air dau neu dri o dystion;
29pa faint gwaeth cospedigaeth, dybygwch, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd dan draed Fab Duw, ac a gyfrifodd waed y Cyfamod, yn yr hwn y sancteiddiwyd ef, yn beth aflan, ac a sarhâodd Yspryd y gras?
30Canys adwaenom yr hwn a ddywedodd, I mi y perthyn dial, myfi a dalaf. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl.
31Peth ofnadwy yw syrthio i ddwylaw Duw byw.
Eu ffyddlondeb yn y gorphennol.32Ond gelwch i'ch cof y dyddiau yn yr amser o'r blaen yn y rhai, wedi eich goleuo, chwi a ddaliasoch i fyny dan ymdrechfa fawr o ddyoddefiadau;
33weithiau trwy gael eich gwneuthur yn ddrych cyhoeddus mewn gwaradwyddiadau a gorthrymderau, weithiau trwy ddyfod yn gyfranogion â'r rhai oeddent yn yr un cyflwr.
34Canys chwi a gyd‐ymdeimlasoch â'r rhai mewn rhwymau, ac a gymerasoch yspeilio eich meddiannau gyda llawenydd, gan wybod fod gennych eich hunain yn feddiant gwell ac arosol.
35Am hynny na fwriwch ymaith eich hyfder, yr hwn sydd gyfryw ag y mae iddo daledigaeth fawr.
36Canys y mae angen hir‐ymaros arnoch, fel, gan wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.
37Canys eto ychydig bychan bach,
Yr Hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.
38Eithr fy ngŵr cyfiawn a fydd byw trwy ffydd,
Ac os tyn yn ol, nid ymhyfryda fy enaid ynddo.
39Eithr nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynnu yn ol i golledigaeth, eithr o'r rhai sydd ganddynt ffydd i gaffaeliad enaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.