1Ac yr oedd yn Antioch, yn yr Eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon: Barnabas, a Symeon yr hwn a elwir Niger, a Lucius y Cyreniad, Manaen hefyd, brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Saul.
2Ac a hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch yn awr i mi Barnabas a Saul i'r gwaith i'r hwn yr wyf wedi eu galw.
3Yna wedi ymprydio, a gweddio, a dodi eu dwylaw arnynt, hwy a'u gollyngasant ymaith.
Eu gweinidogaeth yn Cyprus, 4–12.4Hwythau yn wir gan hyny, wedi eu danfon allan gan yr Yspryd Glân, a aethant i waered i Seleucia; ac oddiyno hwy a hwyliasant ymaith i Cyprus.
5A phan gyrhaeddasant Salamis, hwy a fynegasant Air Duw yn Synagogau yr Iuddewon: ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd fel eu cynorthwywr.
6Ac wedi myned trwy yr holl ynys hyd Paphos, hwy a gawsant un Magiad, gau‐brophwyd, Iuddew,
7o'r enw Bar‐Iesu, yr hwn oedd gyda'r Rhaglaw, Sergius Paulus, gwr deallus. Hwn wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd glywed Gair Duw.
8Eithr Elymas y Magiad (canys felly y cyfieithir ei enw ef) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi y Rhaglaw oddiwrth y Ffydd.
9Eithr Saul, yr hwn hefyd yw Paul, wedi ei lanw o'r Yspryd Glân, ac wedi edrych yn graff arno,
10a ddywedodd, O tydi, yn gyflawn o bob twyll ac o bob ystryw, Mab Diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di a gŵyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd?
11Ac yn awr, wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall, heb weled yr haul am dymhor. Ac yn y man syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, ac efe, gan fyned o amgylch, a geisiodd rai i'w arwain gerfydd ei law.
12Yna pan welodd y Rhaglaw yr hyn a wnaethid, efe a gredodd, gan ei daro a syndod at ddysgeidiaeth yr Arglwydd.
Myned i Asia Leiaf, a phregethu yn Antioch, 13–43.13Ac wedi morio ef a ddaethant i Perga yn Pamphylia: ac Ioan, gan ymadael oddiwrthynt, a ddychwelodd i Jerusalem.
14Eithr hwy, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antioch yn Pisidia; a hwy a aethant i'r Synagog ar y dydd Sabbath, ac a eisteddasant.
15Ac ar ol darllen y Gyfraith a'r Prophwydi, Llywodraethwyr y Synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, O wyr Frodyr, os oes genych air o gynghor i'r bobl, traethwch.
16A Phaul a gyfododd, a chan amneidio a'i law a ddywedodd,
O wyr o Israeliaid, a'r rhai sydd yn ofni Duw, gwrandewch:
17Duw y bobl hyn, Israel, a ddewisodd iddo ei hun ein Tadau, ac a ddyrchafodd y bobl pan yn preswylio yn ngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dygodd efe hwynt allan o honi.
18Ac ynghylch deugain mlynedd y meithrinodd efe hwynt yn yr Anialwch.
19Ac wedi iddo ddyfetha saith genedl yn ngwlad Canaan, efe a roddodd eu gwlad iddynt yn etifeddiaeth am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain;
20ac ar ol y pethau hyn efe a roddodd Farnwyr hyd Samuel y Prophwyd.
21Ac o'r amser hyny y gofynasant am frenhin, a Duw a roddodd iddynt Saul, mab Cis, gwr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd.
22Ac wedi iddo ei symud ef, efe a gyfododd Dafydd iddynt i fod yn frenhin; i'r hwn hefyd y tystiolaethodd, ac a ddywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gwr yn ol fy nghalon, yr hwn a wna fy holl ewyllys.
23O hâd hwn, Duw, yn ol addewid, a ddygodd i Israel Iachawdwr, Iesu;
24gwedi i Ioan rag‐bregethu, o flaen ei Ddyfodiad ef, Fedydd Edifeirwch i holl bobl Israel.
25Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pa beth dybiwch chwi wyf fi? nid myfi yw efe
; ond wele y mae un yn dyfod ar fy ol i, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddatod esgidiau ei draed.26O wyr frodyr, meibion cenedl Abraham, a'r rhai sydd yn eich plith yn ofni Duw, i ni y mae Gair yr Iachawdwriaeth hon wedi ei anfon allan:
27canys y rhai sydd yn preswylio yn Jerusalem, a'u llywodraethwyr, heb adnabod hwn na lleisiau y Prophwydi, y rhai a ddarllenir bob Sabbath gan ei farnu a'u cyflawnasant.
28Ac heb gael ynddo achos angeu, hwy a ddeisyfasant ar Pilat ar iddo gael ei ladd.
29A phan orphenasant bob peth oedd wedi ei ysgrifenu am dano, hwy a'i cymerasant ef i lawr oddiar y pren, ac a'i dodasant ef mewn bedd.
30Eithr Duw a'i cyfododd ef o feirw;
31ac efe a welwyd am ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerusalem, y rhai yn awr ydynt ei dystion ef wrth y bobl.
32Ac yr ydym ni yn pregethu i chwi yr Addewid a wnaethpwyd i'r Tadau,
33fod Duw wedi ei chyflawni i'n plant, gan gyfodi yr Iesu; fel y mae yn ysgrifenedig yn yr ail Salm,
Fy Mab ydwyt ti, Myfi heddyw wyf wedi dy genhedlu ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y mae wedi ddywedyd,
Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd a wnaed yn sicr i Dafydd,
35Oherwydd hefyd y mae yn dywedyd mewn un arall,
Ni roddi dy Sanct i weled llygredigaeth (Salm 16:10).
36Canys Dafydd yn wir, wedi gwasanaethu ei genhedlaeth ei hun yn ol Cynghor Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth.
37Eithr yr hwn a gyfododd Duw ni welodd lygredigaeth.
38Am hyny, bydded hyspys i chwi, O wyr frodyr, mai trwy hwn y dadgenir i chwi faddeuant pechodau.
39Ac oddiwrth yr holl bethau oddiwrth y rhai ni allech yn Nghyfraith Moses gael eich cyfiawnhau, yn hwn, pob un sydd yn credu, a gyfiawnheir,
40Edrychwch gan hyny na ddel yr hyn a ddywedwyd yn y Prophwydi,
41Gwelwch, O ddirmygwyr a rhyfeddwch, a diflanwch o'r golwg;
Canys yr wyf fi yn gweithredu gweithred yn eich dyddiau;
Gweithred na chredwch o gwbl er i un ei dadgan yn llawn i chwi.
Awydd y Cenhedloedd, a chenfigen yr Iuddewon, 42–52.42Ac fel yr oeddent yn myned allan, hwy a atolygasant am i'r geiriau hyn gael eu llefaru wrthynt ar y Sabbath dylynol.
43A phan ollyngwyd y gynulleidfa, llawer o'r Iuddewon ac o'r Proselytiaid duwiol‐frydig a ganlynasant Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a'u cymhellasant i barhâu yn ngras Duw.
44A'r Sabbath dyfodol bron yr holl ddinas a gasglwyd ynghyd i wrandaw Gair yr Arglwydd.
45Eithr yr Iuddewon yn gweled y torfeydd, a lanwyd o eiddigedd, ac a wrth‐ddywedasant y pethau a leferid gan Paul, ac a gablasant.
46Eithr Paul a Barnabas a lefarasant yn hyf, ac a ddywedasant, Yr oedd anghenrhaid i lefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf. Hefyd, gan eich bod yn ei wthio oddiwrthych, ac yn barnu eich hun yn anheilwng o fywyd tragywyddol, wele, yr ydym ni yn troi at y Cenhedloedd;
47canys felly y mae yr Arglwydd wedi gorchymyn i ni,
Yr wyf wedi dy osod i fod yn oleuni'r Cenhedloedd,
Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear. (Es 49:6).
48A'r Cenhedloedd yn clywed hyn a lawenychasant, ac a ogoneddasant Air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol a gredasant.
49A Gair yr Arglwydd a ledaenwyd trwy yr holl wlad.
50A'r Iuddewon a gymhellasant yn mlaen y gwragedd defosiynol o safle anrhydeddus a phrif ddynion y ddinas a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwynt allan o'u terfynau.
51Ond hwy, wedi ysgwyd ymaith lwch eu traed yn eu herbyn hwynt, a ddaethant i Iconium.
52A'r dysgyblion a lanwyd o lawenydd ac o'r Yspryd Glân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.