Luc 7 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Ffydd y Canwriad, ac iachâd ei was[Mat 8:5–13]

1Yn gymaint ag iddo orphen ei holl ymadroddion yn nghlyw y Bobl, efe a aeth i mewn i Capernäum.

2A gwas rhyw ganwriad oedd glaf, yn mron marw, yr hwn oedd werthfawr iawn ganddo.

3A phan glybu efe am yr Iesu, efe a ddanfonodd ato Henuriaid yr Iuddewon, gan ofyn iddo ddyfod a llwyr‐iachâu ei was ef.

4A phan gyrhaeddasant at yr Iesu, hwy a atolygasant yn daer arno, gan ddywedyd, Teilwng yw efe wneuthur o honot hyn iddo:

5canys y mae efe yn caru ein cenedl ni, ac efe ei hun a adeiladodd i ni Synagog.

6A'r Iesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fod yn mhell oddi wrth y tŷ, y Canwriad a anfonodd gyfeillion ato, ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, na flina dy hun: canys nid wyf fi deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd:

7o hewydd paham ni thybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat; ond dywed mewn gair, a bydd iach fy ngwas.

8Canys dyn wyf finau hefyd yn cael fy ngosod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac y mae yn dyfod; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae yn ei wneuthur.

9A phan glybu yr Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drôdd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn ef, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo, yn yr Israel.

10A'r rhai a ddanfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i'r tŷ, a gawsant y gwas yn holliach.

Adferiad bywyd i Fab y weddw o Nain.

11A bu, a'i Ddysgyblion a aethant gyd âg ef, a thyrfa fawr.

12A phan ddaeth efe yn agos i borth y Ddinas, wele un marw a ddygid allan, unig‐anedig fab i'w fam, a hithau yn weddw; a thyrfa lawer o'r Ddinas oedd gyd â hi.

13A'r Arglwydd, pan y gwelodd hi, a gymmerodd dosturi arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.

14Ac efe a ddaeth yn mlaen, ac a gyffyrddodd a'r arch: a'r cludwyr a safasant: ac efe a ddywedodd, Ddyn ieuanc, yr wyf yn dywedyd i ti, Cyfod.

15A'r marw a eisteddodd i fyny, ac a ddechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddodd ef i'w fam.

16Ac ofn a'u meddianodd oll, a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd Mawr a gyfododd yn ein plith, ac, Duw a ymwelodd hwn a aeth allan am dano ef drwy holl Judea, a'r holl wlad oddi amgylch.

Anhawsder Ioan Fedyddiwr[Mat 11:2–6]

18A'i Ddysgyblion a fynegasant i Ioan yr holl bethau hyn. Ac Ioan, wedi galw ato rhyw ddau o'i Ddysgyblion,

19a ddanfonodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod, neu, a ydym yn dysgwyl un gwahanol?

20A'r gwŷr, pan ddaethant ato, a ddywedasant, Y mae Ioan Fedyddiwr wedi ein danfon ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod, neu, a ydym yn dysgwyl un arall?

21Ac yn yr awr hono efe a wellhâodd lawer o glefydau, a phläau, ac ysprydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhad‐roddodd efe iddynt i weled.

22Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'ch ffordd, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn gweled drachefn, a chloffion yn rhodio; rhai gwahan‐glwyfus yn cael eu glanhâu, byddariaid yn clywed, meirwon yn cyfodi, a thlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.

23A gwyn ei fyd yr hwn ni rwystrir.

26Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a llawer amgenach na Phroffwyd.

27Dyma yr un am yr hwn y mae wedi ei ysgrifenu:

Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb,

Yr hwn a barotöa dy ffordd o'th flaen.

28Yr wyf yn dywedyd i chwi, yn mhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes un

mwy nag Ioan: eithr yr hwn sydd lai yn Nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.

29A'r holl bobl, pan glywsant, a'r Treth‐gasglwyr, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â Bedydd Ioan.

30Ond y Phariseaid a Deonglwyr y Gyfraith a ddiystyrasant gynghor Duw mewn perthynas iddynt hwy eu hunain, heb eu bedyddio ganddo.

Teithi yr Oes[Mat 11:16–19]

31I ba beth gan hyny y cyffelybaf ddynion y genedlaeth hon? Ac i ba beth y maent yn debyg?

32Tebyg ydynt i blant bychain yn eistedd yn y farchnad, ac yn galw ar eu gilydd, gan ddywedyd, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: cwynfanasom, ac nid wylasoch.

33Canys y mae Ioan wedi dyfod heb na bwyta bara nac yfed gwin a gyfiawnhâwyd ar ran ei holl blant.

Y Pharisead a'r Bechadures[Mat 26:6–13; Marc 14:3–9; Ioan 12:1–9]

36A rhyw un o'r Phariseaid a ofynodd iddo i fwyta gyd âg ef: ac efe a aeth i mewn i dŷ y Pharisead ac a eisteddodd i lawr i fwyta.

37Ac wele yr oedd gwraig, yr hon oedd yn y Ddinas, Pechadures: a phan wybu hi yn sicr fod yr Iesu yn eistedd i fwyta yn nhŷ y Pharisead, hi a ddygodd lestr alabastr, ac a'u heneiniodd â'r enaint.

39A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Y dyn hwn, pe fyddai Broffwyd, a wybuasai pwy a pha fath un yw y wraig sydd yn cyffwrdd âg ef, canys Pechadures yw.

40A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Simon, y mae genyf beth i ddywedyd wrthyt. Ac efe a ddywed, Athraw, dywed.

41Yr oedd dau ddyledwr i ryw echwynwr: y naill oedd ddyledus am bum can denarion, a'r llall ddeg a deugain.

42A chan nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Pwy o honynt gan hyny a'i câr ef fwyaf?

43A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe fwyaf iddo. Ac efe a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.

44Ac efe a drôdd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A ddeli di sylw ar y wraig hon? Mi a ddaethum i'th dŷ di: dwfr ni roddaist i mi at fy nhraed: ond hi a wlychodd fy nhraed â'i dagrau, ac a'u sychodd â'i gwallt.

45Ni roddaist ti i mi gusan; ond hon er pan y daethum i mewn, ni pheidiodd o gwbl a chusanu fy nhraed drachefn a thrachefn.

46Ni eneiniaist ti fy mhen âg olew; ond hon a eneiniodd fy nhraed âg enaint.

47Er mwyn hyn, meddaf i ti, y mae ei haml bechodau hi wedi eu maddeu; oblegyd hi a garodd yn fawr: ond i'r hwn y mae ychydig yn cael ei faddeu, efe a gâr ychydig.

48Ac efe a ddywedodd wrthi, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu.

49A'r rhai oedd yn cyd‐eistedd i fwyta, a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd hyd y nod yn maddeu pechodau?

50Ond efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd di sydd wedi dy achub, dos mewn tangnefedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help