1Ac efe a aeth i mewn, ac a ddechreuodd fyned trwy Jericho.
2Ac wele wr a elwid wrth yr enw Zacchëus; ac yr oedd efe yn brif Drethgasglwr, ac yr oedd yn gyfoethog.
3Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth.
4Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i fyny ar sycomorwydden, fel y gwelai efe ef, oblegyd yr oedd efe ar ddyfod y ffordd hono.
5A phan ddaeth efe at y lle, yr Iesu a edrychodd i fyny,, ac a ddywedodd wrtho, Zacchëus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.
6Ac efe a ddisgynodd ar frys, ac a'i gwahoddodd ef yn llawen.
7A phan welsant, grwgnach yn ddirfawr a wnaethant oll, gan ddywedyd, Efe a aeth i mewn i letya gyd â dyn pechadurus!
8A Zacchëus a safodd i fyny, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, yr haner o'm meddianau, Arglwydd, yr wyf yn eu rhoddi i'r tlodion; ac os cam‐golledais neb, yr wyf yn ei ad‐dalu bedwar cymaint.
9A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth Iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fod yntau hefyd yn fab Abraham.
10Canys daeth Mab y Dyn i geisio ac i gadw yr hyn oedd wedi ei golli.
Dammeg y Deg Mina.11Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod yn agos i Jerusalem, ac am iddynt dybied fod Teyrnas Dduw ar ymddangos a aeth i wlad bell i dderbyn Teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd.
13Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddodd iddynt ddeg mina, ac a ddywedodd wrthynt, Masnachwch tra fyddwyf yn dyfod.
14Eithr ei ddinaswyr ef oeddynt yn ei gashâu, ac a ddanfonasant genadaeth ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynwn ni hwn i deyrnasu arnom.
15A bu, pan ddychwelodd drachefn, wedi derbyn y Deyrnas, ddywedyd o hono ef hefyd alw ato y gweision hyn, i'r rhai yr oedd wedi rhoddi yr arian, fel y gwybyddai beth a wnaethent mewn masnach.
16A'r cyntaf a ddaeth ger ei fron, gan ddywedyd, Arglwydd, dy fina a wnaeth ddeg mina yn ychwaneg.
17Ac efe a ddywedodd wrtho, Da yn wir, was da: canys ti a fuost yn ffyddlawn yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod dros ddeg dinas.
18A daeth yr ail, gan ddywedyd, Dy fina, Arglwydd, a wnaeth bum mina.
19Ac efe a ddywedodd wrth hwn hefyd, Bydd dithau hefyd dros bum dinas.
20A'r un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, Wele dy fina di, yr hon oedd genyf wedi ei dodi ymaith mewn napcyn;
21canys yr oeddwn yn dy ofni di, am dy fod yn wr caled: yr wyt yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuaist.
22Ac y mae efe yn dywedyd wrtho, Allan o'th enau dy hun y'th farnaf, O was drwg. A wyddit fy mod i yn wr caled; yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodais i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuais?
23A phaham na roddaist fy arian i'r banc; a minau a ddaethwn ac a'u codwn gyd â llôg?
24Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y fina, a rhoddwch i'r hwn y mae deg mina ganddo.
25A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg mina.
26Yr wyf yn dywedyd i chwi, I bob un y mae ganddo y rhoddir; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith.
27Yn mhellach, fy ngelynion hyn, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch hwynt ger fy mron i.
28Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fyny i Jerusalem.
Y Farchogaeth freninol i Jerusalem[Mat 21:1–9; Marc 11:1–10; Ioan 12:12–19]29A bu, pan neshâodd efe i Bethphage a Bethania, wrth y Mynydd a elwid Olew‐wydd, efe a anfonodd ddau o'i Ddysgyblion,
30gan ddywedyd, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn pan yr eloch i mewn, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb dynion erioed; a chan ei ollwng ef yn rhydd, arweiniwch ef yma.
31Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng yn rhydd? fel hyn y dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu.
32A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedodd efe wrthynt.
33A hwy yn gollwng yr ebol yn rhydd, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol yn rhydd?
34A hwy a ddywedasant, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu.
35A hwy a'i harweiniasant ef at yr Iesu; ac wedi iddynt fwrw eu gwisgoedd uchaf ar yr ebol, hwy a osodasant yr Iesu arno.
36Ac fel yr oedd efe yn myned, yr oeddynt yn taenu eu gwisgoedd uchaf eu hunain ar y ffordd.
37Ac weithian, ac efe yn neshâu at ddisgynfa Mynydd yr Olew‐wydd, dechreuodd yr holl luaws Dysgyblion lawenhâu a moli Duw gyd â llef uchel am yr holl weithredoedd nerthol a welsant,
38gan ddywedyd,
Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd!
Yn y Nef Tangnefedd, a Gogoniant yn y Goruchafion!
39A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho ef, Athraw, cerydda dy Ddysgyblion.
40Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y cerig a lefant allan.
Crist yn wylo dros Jerusalem.41A phan ddaeth efe yn agos, efe a welodd y Ddinas, ac a wylodd allan drosti,
42gan ddywedyd, O na wybuasit tithau hefyd, yn y dydd hwn, y pethau a berthynant i dy heddwch: eithr yn awr cuddiwyd hwy oddi wrth dy lygaid!
43Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant wrthglawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant yn hollol, ac a'th warchaeant o bob tu,
44ac a'th fwriant i'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: am na wybuaist amser dy Ymweliad.
45Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oeddynt yn gwerthu,
46gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig,
A bydd fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi:
Eithr chwi a'i gwnaethoch yn Ogof Ysbeilwyr.
47Ac yr oedd efe yn dysgu beunydd yn y Deml: ond yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion oeddynt yn ceisio ei ddyfetha ef, fel y gwnai hefyd Benaethiaid y bobl:
48ac ni chawsant beth a fedrent wneuthur; canys yr holl bobl oeddynt yn crogi wrth ei wefusau, pan yn gwrando.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.