1Ac ynghylch y tymhor hwnw y gosododd Herod y Brenhin ei ddwylaw i ddrygu rhai o'r Eglwys.
2Ac efe a laddodd Iago, brawd Ioan, a'r cleddyf.
Carchariad a gwaredigaeth Petr, 3–19.3A phan welodd fod y peth yn boddloni yr Iuddewon, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd. A dyddiau y bara dilefeinllyd oeddynt.
4Yr hwn hefyd, wedi iddo ei ddal, a osododd efe yn ngharchar, ac a'i traddododd i bedwar gwarchodlu‐o‐bedwar o filwyr i'w gadw; gan fwriadu ar ol y Pasc ei ddwyn ef allan.
5Gan hyny yn wir Petr oedd yn cael ei wylio yn y carchar: ond gweddi a wnaed yn daer gan yr Eglwys at Dduw am dano ef.
6A phan oedd Herod ar fedr ei ddwyn ef allan, y noson hono yr oedd Petr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn: ceidwaid hefyd o flaen y drws oeddynt yn gwylio y carchar.
7Ac wele, Angel yr Arglwydd a safodd yn ymyl, a goleuni a ddysglaeriodd yn y gell: ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i deffrôdd ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys: a'i gadwyni ef a syrthiasant ymaith oddi am ei ddwylaw.
8A dywed yr Angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac efe a wnaeth felly. A dywed wrtho, Gwisg dy gochl am danat, a chanlyn fi.
9A chan fyned allan efe a ganlynodd, ac ni wyddai fod yr hyn a wnaethid trwy yr Angel yn wirioneddol, eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.
10Ac wedi myned heibio y gyntaf wyliadwriaeth a'r ail, hwy a ddaethant at y porth haiarn, yr hwn sydd yn arwain i'r Ddinas, yr hwn a agorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi myned allan, hwy a aethant yn mlaen ar hyd un heol: ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymaith oddiwrtho.
11A Phetr wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir i'r Arglwydd anfon allan ei Angel, ac a'm cymerodd allan o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iuddewon.
12Ac wedi iddo amgyffred y peth, efe a ddaeth i dy Mair mam Ioan, yr hwn a gyfenwir Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu ac yn gweddio.
13Ac wedi iddo guro drws y porth, morwynig a ddaeth i ymwrando o'r enw Rhoda;
14ac wedi adnabod llais Petr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd, eithr hi a redodd i mewn ac a fynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.
15Ond hwy a ddywedasant wrthi, Yr wyt yn ynfyd. Hithau a daerodd yn sicr mai felly yr oedd. Ond hwy a ddywedasant, ei angel ef ydyw.
16A Phetr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agoryd, hwy a'i gwelsant ef ac a synasant.
17Ac wedi amneidio arnynt â llaw i dewi, efe a adroddodd iddynt y modd y dygodd yr Arglwydd ef allan o'r carchar: dywedodd hefyd, Mynegwch i Iago ac i'r brodyr y pethau hyn. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall.
18A phan aeth yn ddydd, yr oedd cynhwrf nid bychan yn mhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Petr.
19A Herod wedi ceisio am dano, ac heb ei gael ef, a holodd y ceidwaid, ac a orchymynodd eu harwain ymaith i farwolaeth. Ac efe a aeth i waered o Judea i Cesarea, ac a arosodd yno.
Rhyfyg a marwolaeth Herod, 20–23.20Ac yr oedd efe wedi ymgynddeiriogi yn erbyn y Tyriaid a'r Sidoniaid: ac yn unfryd hwy a ddaethant o'i flaen ef; ac wedi enill ffafr Blastus, ystafellydd y brenhin, hwy a ddeisyfasant heddwch, o herwydd bod eu gwlad yn cael ei hymborth o wlad y brenhin.
21Ac ar ddiwrnod penodedig, Herod, wedi ymwisgo â gwisg frenhinol, ac wedi eistedd ar y faingc, a areithiodd iddynt.
22A'r bobl a floeddiasant, Llais Duw ac nid dyn ydyw.
23Ac yn y man Angel yr Arglwydd a'i tarawodd ef, am na roisai y gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
Cenadaeth Barnabas a Saul.24A Gair Duw a gynyddodd ac a amlhawyd.
25A Barnabas a Saul a ddychwelasant o Jerusalem, wedi cyflawni eu gwasanaeth, gan gymeryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.