1Ac wrth weled y tyrfaoedd, efe a esgynodd i'r mynydd; ac wedi iddo eistedd, ei Ddysgyblion a ddaethant ato.
2Ac efe a agorodd ei enau ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,
3Gwyn eu byd y tlodion yn yr yspryd, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd.
4Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddyddenir.
5Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear.
6Gwyn eu byd y rhai a newynant ac a sychedant am gyfiawnder, canys hwy a ddiwellir.
7Gwyn eu byd y trugarogion, canys hwy a gânt drugaredd.
8Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw.
9Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn feibion i Dduw.
10Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu herlid o achos cyfiawnder, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd.
11Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drwg yn eich herbyn (a hwy yn gelwyddog), o achos fy enw I.
12Llawenhewch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y Nefoedd, canys felly yr erlidiasant y Proffwydi, y rhai fuont o'ch blaen chwi.
Teithi gwir ddysgyblion.13Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? Nid yw mwyach o unrhyw werth, ond i'w fwrw allan a'i sathru gan ddynion.
14Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, nis gellir ei chuddio.
15Ac ni oleuant lamp ac a'i gosodant dan y mesur‐lestr, ond ar y safbren, a hi a ddysgleiria ar bawb sydd yn y tŷ.
16Felly, dysgleiried eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da, ac y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.
Cyfiawnder Teyrnas Crist.17Na thybiwch fy nyfod i ddyddimu y Gyfraith neu y Proffwydi: ni ddaethum i ddyddimu, ond i gyflawnu.
18Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, un iod neu un tipyn nid ä heibio o'r Gyfraith ddim, hyd oni chwblhaer oll.
19Pwy bynag, gan hyny, a doro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn Nheyrnas Nefoedd; ond pwy bynag a'u gwnelo ac a'u dysgo, hwn a elwir yn fawr yn Nheyrnas Nefoedd.
20Canys meddaf i chwi, Oni fydd eich cyfiawnder yn helaethach nag eiddo yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i fewn i Deyrnas Nefoedd.
Yn nghylch Llofruddiaeth[Luc 12:58, 59]21Clywsoch y dywedid wrth yr hynafiaid,
“Na lofruddia; a phwy bynag a lofruddia a fydd agored i farn.”
22Ond meddaf i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd a fydd yn agored i'r farn: a phwy bynag a ddywedo wrth ei frawd, Y Dyhiryn! a fydd agored i'r Cynghor; a phwy bynag a ddywedo, O Ynfyd, a fydd agored i Gehenna o dân.
23Gan hyny, os offrymi dy rodd ar yr allor, ac yno gofio fod gan dy frawd beth yn dy erbyn,
24gad yno dy rodd o flaen yr allor, a dos ymaith, yn gyntaf cymmoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offryma dy rodd.
25Cytuna â'th wrthwynebwr ar frys tra fyddech gydag ef ar y ffordd; rhag un amser i'r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, a'r barnwr at yr is‐swyddog, a'th daflu i garchar.
26Yn wir, meddaf i ti, Ni ddeui allan ddim oddiyno, hyd oni thalech y ffyrling ddiweddaf.
Am odineb[Marc 9:43–47]27Clywsoch y dywedwyd,
“Na wna odineb.”
28Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a'r sydd yn edrych ar wraig i'w chwennychu hi wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.
29Ac os dy lygad deheu a bair i ti dramgwyddo, tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i Gehenna.
30Ac os dy law ddeheu a bair i ti dramgwyddo, tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac nac eled dy holl gorff i Gehenna.
Am ysgariad priodasol.31A dywedwyd,
“Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.”
32Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos puteindra, yn peru iddi gael ei chyfrif yn odinebwraig; a phwy bynag a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith a odinebaAm dyngu anudon.
33Trachefn, clywsoch y dywedwyd wrth yr hynafiaid,
“Na thwng anudon, eithr tâl i'r Arglwydd dy lwon.”
34Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Na thwng o gwbl; nac i'r Nef, canys gorseddfa Duw ydyw;
35nac i'r ddaear, canys troedfainc ei draed ydyw; nac i Jerusalem, canys Dinas y Brenin Mawr ydyw.
36Ac na thwng i'th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wyn neu yn ddu.
37Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ïe; Nag ê, nag ê; a pha beth bynag sydd dros ben y rhai hyn, o'r drwg y mae.
Am Ddial.38Clywsoch y dywedwyd,
“Llygad am lygad, dant am ddant.”
39Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch yr hyn sydd ddrwg, ond pwy bynag a'th darawo ar dy rudd ddeheu, tro y llall iddo hefyd.
40Ac i'r neb a fyno ymgyfreithio a thi, a dwyn dy wisg isaf, gad iddo dy wisg uchaf hefyd.
41A phwy bynag a'th ddirgymhello i wasanaeth am un filldir, dos gydag ef ddwy.
42Dyro i'r hwn a ofyno genyt; ac oddiwrth yr hwn a fenthycia genyt, na thro i ffwrdd.
Yn nghylch dygasedd.[Luc 6:32–35]43Clywsoch y dywedwyd,
“Car dy gymmydog, a chasha dy elyn” (Lef 19:17, 18).
44Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, cerwch eich gelynion a'ch erlidiant;
45fel y byddoch blant eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd; canys y mae efe yn peru i'w haul godi ar ddrwg a da, ac yn gwlawio ar gyfiawn ac annghyfiawn.
46Oblegyd os cerwch y sawl a'ch carant, pa wobr a gewch? Oni wna y Trethgasglwyr yr un peth?
47Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa beth rhagorach a wnewch? Oni wna y cenedloedd yr un peth?
48Chwi a fyddwch, gan hyny, yn berffaith, fel y mae eich Tad Nefol yn berffaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.