1Dadguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i'w weision y pethau sydd raid iddynt ddygwydd ar fyrder; ac a'i hyspysodd, gan ddanfon trwy ei angel, i'w was Ioan;
2yr hwn a dystiolaethodd am Air Duw ac am dystiolaeth Iesu Grist, sef am y fath bethau a welodd.
3Dedwydd yw yr hwn sydd yn darllen, a'r rhai sydd yn gwrandaw geiriau y brophwydoliaeth, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae yr amser yn agos.
Cyfarchiad a Molawd.4Ioan, at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth YR HWN SYDD A'R HWN OEDD a'r HWN SYDD YN DYFOD, ac oddiwrth y Saith Yspryd sydd ger bron ei Orsedd ef,
5ac oddiwrth Iesu Grist, y Tyst ffyddlawn, Cyntaf‐anedig y meirw, a Llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn sydd yn ein caru ni, ac a'n rhyddhâodd ni oddiwrth ein pechodau trwy ei Waed;
6ac efe a'n gwnaeth ni yn Frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a'i Dâd ef: Iddo ef y byddo y gogoniant a'r nerth yn oes oesoedd, Amen.
7Wele y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau, a phob llygad a'i gwêl ef, a'r rhai a'i gwanasant ef; a holl lwythau y ddaear a alarant am dano ef, Ië, Amen.
8Myfi yw yr Alpha a'r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, a'r hwn sydd yn dyfod, yr Hollalluog.
Dyfodiad y Genadwri.9Myfi Ioan, eich brawd chwi a chyd‐gyfranogwr yn y gorthrymder a'r frenhiniaeth a'r amynedd sydd yn Iesu, oeddwn yn yr Ynys a elwir Patmos o achos Gair Duw a thystiolaeth Iesu.
10Yr oeddwn yn yr Yspryd ar Ddydd yr Arglwydd, a chlywais o'r tu ol i mi lef fawr fel llef udgorn,
11yn dywedyd, Yr hyn a weli, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon ef i'r saith eglwys, i Ephesus, ac i Smyrna, ac i Pergamum, ac i Thyatira, ac i Sardis, ac i Philadelphia, ac i Laodicea.
Gweledigaeth o Fab y Dyn.12A throais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, gwelais saith ganwyllyr aur;
13ac yng nghanol y saith ganwyllyr, un tebyg i fab dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu o gylch ei fronnau â gwregys aur.
14A'i ben ef a'i wallt oedd yn wynion fel gwlan gwyn, fel eira; a'i lygaid fel fflam dân;
15a'i draed yn debyg i bres coeth, fel wedi ei losgi mewn ffwrn; a'i lais fel swn dyfroedd lawer;
16a chanddo yn ei law ddehau saith seren, ac o'i enau yr oedd cleddyf dau‐finiog llym yn dyfod allan; a'i wynebpryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth.
Anogaeth a Chyfarwyddyd.17A phan welais ef, syrthiais wrth ei draed ef fel un marw. Ac efe a osododd ei law ddehau arnaf fi, gan ddywedyd, Nac ofna, Myfi yw y Cyntaf a'r Diweddaf,
18a'r hwn wyf fyw, ac a fum farw, ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, ac y mae gennyf agoriadau Marwolaeth a Hades.
19Ysgrifenna gan hynny y pethau a welaist, a'r pethau sydd, a'r pethau a fydd ar ol hyn:
20dirgelwch y saith seren, y rhai a welaist yn fy llaw ddehau, a'r saith ganwyllyr aur. Y saith seren, angelion y saith eglwys ydynt; a'r saith ganwyllyr, y saith eglwys ydynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.