1A daeth un o'r saith angel oedd â'r saith phiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd. Tyred yma, dangosaf i ti farnedigaeth y Butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer;
2gyda'r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, a meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra.
3A dug fi ymaith i anialwch yn yr Yspryd: a gwelais Wraig yn eistedd ar Anghenfil o liw ysgarlad, yn orlawn o enwau cabledd, a chanddo saith ben a deg corn.
4A'r Wraig oedd wedi ei dilladu â phorphor ac ysgarlad, a'i haddurno âg aur, a maen gwerthfawr, a pherlau, a chanddi yn ei llaw gwpan aur yn llawn o ffieidd‐derau a phethau aflan ei phuteindra hi,
5ac ar ei thalcen enw wedi ei ysgrifennu,
DIRGELWCH, BABYLON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD‐DERAU Y DDAEAR.
6A gwelais y Wraig yn feddw gan waed y Saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan welais hi rhyfeddais â rhyfeddod mawr.
7A'r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? Myfi a ddywedaf i ti Ddirgelwch y Wraig, ac eiddo yr Anghenfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â'r saith ben ganddo a'r deg corn.
8Yr Anghenfil yr hwn a welaist, a fu ac nid yw, ac y mae ar ddyfod i fyny o Annwn, a myned i ddistryw. A rhyfeddu a wna y rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid yw eu henw wedi ei ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd er seiliad y byd, wrth weled o honynt yr Anghenfil, yr hwn fu, ac nid yw, ac a ddaw.
9Dyma y meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle y mae y Wraig yn eistedd arnynt; a saith brenin ydynt;
10pump a gwympasant, un sydd; y llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ond ychydig.
11A'r anghenfil yr hwn oedd, ac nid ydyw, y mae efe hefyd yn wythfed, ac y mae efe o'r saith, ac y mae yn myned ymaith i ddistryw.
12A'r deg corn, y rhai a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth hyd yn hyn; eithr awdurdod fel brenhinoedd, am un awr, y maent yn ei dderbyn gyda'r Anghenfil.
13Y rhai hyn sydd âg un meddwl ganddynt, a rhoddant eu gallu a'u hawdurdod i'r Anghenfil.
14Y rhai hyn a ryfelant â'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt, oblegyd Arglwydd arglwyddi ydyw a Brenin brenhinoedd; a'r rhai sydd gyd âg ef a orchfygant, ei alwedigion, a'i etholedigion, a’i ffyddloniaid.
15A dywed wrthyf, Y dyfroedd a welaist, lle y mae y Butain yn eistedd, pobloedd, a thorfeydd, a chenhedloedd, ac ieithoedd ydynt.
16A'r deg corn, y rhai a welaist, a'r Anghenfil, y rhai hyn a gasânt y Butain, ac a'i gwnant hi yn anrheithiedig ac yn noeth; a'i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a'i llosgant hi yn ulw â thân.
17Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt i wneuthur ei feddwl ef, a dyfod o honynt i'r un meddwl, ac i roddi eu teyrnas i'r Anghenfil, hyd oni chyflawnir geiriau Duw.
18A'r Wraig yr hon a welaist, yw y Ddinas Fawr sydd a chanddi frenhiniaeth ar frenhinoedd y ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.