1Ac yn y dyddiau hyny y mae Ioan Fedyddiwr yn dyfod allan, gan bregethu yn Niffaethwch Judea,
2gan ddywedyd, Edifarhewch, canys y mae Teyrnas Nefoedd wedi neshau.
3Oblegyd hwn yw efe y dywedwyd am dano drwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd,
“Llef un yn llefain,
Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd,
Gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.”
4Ac Ioan ei hun oedd a'i wisg o flew camel, a gwregys lledr o gylch ei lwynau, a'i fwyd oedd locustiaid a mel gwyllt.
5Yna yr aeth allan ato ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen,
6a hwy a fedyddiwyd yn afon yr Iorddonen ganddo ef, gan gyffesu eu pechodau.
7A phan welodd efe lawer o'r Pharisëaid ac o'r Saducëaid yn dyfod i'w fedydd, efe a ddywedodd wrthynt, O epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid sydd ar ddyfod?
8Dygwch, gan hyny, ffrwyth teilwng o edifeirwch.
9Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn dad, canys yr wyf yn dywedyd i chwi y dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.
10Ac yn barod y mae y fwyell yn cael ei gosod wrth wraidd y prenau; pob pren, gan hyny, nad yw yn dwyn ffrwyth da sydd yn cael ei dori i lawr a'i daflu i dân.
11Myfi yn ddiau wyf yn eich bedyddio chwi mewn dwfr i edifeirwch; eithr yr Hwn sydd yn dyfod ar fy ol I sydd gryfach nâ myfi, esgidiau yr hwn nid wyf deilwng i'w dwyn, efe a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glan ac yn tân.
12Yr hwn y mae ei nith‐raw yn ei law, ac efe a lwyr‐lanha ei lawr dyrnu, ac efe a gasgl ei yd i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
Bedyddiad Crist[Marc 1:9–11; Luc 3:21, 22; Ioan 1:31–34]13Yna y mae yr Iesu yn dyfod allan efe a fynai ei lwyr rwystro, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio genyt ti, ac a ddeui di ataf fi?
15A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Caniata yn awr, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawnu pob cyfiawnder. Yna y mae efe yn caniatau iddo.
16A'r Iesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fyny oddiwrth y dwfr; ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef;
17ac wele lef allan o'r Nefoedd yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.