1Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i'r Anialwch gan yr Yspryd, i'w demtio gan y Diafol.
“Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn,
Ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.”
5Yna y mae y Diafol yn ei gymmeryd ef i'r Ddinas Sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y Deml,
6ac a ddywed wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr, canys y mae yn ysgrifenedig,
“I'w angylion y rhydd efe orchymyn am danat;
Ac ar eu dwylaw y'th ddygant,
Rhag taro o honot un amser dy droed wrth garreg.”
7Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Drachefn y mae yn ysgrifenedig,
“Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.”
8Drachefn y cymmer y Diafol ef i fynydd uchel iawn, ac a ddengys iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant;
9ac a ddywedodd wrtho, Y rhai hyn oll a roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli I.
10Yna y dywed yr Iesu wrtho, Ymaith, Satan, canys y mae yn ysgrifenedig,
“Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,
Ac efe yn unig a wasanaethi.”
11Yna y mae y Diafol yn ei adael ef; ac wele, angelion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.
Y Goleuni mewn tywyllwch.[Marc 1:14, 15; Luc 4:14]12A phan glybu efe draddodi Ioan, efe a giliodd i Galilea;
13a chan adael Nazareth, efe a ddaeth ac a ymgartrefodd yn Nghapernäum, yr hon sydd wrth y môr, yn nghyffiniau Zabulon a Naphtali:
14fel cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd,
15“Tir Zabulon, a thir Naphtali,
Ger y mor, tuhwnt i'r Iorddonen,
Galilea y Cenedloedd:
16Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr,
Ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu, goleuni a gyfododd iddynt.”
17O'r pryd hwnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch, canys y mae Teyrnas Nefoedd wedi neshau.
Galwad cyntaf y Dysgyblion.[Marc 1:16–20; Luc 5:1–11]18Ac yn rhodio wrth For Galilea, efe a welodd ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw taflrwyd i'r mor; canys pysgodwyr oeddynt.
19Ac efe a ddywed wrthynt, Deuwch ar fy ol I, ac mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.
20A hwy yn ebrwydd a adawsant y rhwydau, ac a'i canlynasant ef.
21Ac wrth fyned rhagddo oddiyno, efe a welodd ddau frodyr ereill, Iago, mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac efe a'u galwodd hwynt.
22Ac yn ebrwydd gadawsant y cwch a'u tad, ac a'u canlynasant ef.
Crist yn pregethu ac yn iachau.23A'r Iesu a aeth o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobl.
24A'r son am dano a aeth allan trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, y rhai a ddelid gan amrywiol glefydau a doluriau, y rhai a feddiannid gan gythreuliaid, y rhai lloerig, a'r rhai parlysig; ac efe a'u hiachaodd hwynt.
25A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, o Decapolis, o Jerusalem, o Judea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.