1A'r Iesu gan ddyfod allan oedd yn myned ymaith oddiwrth y Deml: a'i Ddysgyblion a ddaethant i ddangos iddo adeiladau y Deml.
2Ac Efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi y rhai hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma garreg ar garreg a'r ni ddattodir.
Arwyddion Cyffredinol.3Ac Efe yn eistedd ar fynydd yr Olew‐wydd, y Dysgyblion a ddaethant ato o'r neilldu, gan ddywedyd, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? A pha beth fydd arwydd dy Ddyfodiad ac o Ddiwedd y byd?
4A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch na fyddo i neb eich camarwain chwi.
5Canys llawer a ddeuant yn fy Enw I, gan ddywedyd, Myfi yw y Crist, ac a gamarweiniant laweroedd.
6A bydd i chwi glywed am ryfeloedd a son am ryfeloedd: edrychwch, na ddychryner chwi, canys rhaid iddynt fod, ond nid yw y diwedd etto.
7Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newynoedd, a daeargrynfeydd mewn amryw fanau.
8Y pethau hyn oll ydynt ddechreuad gwewyr esgor.
9Yna y'ch traddodant chwi i orthrymder, ac a'ch lladdant; a chwi a gasheir gan yr holl genedloedd o herwydd fy enw I.
10Ac yna y rhwystrir llawer, ac a draddodant i fyny eu gilydd, ac a gashant eu gilydd.
11A gau-broffwydi lawer a godant ac a gamarweiniant lawer.
12Ac o herwydd yr amlha annghyfiawnder, fe oera cariad y llaweroedd.
13Ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig.
14Ac Efengyl hon y Deyrnas a bregethir yn yr holl fyd preswyliedig, er tystiolaeth i'r holl genedloedd; ac yna y daw y diwedd.
Arwyddion neillduol: Dinystr Jerusalem[Marc 13:14–23; Luc 21:20–24]15Pan gan hyny y gwelwch ffieiddbeth yr annghyfannedd-dra a ddywedwyd trwy Daniel y Proffwyd, yn sefyll yn y lle Sanctaidd (y neb a ddarlleno, ystyried).
16Yna y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd.
17Yr hwn a fyddo ar nen‐y‐tŷ, na ddisgyned i gymmeryd y pethau allan o'i dy.
18A'r hwn fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei gochl.
19A gwae i'r beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny.
20Ond gweddiwch fel na fyddo eich ffoedigaeth yn y Gauaf nac ar ddydd Sabbath.
21Canys y pryd hwnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni fu o ddechreu y byd hyd yn awr, ac ni fydd chwaith.
22A phe na fyrhawyd y dyddiau hyny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll; ond er mwyn yr Etholedigion, fe fyrheir y dyddiau hyny.
Yr hyn a ddygwydd rhwng Dinystr Jerusalem a'r Farn Olaf.23Yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist, neu, Yma, na chredwch.
24Canys cyfyd gau‐Gristiau a gau-broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, fel ag i gamarwain, os yn bosibl, hyd y nod yr Etholedigion.
25Wele, yr wyf wedi rhagfynegu i chwi.
26Am hyny, os dywedant wrthych, Wele, y mae Efe yn y Diffaethwch, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd dirgel, na chredwch.
27Canys fel y daw y fellten allan o'r Dwyrain, ac a welir hyd y Gorllewin; felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn.
28Pa le bynag bydd y gelain, yno yr ymgasgl yr Eryrod.
Diwedd y Byd[Marc 13:24–31; Luc 21:25–33]29Yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hyny, yr haul a dywyllir, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch; a'r sêr a syrthiant o'r Nef, a galluoedd y Nefoedd a ysgydwir.
30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y Nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau y Nef, gyda gallu a gogoniant mawr.
31Ac Efe a ddenfyn ei Angelion gydag udgorn o sain uchel, a hwy a gasglant ei Etholedigion ef o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y Nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.
Sydynrwydd y Farn.32Ond dysgwch y ddammeg oddiwrth y ffigysbren: Pan yw ei gangen eisioes yn dyner, ac yn bwrw allan ddail, chwi a wyddoch fod yr Haf yn agos.
33Felly chwithau hefyd, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.
34Yn wir meddaf i chwi, Nid ä y genedlaeth hon heibio ddim hyd oni wneler hyn oll.
35Y Nef a'r ddaear a ânt heibio, ond fy ngeiriau I nid ânt heibio ddim.
36Ond am y dydd hwnw a'r awr nis gŵyr neb, nac Angelion y Nefoedd, na'r Mab, ond y Tad yn unig.
37Canys fel yr oedd dyddiau Noah, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn.
38Canys fel yr oeddent yn y dyddiau B D La. Diw.; Gad. א L Ti. Al.
] o flaen y Diluw, yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noah i fewn i'r Arch,39ac ni wybuant hyd oni ddaeth y Diluw a'u cymmeryd hwynt oll ymaith, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn.
40Yna y bydd dau yn y maes: un a gymmerir ac un a adewir.
41Dwy yn malu wrth y maen melin: un a gymmerir ac un a adewir.
42Gwyliwch gan hyny, canys ni wyddoch ar ba ddydd y mae eich Arglwydd yn dyfod.
43Eithr gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gwr y ty ar ba wyliadwriaeth y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai, ac ni oddefasai i'w dy gael ei gloddio trwodd.
44O herwydd hyn, byddwch chwithau hefyd barod, canys yn yr awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
Y ddyledswydd o ffyddlondeb.[Luc 12:41–46]45Pwy gan hyny yw y gwas ffyddlawn a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion, i roddi iddynt fwyd mewn pryd?
46Dedwydd fydd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.
47Yn wir meddaf i chwi, Dros ei holl feddiannau y gesyd efe ef.
48Ond os dywed y gwas drwg hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi;
49a dechreu curo ei gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon,
50arglwydd y gwas hwnw a ddaw mewn dydd nad yw efe yn ei ddysgwyl, ac mewn awr nis gŵyr efe;
51ac a'i fflangella yn erwin, ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr, yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.