2 Timotheus 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyfarchiad a Diolch.

1Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, yn ol addewid y bywyd yr hwn sydd yng Nghrist Iesu,

2at Timotheus, fy mhlentyn anwyl: Gras, trugaredd, tangnefedd, oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Harglwydd.

3Y mac gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu o'm cyndadau mewn cydwybod bur, mor ddibaid y mae gennyf goffa am danat ti yn fy neisyfiadau, nos a dydd

4yn hiraethu am dy weled di, gan gofio dy ddagrau, fel y'm llanwer o lawenydd;

5wedi cael fy adgoffa o'r ffydd ddiragrith sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diamheu gennyf, ynot tithau hefyd.

6O herwydd pa achos yr wyf yn dy adgoffa i ail‐ennyn yn fflam ddawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw i.

7Canys ni roddes Duw i ni yspryd llwfrdra, eithr o allu, a chariad, a phwyll.

Annogaeth i ddewrder a ffyddlondeb.

8Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o honof finnau ei garcharor ef; eithr cyd‐oddef di gystudd ar ran yr efengyl yn ol gallu Duw,

9yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd ni â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun, a gras yr hwn a roddwyd i ni cyn amseroedd yr oesoedd,

10ond a amlygwyd yn awr trwy Ymddangosiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, yr hwn a ddirymmodd yr angau, ac a daflodd oleuni ar fywyd ac anllygredigaeth trwy yr efengyl;

11i'r hon y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac Apostol, a dysgawdwr y Cenhedloedd.

12Am ba achos yr wyf yn dyoddef hefyd y pethau hyn; ond nid oes arnaf gywilydd; canys mi a wn i bwy yr ymddiriedais, ac yr wyf yn argyhoeddedig ei fod yn alluog i warchod yr hyn a roddais i'w gadw erbyn y Dydd hwnnw.

13Dal gynllun y geiriau iachus a glywaist gennyf fi, mewn ffydd a chariad yng Nghrist Iesu.

14Y peth da a rodded i ti i'w gadw, gwarchod trwy yr Yspryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.

Gelynion a Chyfeillion.

15Ti a wyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sydd yn Asia droi oddiwrthyf fi, o'r rhai y mae Phegelus a Hermogenes.

16Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus; canys yn fynych y'm hadlonnodd i, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i;

17eithr pan ddaeth i Rufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn,

18ac a'm cafodd (rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw!) ac ym mha lawer o bethau y gwasanaethodd efe yn Ephesus, ti a wyddost yn dda iawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help