Luc 4 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Temtiad Crist yn yr Anialwch[Mat 4:1–11; Marc 1:12, 13]

1A'r Iesu yn llawn o'r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddiwrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd yn yr Yspryd yn yr Anialwch

2ddeugain niwrnod, yn cael ei demtio gan y Diafol. Ac ni fwytäodd efe ddim yn y dyddiau hyny, a phan oeddynt ar derfynu, daeth chwant bwyd arno.

3A'r Diafol a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y gareg hon, fel y delo yn fara.

4A'r Iesu a atebodd iddo,, Y mae yn ysgrifenedig,

Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn.

5Ac efe a'i harweiniodd i fyny, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd cyfaneddol mewn eiliad o amser:

6a'r Diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y mae wedi ei throsglwyddo; ac i bwy bynag yr ewyllysiwyf, y rhoddaf hi.

7Os tydi, gan hyny, a addoli o fy mlaen i, eiddot ti fydd hi oll.

8A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho,,

Ac efe yn unig a wasanaethi.

9Ac efe a'i harweiniodd ef i Jerusalem, ac a'i gosododd ar binacl y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddiyma:

10canys ysgrifenedig yw,

Efe a orchymyn i'w Angelion am danat ti, dy warchod di,

11Ac,

Ar eu dwylaw y'th ddygant,

Rhag i ti un amser daro dy droed wrth gareg.

12A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y mae hyn wedi ei lefaru,

Na themtia i'r eithaf yr Arglwydd dy Dduw.

13Ac wedi i'r Diafol orphen pob temtasiwn, efe a ymadawodd oddiwrtho ef hyd dymhor cyfaddas.

Crist yn ei wlad ei hun[Mat 4:12, 13, 24; 13:53–58; Marc 6:1–6; Ioan 2:1–12; 4:44–54]

14A'r Iesu a ddychwelodd yn nerth yr Yspryd i Galilea: a sôn a aeth allan drwy yr holl wlad o amgylch am dano ef.

15Ac yr oedd efe yn dysgu yn eu Synagogau hwynt, ac yn cael ei ganmol gan bawb.

16Ac efe a ddaeth i Nazareth, lle yr oedd efe wedi ei ddwyn i fyny: ac efe a aeth, yn ol ei arfer, ar y Sabbath, i'r Synagog, ac a safodd i fyny i ddarllen.

17A rhoddwyd iddo Lyfr y Proffwyd Esaiah: ac wedi iddo agoryd y Llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,

18Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf fi:

O herwydd efe a'm heneiniodd i bregethu Efengyl i dlodion;

Y mae wedi fy anfon i gyhoeddi rhyddhâd i gaethion

Ac adferiad golwg i ddeillion;

I ollwng ymaith mewn rhyddid y rhai oedd wedi tori eu calon,

19I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.

20Ac wedi iddo gau y Llyfr, efe a'i rhoddodd yn ol i'r is‐swyddog, ac a eisteddodd, a llygaid pawb yn y Synagog oedd yn craffu arno.

21Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y mae yr Ysgrythyr hon wedi ei chyflawnu yn eich clustiau chwi.

22Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol a ddeuent allan o'i enau ef; ac yr oeddynt yn dywedyd, Onid hwn yw Mab Joseph?

23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Er mwyn pob dim chwi a ddywedwch wrthyf y ddammeg hon, Feddyg, iachâ dy hun: pa bethau bynag y clywsom eu gwneuthur yn Capernaum, gwna yma hefyd yn dy wlâd dy hun.

24Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlâd ei hun.

25Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn nyddiau Elias yn yr Israel, pan gauwyd y Nefoedd dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr dros yr holl dir:

26ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, ond i Sarephtah yn Sidon, at wraig weddw.

27A llawer o wahan‐gleifion oedd yn yr Israel, yn amser Elisëus y Proffwyd; ond ni lanhâwyd yr un o honynt, ond Naaman y Syriad.

28A phawb yn y Synagog a lanwyd o gynddaredd pan glywsant y pethau hyn:

29ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i harweiniasant ef hyd at ael y bryn, ar yr hwn yr oedd eu Dinas hwy wedi ei hadeiladu, fel y bwrient ef i lawr dros y dibyn.

30Ond efe a aeth drwy eu canol hwynt, ac a aeth ei ffordd.

Crist yn iachâu yn Galilea: Bwrw allan yspryd aflan[Marc 1:21–28]

31Ac efe a ddaeth i waered i Capernaum, dinas yn Galilea: ac yr oedd efe yn eu dysgu hwy ar y Sabbathau:

32a hwy a darawyd â syndod mawr wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys gyd âg awdurdod yr oedd ei Air ef.

33Ac yn y Synagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel,,

34Ah! Pa beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? A ddaethost i'n dyfetha ni? Mi a'th adwaen di, pwy ydwyt; un Sanctaidd Duw.

35A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Dystawa, a thyred allan o hono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niwed iddo.

36A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a gyd-ymddiddanasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Beth yw y Gair hwn? canys mewn awdurdod a gallu y mae efe yn gorchymyn i'r ysprydion aflan, ac y maent yn dyfod allan.

37A sôn am dano ef a aeth allan i bob lle o'r wlâd oddi amgylch.

Iachâu mam gwraig Petr o dwymyn[Mat 8:14, 15; Marc 1:29–31]

38A phan gyfododd efe o'r Synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. A chwegr Simon oedd yn dyoddef oddiwrth dwymyn galed, a hwy a atolygasant iddo drosti hi.

39Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y dwymyn, a hi a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a weinyddodd iddynt.

Iachâu amrywiol glefydau, a bwrw allan gythreuliaid[Mat 8:16, 17; Marc 1:32–34]

40A'r haul yn machlud, pawb a'r oedd ganddynt gleifion o amryw glefydau a'u dygasant ato ef; ac efe, gan roddi ei ddwylaw ar bob un o honynt, a'u hiachâodd hwynt.

41A chythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, gan waeddi allan, a dywedyd, Ti yw Mab Duw: ac efe a'u ceryddodd, ac ni chaniatâodd iddynt lefaru, canys hwy a wyddent mai efe ei hun oedd y Crist.

Y Gylchdaith yn Galilea[Mat 4:23, 24; Marc 1:35–39]

42A phan ddaeth yn ddydd, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le anghyfanedd, a'r torfeydd oeddynt yn ei daer‐geisio ef, ac a ddaethant hyd ato, ac a fynent ei atal, fel nad elai efe oddiwrthynt.

43Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae yn rhaid i mi bregethu newyddion da Teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys ar gyfer hyn y'm danfonwyd.

44Ac yr oedd efe yn pregethu yn Synagogau Galilea.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help