1 Petr 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cynnydd Cristionogol.

1Wedi rhoddi ymaith, gan hynny, bob malais, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigennau, a phob enllibau,

2megys babanod newydd eu geni, hiraethwch am y llaeth ysprydol, didwyll, fel y cynhyddoch trwyddo i iachawdwriaeth,

3os profasoch fod yr Arglwydd yn garedig.

Crist y maen prawf.

4A chan ddyfod ato ef, Maen, ond gyda Duw yn etholedig ac mewn anrhydedd; chwithau hefyd,

5megys meini byw, adeilader chwi yn dŷ ysprydol, er offeiriadaeth sanctaidd i offrymu aberthau ysprydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.

6Canys cynhwysir yn yr Ysgrythyr:

Wele, yr wyf yn gosod yn Sion ben‐congl‐faen, etholedig, mewn anrhydedd.

A'r hwn a gred ynddo ef, ni chywilyddir ddim.

7I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yr anrhydedd, ond i'r rhai nad ydynt yn credu,

Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,

Hwn a wnaed yn ben y gongl,

8Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd: i'r hyn beth hefyd y penodwyd hwynt.

9Ond chwychwi ydych rywogaeth etholedig, offeiriadaeth frenhinol, cenedl sanctaidd, pobl yn feddiant i Dduw, fel y mynegoch ragoriaethau yr hwn a'ch galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef;

10y rhai gynt nid oeddych bobl, eithr yn awr ydych bobl i Dduw; y rhai ni thrugarhawyd wrthych, ond yn awr a gawsoch drugaredd.

Galwad i burdeb ac ufudd‐dod.

11Anwyliaid, yr wyf yn atolwg i chwi megys ymdeithyddion a dyeithriaid, i ymgadw oddiwrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn milwrio yn erbyn yr enaid;

12gan fod â'ch ymarweddiad yn weddaidd ym mhlith y Cenhedloedd; fel, yn yr hyn y maent yn eich enllibio fel drwg‐weithredwyr, y gallont, trwy weled eich gweithredoedd da, y rhai a welant, ogoneddu Duw yn Nydd yr Ymweliad.

13Ymddarostyngwch i bob sefydliad dynol o herwydd yr Arglwydd, pa un bynnag ai i frenin, megys goruchaf;

14ai i lywiawdwyr, megys yn cael eu danfon ganddo ef er cosp drwgweithredwyr a chlod gweithredwyr yr hyn sydd dda.

15Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi, wneuthurwyr daioni, safn‐rwymo anwybodaeth dynion anghall;

16megys yn rhyddion, ac nid yn meddiannu y rhyddid fel gorchudd drygioni, ond fel caethweision Duw.

17Anrhydeddwch bawb; cerwch y frawdoliaeth; ofnwch Dduw; anrhydeddwch y brenin.

18Y gweision teuluol, ymddarostyngwch gyda phob ofn i'ch meistriaid, nid yn unig i'r rhai da ac addfwyn, ond hefyd i'r trofaus;

19canys hyn sydd achos diolch, os yw neb o herwydd ymwybodolrwydd o Dduw yn dwyn tristwch, gan ddyoddef ar gam;

20canys pa glod yw, os pan yn pechu ac yn cael eich dyrnodio, y dygwch ef yn amyneddgar? Eithr os pan yn gwneuthur da, gan ddyoddef, y dygwch ef yn amyneddgar, y mae hyn yn achos diolch i chwi gyda Duw:

21canys i hyn y'ch galwyd; oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd drosom ni, gan adael i chwi esiampl, fel y canlynech ei ôl ef;

22yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chafwyd chwaith dwyll yn ei enau;

23yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwai yn ol; pan yn dyoddef, ni fygythiai, eithr traddodai ei hun i'r hwn sydd yn barnu yn gyfiawn;

24yr hwn ei hun a ddug ein pechodau yn ei gorph ar y pren, fel, wedi darfod â phechodau, y byddem byw i gyfiawnder; trwy gleisiau yr hwn y'ch iachawyd chwi,

25Canys yr oeddech fel defaid yn myned ar gyfeiliorn, eithr yn awr yr ydych wedi troi yn ol at Fugail a Gwarcheidwad eich eneidiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help