1Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Ni ellir caniatâu na ddaw achlysuron tramgwydd iddo pe bai maen melin yn crogi o amgylch ei wddf, ac yntau wedi ei daflu i'r môr, yn hytrach na pheri o hono i un o'r rhai bychain hyn dramgwyddo.
Maddeugarwch.3Edrychwch arnoch eich hunain: os pecha dy frawd, cerydda ef; ac os edifarhâ, maddeu iddo.
4Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith droi atat, gan ddywedyd, y mae yn edifar genyf; ti a faddeui iddo.
Nertholrwydd ffydd[Mat 17:20; 21:21; Marc 11:23]5A dywedodd yr Apostolion wrth yr Arglwydd, Ychwanega ein ffydd ni.
6A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai genych ffydd fel gronyn o hâd mwstard hon, Ymddadwreiddier di, a phlaner di yn y môr: a hi a ufuddhäai i chwi.
Cyflawnu dyledswydd heb ddysgwyl gobrwy.7Eithr pa un o honoch a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywed wrtho pan y dêl i mewn o'r maes, Yn ebrwydd tyred yn mlaen, ac eistedd i lawr i fwyta;
8ond yn hytrach ai ni ddywed wrtho, Gwna yn barod beth i mi i swperu, ac ymwregysa, a gweina arnaf, hyd nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi y pethau hyn y bwytai ac yr yfi dithau?
9Oes ganddo ddiolch i'r gwas am iddo wneuthur y pethau a orchymynwyd?
10Felly chwithau hefyd, wedi i chwi wneuthur y cwbl oll a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym! Yr ydym wedi gwneuthur yr hyn yw ein dyledswydd i wneuthur.
Iachâd y deg gwahan‐glwyfus: degwm o ddiolchgarwch.11A bu pan yr oeddynt yn myned i Jerusalem, yr oedd efe hefyd yn myned trwy ganol Samaria a Galilea.
12Ac fel yr oedd efe yn myned i mewn i ryw bentref, cyfarfu âg ef ddeg o wŷr gwahan‐glwyfus, y rhai a safasant o hirbell:
13a hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu, O Feistr, trugarhâ wrthym.
14A phan welodd, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhâwyd hwynt.
15Ac un o honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan folianu Duw â llef uchel;
16ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan roddi diolch iddo: ac efe ei hun oedd Samariad.
17A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, oni lanhâwyd y deg? Ond y naw, pa le y maent?
18Oni chafwyd a ddychwelasant i roddi gogoniant i Dduw ond yr alltud cenedlig hwn?
19Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: y mae dy ffydd wedi dy achub di.
Teyrnas Nefoedd oddi mewn.20A phan ofynwyd iddo gan y Phariseaid, Pa bryd y mae Teyrnas Dduw yn dyfod? efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Nid yw Teyrnas Dduw yn dyfod wrth sylwadaeth wyliadwrus.
21Ni ddywedant chwaith, Wele yma; neu, Wele acw: canys, Wele, Teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae.
Dyfodiad Crist, yn wahanol i'r Deyrnas, yn ddyfodiad amlwg a gogoneddus.22Ond efe a ddywedodd wrth y Dysgyblion, Y dyddiau a ddeuant, pan yr ymawyddwch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, ac nis gwelwch.
23A hwy a ddywedant wrthych, Wele acw; neu, Wele yma; nac ewch ymaith, ac na redwch ar eu hol:
24canys fel y mae y fellten yn melltenu allan o'r naill ran dan y Nef yn dysglaerio hyd y rhan arall dan y Nef; felly y bydd Mab y Dyn yn ei Ddydd.
25Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddyoddef llawer, a'i wrthod felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn.
27Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn priodi, yn cael eu rhoi mewn priodas, hyd y dydd yr aeth Noah i mewn i'r Arch, a daeth y Diluw, ac a'u dinystriodd hwynt oll.
28Yr un modd fel y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn planu, yn adeiladu;
29eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom y gwlawiodd Duw dân a brwmstan o'r Nef, ac a'u dinystriodd oll.
30Yn ol yr un pethau y bydd yn y dydd y mae Mab y Dyn yn cael ei ddadguddio.
31Yn y dydd hwnw, yr hwn a fyddo ar ben y tŷ, a'i ddodrefn.
33Pwy bynag a geisio gadw iddo ei hun ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynag a'i cyll, a'i ceidw yn fyw.
34Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos hono y bydd dau yn yr un gwely: un a gymmerir, a'r llall a adewir.
35-36Dwy a fyddant yn malu yn nghyd; un a gymmerir, a'r llall a adewir.17:35 Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymmerir, a'r llall a adewir. [o Mat 24:40]. Gad. prif. ysg. a Brnd.
37A chan ateb y maent yn dywedyd wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y lle y byddo y corff, yno hefyd y bydd yr eryrod yn ymgasglu yn nghyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.