1Petr Apostol Iesu Grist at etholedig ymdeithwyr y Gwasgariad yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia,
2yn ol rhagwybodaeth Duw Dâd, yn sancteiddiad yr Yspryd, i ufudd‐dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer.
Mawl‐gân.3Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ol ei fawr drugaredd a'n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol trwy Adgyfodiad Iesu Grist o feirw,
4i etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, yng nghadw yn y nefoedd i chwi,
5y rhai trwy allu Duw ydych warchodedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i'w dadguddio yn yr amser diweddaf.
Gorthrymder yn profi a nerthu Ffydd.6Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod am ychydig, yn awr, os rhaid yw, wedi eich tristâu mewn amrywiol brofedigaethau,
7fel y caffer fod prawf eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrocach na'r aur colladwy er ei brofi trwy dân, er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn Nadguddiad Iesu Grist:
8yr hwn na welsoch yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yn awr yn ei weled, eto yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anrhaethadwy a gogoneddedig;
9gan dderbyn diwedd eich ffydd, iachawdwriaeth eich eneidiau.
Dyddordeb prophwydi ac angelion yn yr iachawdwriaeth.10Am yr hon iachawdwriaeth y dyfal‐geisiodd ac y manwl-chwiliodd y prophwydi, y rhai a brophwydasant am y gras a ddeuai i chwi;
11gan chwilio pa amser neu pa fath amser yr oedd Yspryd Crist yr hwn oedd ynddynt, yn ei nodi, pan oedd efe yn rhag‐dystiolaethu dyoddefiadau Crist a'r gogoniant ar eu hol.
12I'r rhai y dadguddiwyd nad iddynt hwy eu hunain ond i chwi yr oeddent yn gweinyddu y pethau hyn, y rhai yn awr sydd wedi eu hyspysu i chwi trwy y rhai a efengylasant i chwi trwy yr Yspryd Glân a anfonwyd allan o'r nef: i'r hyn bethau y mae angelion yn awyddu edrych.
Amryw anogaethau.13O herwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, gan fod yn berffaith sobr, gobeithiwch am y grâs sydd yn cael ei ddwyn i chwi yn Nadguddiad Iesu Grist;
14fel plant ufudd‐dod heb gyd‐ymagweddu â'ch chwantau blaenorol yn eich anwybodaeth:
15eithr megys y mae yr hwn a'ch galwodd yn sanctaidd, byddwch chwithau eich hunain hefyd yn sanctaidd ym mhob ymarweddiad,
16canys y mae yn ysgrifenedig, Chwi a fyddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi.
Gwir fywyd y prynedigion.17Ac os ydych yn galw arno ef fel Tâd, yr hwn heb dderbyn wyneb sydd yn barnu yn ol gweithred pob un, am amser eich ymdeithiad ymddygwch mewn ofn;
18gan wybod nad â phethau llygredig, megys arian neu aur, y'ch prynwyd o'ch ofer ymarweddiad a drosglwyddwyd o'ch tadau;
19eithr â gwerthfawr waed, megys oen dianaf a difrycheulyd, sef gwaed Crist;
20yr hwn yn wir a rag‐adnabuwyd cyn seiliad y byd, eithr a amlygwyd ar ddiwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi,
21y rhai trwyddo ef ydych gredinwyr yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef o feirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw.
Cariad brawdol yn y bywyd newydd.22Chwychwi, wedi puro eich eneidiau yn eich ufudd‐dod i'r gwirionedd i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o'r galon yn wresog;
23wedi eich hadgenhedlu, nid o hâd llygredig, eithr anllygredig, trwy air bywiol ac arosol Duw.
24Canys pob cnawd sydd fel glaswelltyn, a'i holl ogoniant fel blodeuyn y glaswelltyn; gwywa y glaswelltyn, a'r blodeuyn a syrth;
25eithr Gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd.
A hwn yw y gair a efengylwyd i chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.