1A feiddia un o honoch, a chanddo fater yn erbyn y llall ymgyfreithio o flaen y rhai annghyfiawn, ac nid o flaen y saint?
2Neu oni wyddoch y barna y saint y byd? Ac os bernir y byd o'ch blaen chwi, a ydych chwi yn annheilwng i eistedd mewn barn ar y pethau mwyaf dibwys?
3Oni wyddoch y barnwn ni angelion, heb ddweyd dim yn wir am bethau y bywyd hwn?
4Os oes gennych gan hynny lysoedd perthynol i bethau y bywyd hwn, y rhai a gyfrifir yn ddim yn yr eglwys, gosodwch y rhai hyn drostynt
.5Er eich cywilydd yr wyf yn llefaru wrthych. Ai felly nad oes yn eich mysg neb doeth, yr hwn a all benderfynnu rhwng brodyr,
6ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny o flaen annghredinwyr?
7Am hynny, yn wir, y mae ar unwaith yn ddios yn ddiffyg ynoch fod gennych gwynion cyfraith ym mysg eich hunain. Paham nad ydych yn hytrach yn dyoddef cam? Paham nad ydych yn hytrach yn dyoddef eich cam‐golledu?
8Ond yn wir yr ydych chwi yn gwneuthur cam ac yn cam‐golledu, a hynny, eich brodyr.
9Neu ai ni wyddoch na fydd i annghyfiawnion etifeddu Teyrnas Dduw? Na thwyller chwi; ni chaiff na phutteinwyr, nac eilun‐addolwyr, na godinebwyr, na masweddwyr, na gwrryw‐gydwyr,
10na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na threiswyr, etifeddu Teyrnas Dduw.
11A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchasoch ymaith eich pechodau, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhâwyd, yn enw yr Arglwydd Iesu Grist, ac yn Yspryd ein Duw ni.
Y bywyd newydd yn annghydweddol âg anniweirdeb.12Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, ond nid yw pob peth yn addas. Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim.
13Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddiddymma hwn a hwythau. Eithr nid yw y corph i butteindra, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corph.
14Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd ninnau trwy ei allu ef.
15Oni wyddoch fod eich cyrph yn aelodau Crist? a gymmeraf fi ymaith gan hynny aelodau Crist, a'u gwneyd yn aelodau puttain? na wneler byth!
16Neu, oni wyddoch fod yr hwn a unir â phuttain yn un corph? Canys y ddau, medd efe, a fyddant un cnawd.
17Ond yr hwn a unir â'r Arglwydd, un Yspryd yw.
18Ffowch oddiwrth butteindra. Pob pechod a wnelo dyn, tu allan i'r corph y mae; ond yr hwn sydd yn putteinio sydd yn pechu yn erbyn ei gorph ei hun.
19Neu, oni wyddoch fod eich corph yn Gyssegr yr Yspryd Glân yr hwn sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw? ac nid ydych yn eiddoch eich hunain,
20canys â gwerth y'ch prynwyd; gogoneddwch Dduw gan hynny yn eich corph.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.