1Simon Petr, gwasanaethwr ac Apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau yng nghyfiawnder ein Duw ac Iachawdwr Iesu Grist:
2Grâs i chwi a thangnefedd a amlhâer yn yr adnabyddiaeth o Dduw a Iesu ein Harglwydd;
3gan weled fod ei Ddwyfol allu wedi rhad‐roddi i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth o honno ef, yr hwn a'n galwodd trwy ei ogoniant a'i rinwedd ei hun;
4trwy y rhai y rhoddodd efe i ni yr addewidion gwerthfawr a mawr iawn, fel trwy y rhai hyn y deloch yn gyfranogion o'r Ddwyfol anian, wedi diangc oddiwrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant.
Galwad i sefydlogrwydd a ffrwythlondeb.5Ac ar gyfrif hyn yma, gan chwanegu o'ch tu chwi bob eiddgarwch, yn eich ffydd cyflenwch rinwedd; ac yn eich rhinwedd, wybodaeth;
6ac yn eich gwybodaeth, hunan‐lywodraeth; ac yn eich hunan‐lywodraeth, ddewr‐amynedd; ac yn eich dewr‐amynedd, dduwioldeb;
7ac yn eich duwioldeb, frawdgarwch; ac yn eich brawdgarwch gariad.
8Canys os yw y pethau hyn yn eiddo i chwi ac yn cynhyddu, gwnant chwi na byddoch na segur na diffrwyth er dyfod i adnabyddiaeth o'n Harglwydd Iesu Grist.
9Canys yr hwn nid yw y rhai hyn ganddo, dall ydyw, byr ei olwg, wedi gollwng dros gof y glanhâd oddi wrth ei bechodau gynt.
10O herwydd paham, frodyr, byddwch yn fwy eiddgar i wneuthur eich galwad a'ch etholedigaeth yn sicr; canys os gwnewch y pethau hyn, ni thripiwch byth;
11canys felly y darperir i chwi yn gyfoethog y mynediad i Deyrnas dragwyddol ein Harglwydd ac Iachawdwr Iesu Grist.
Adgofion.12O herwydd paham, byddaf barod bob amser i'ch coffhâu am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod ac wedi eich sefydlu yn y gwirionedd sydd gennych.
13Ac yr wyf yn ei hystyried yn iawn, tra fyddwyf yn y babell hn, eich hollol‐gyffrôi chwi trwy ddwyn ar gof i chwi,
14gan wybod fod gosodiad heibio fy mhabell yn dyfod yn fuan, megys hefyd yr amlygodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi.
15A byddaf eiddgar hefyd ar i ch wi arbob achlysur, ar ol fy ymadawiad, ddwyn y pethauhyn i gof.
Y Gweddnewidiad.16Canys nid gan ddylyn chwedlau wedi eu cyfrwys ddyfeisio yr hyspysasom i chwi allu a Dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr gan fod yn llygad‐dystion o'i Fawrhydi.
17Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dâd anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr‐ragorol Ogoniant, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.
18A'r llef hon nyni a glywsom, pan ddaeth allan o'r nef, pan oeddem ni gydag ef yn y Mynydd Sanctaidd.
Tystiolaeth Prophwydoliaeth.19Ac y mae gennym air prophwydoliaeth yr hwn sydd sicrach fyth; yr hwn da y gwnewch wrth ddal arno, megys ar lusern yn disgleirio mewn lle budr, hyd oni wawrio y Dydd, ac oni chyfodo y Seren Ddydd yn eich calonnau;
20gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes unrhyw brophwydoliaeth o'r Ysgrythyr o ddehongliad neillduol.
21Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth prophwydoliaeth erioed, eithr dynion oddiwrth Dduw a lefarasant, gan gael eu cario ymlaen gan yr Yspryd Glân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.