Dadguddiad Ioan 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Llythyr at Ephesus, y Fam‐Eglwys.

1At angel yr eglwys yn Ephesus, ysgrifenna: Y pethau hyn y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganwyllyr aur, yn eu dywedyd:

2Mi a adwaen dy weithredoedd, a'th lafur, a'th amynedd, ac na elli oddef drwg‐ddynion, a phrofi o honot y rhai sydd yn galw eu hunain yn Apostolion, ac nid ydynt, a chael o honot hwynt yn gelwyddog;

3ac y mae gennyt amynedd, a goddefaist o achos fy Enw i, ac nid ydwyt wedi blino.

4Eithr y mae gennyf hyn yn dy erbyn, am i ti ymadael a'th gariad cyntaf.

5Cofia, gan hynny, o ba le y syrthiaist, ac edifarhâ, a gwna y gweithredoedd cyntaf; ac onide, yr ydwyf yn dyfod atat ti, ac a symudaf dy ganwyllyr allan o'i le, oni edifarhêi di.

6Eithr hyn sydd gennyt, dy fod yn casâu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casâu.

7Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo i fwyta o Bren y Bywyd, yr hwn sydd ym Mharadwys Duw.

Y Llythyr at Smyrna.

8Ac at angel yr eglwys yn Smyrna ysgrifenna: Hyn a ddywed y Cyntaf a'r Diweddaf, yr hwn a fu farw ac a fu fyw drachefn.

9Mi a adwaen dy orthrymder a'th dlodi — eithr cyfoethog wyt — a'r cabledd oddi wrth y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt, ond Synagog Satan.

10Nac ofna y pethau yr wyt ar fedr eu dyoddef. Wele, y Diafol sydd ar fedr bwrw rhai o honoch i garchar, fel y'ch profer; a chwi a gewch orthrymder ddeng niwrnod. Bydd ffyddlawn hyd angau, a rhoddaf i ti Goron y Bywyd.

11Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Yr hwn sydd yn gorchfygu ni chaiff ddim niwed gan yr Ail Farwolaeth.

Y Llythyr at Pergamum.

12Ac at angel yr eglwys yn Pergamum ysgrifenna: Y pethau hyn a ddywed yr hwn sydd ganddo y cleddyf dau‐finiog llym.

13Gwn pa le yr wyt yn trigo, sef lle y mae gorsedd Satan: ac yr wyt yn dal dy afael yn fy Enw i, ac ni wedaist fy Ffydd i, hyd yn nod yn nyddiau Antipas fy nhyst, fy un ffyddlawn i, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo.

14Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegyd bod gennyt yna rai yn dal dysgeidiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, i fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, ac i odinebu.

15Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal dysgeidiaeth y Nicolaiaid yr un modd.

16Edifarhâ, gan hynny; onide, yr wyf yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn â chleddyf fy ngenau.

17Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo o'r manna cuddiedig, a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg Enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.

Y Llythyr at Thyatira.

18Ac at angel yr eglwys yn Thyatira ysgrifenna: Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed yn debyg i bres coeth.

19Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th ffydd, a'th wasanaeth, a'th amynedd; a'th weithredoedd diweddaf sydd fwy na'r cyntaf.

20Eithr y mae gennyf hyn yn dy erbyn di, oblegyd dy fod yn goddef i'r wraig Jezebel, yr hon sydd yn galw ei hun yn brophwydes; ac y mae hi yn dysgu ac yn hud‐ddenu fy ngweision i odinebu a bwyta pethau a offrymwyd i eilunod.

21A rhoddais amser iddi i edifarhâu, ac nid yw yn ewyllysio edifarhâu am ei godineb.

22Wele, yr wyf yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i orthrymder mawr, onid edifarhânt am ei gweithredoedd hi.

23A'i phlant a laddaf â marwolaeth; a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw yr hwn sydd yn chwilio yr arennau a'r calonnau: a rhoddaf i bob un o honoch yn ol eich gweithredoedd.

24Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, y gweddill y rhai sydd yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai ni wyddant bethau dyfnion Satan, fel y dywedant, Nid wyf yn bwrw arnoch faich arall.

25Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch yn dŷn hyd oni ddelwyf.

26A'r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, iddo ef y rhoddaf awdurdod ar y Cenhedloedd,

27ac efe a'u bugeilia â gwialen haiarn, megys y mae llestri pridd yn cael eu dryllio ynghyd; fel y derbyniais innau hefyd gan fy Nhâd:

28a rhoddaf iddo y Seren Fore.

29Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help