1 Timotheus 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cymhwysderau swyddogion yr Eglwys: Y Bugail.

1Ffyddlawn yw yr ymadrodd, Os yw neb yn ymawyddu am yr Arolygiaeth, y mae yn chwennych gwaith da.

2Rhaid, gan hynny, i'r Arolygwr fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn sobr, yn bwyllog, yn weddaidd, yn llettygar, yn athrawaidd,

3nid yn wingar, nid yn darawydd,, yn ymarhous, yn anymladdgar, yn ddi‐ariangar,

4yn llywodraethu ei dy ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn darostyngiad gyda phob difrifoldeb;

5(eithr onid yw un yn gwybod pa fodd i lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymmer ofal am eglwys Dduw?)

6Nid yn newyddian, rhag iddo, wedi ei ddallu gan falchder, syrthio i gondemniad y Diafol.

7Ac y mae yn rhaid iddo hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan, fel na syrthio i waradwydd ac i fagl y Diafol.

Y Diaconiaid a'r Diaconesau.

8 Rhaid i Ddiaconiaid yr un ffunud fod yn ddifrifol, nid yn ddau‐eiriog, nid yn ymroddi i win lawer, nid yn budr‐elwa,

9yn dal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

10A phrofer y rhai hyn hefyd yn gyntaf, yna gwasanaethent fel Diaconiaid, os ydynt yn ddiargyhoedd.

11 Rhaid i'r Gwragedd yr un ffunud fod yn ddifrifol, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlawn ym mhob peth.

12Bydded y Diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a'u tai eu hunain yn dda.

13Canys y rhai a wasanaethant fel Diaconiaid yn dda, a ennillant iddynt eu hunain safle anrhydeddus, a llawer o hyfder yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.

Yr Eglwys a'i Phen.

14Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder;

15ond os byddaf yn oedi, ysgrifennaf fel y gwyppech pa fodd y mae yn rhaid ymddwyn yn Nhŷ Dduw, yr hwn yw Eglwys y Duw byw, colofn a chynnalydd y gwirionedd.

Y Gredo Fendigaid.

16Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb:

Yr Hwn a amlygwyd yn y cnawd;

A gyfiawnhâwyd yn yr Yspryd;

A welwyd gan angelion;

A bregethwyd i'r Cenhedloedd;

A gredwyd ynddo yn y byd;

A dderbyniwyd i fyny mewn gogoniant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help