Rhufeiniaid 16 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

PENNOD XVI.Cyfarchiadau.

1Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd ddiacones yr eglwys sydd yn Cenchrea,

2fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o'r saint, ac y cefnogoch hi ym mha fater bynnag y bydd eich hanghen arni; canys hithau hefyd a fu amgeledd i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.

3Cyferchwch Priscilla ac Acwila fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu,

4y rhai dros fy mywyd a ddodasant i lawr eu gwddf eu hunain, i'r rhai nid myfi yn unig sydd yn diolch, ond hefyd holl eglwysi y Cenhedloedd;

5Cyferchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Cyferchwch fy anwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Asia i Grist.

6Cyferchwch Mair, yr hon a lafuriodd lawer ar eich rhan chwi.

7Cyferchwch Andronicus a Junias, fy nghyd‐wladwyr, a'm cyd‐garcharorion, a'r rhai ydynt o nôd ym mhlith yr Apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i.

8Cyferchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.

9Cyferchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.

10Cyferchwch Appelles y profedig yng Nghrist. Cyferchwch y rhai sydd o dy Aristobulus.

11Cyferchwch Herodion, fy nghyd‐wladwr. Cyferchwch y rhai sydd o dy Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.

12Cyferchwch Tryphena a Tryphosa, y rhai sydd yn llafurio yn yr Arglwydd. Cyferchwch yr anwyl Persis, yr hon a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd.

13Cyferchwch Rufus, yr etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minnau.

14Cyferchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Hermes, a'r brodyr sydd gyda hwynt.

15Cyferchwch Philologus a Julia, Nereus a'i chwaer, ac Olympas, a'r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.

16Cyferchwch y naill a'r llall â chusan sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch.

Rhybudd yn erbyn dysgawdwyr gau.

17Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri yr ymraniadau a'r tramgwyddau yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a throwch oddiwrthynt;

18canys y cyfryw rai ni wasanaethant ein Harglwydd Crist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy lyfniaith a gweniaith hwy a hudant galonnau y rhai diniwed.

19Canys eich ufudd‐dod chwi a gyrhaeddodd glustiau pawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawenhau ynoch chwi, ond ewyllysiaf i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sydd dda, ac yn ddilwgr tuag at yr hyn sydd ddrwg.

20A Duw yr heddwch a sathr Satan dan eich traed yn fuan.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi.

21Mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr yn eich cyfarch; a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy nghyd‐wladwyr.

22Yr wyf fi Tertius yn eich cyfarch chwi, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn yn yr Arglwydd.

23-24Y mae Gaius, fy llettywr i, a'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a'r brawd Cwartus.

Molawd.

25Yn awr i'r hwn sydd alluog i'ch cadarnhâu yn ol fy efengyl i a phregethiad Iesu Grist, yn ol dadguddiad y dirgelwch a gadwyd mewn dystawrwydd trwy amserau tragywyddol,

26eithr yn awr a eglurwyd trwy yr Ysgrifeniadau Prophwydol yn ol ordeiniad y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hysbys i'r holl genhedloedd er ufudd‐dod ffydd,

27— i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist, y byddo y gogoniant yn dragywydd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help