1A gwelais, pan agorodd yr Oen un o'r saith sêl, ac a glywais un o'r pedwar creadur byw yn dywedyd, megys â llais taran, Tyred.
2A gwelais, ac wele, farch gwỳn; a'r hwn oedd yn eistedd arno oedd a bwa ganddo: a rhoddwyd iddo goron; ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.
Yr ail sêl.3A phan agorodd efe yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn dywedyd, Tyred.
4Ac aeth allan farch arall, un coch: ac i'r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd iddo gymeryd heddwch o'r ddaear, ac fel y lladdent eu gilydd; a rhoddwyd iddo gleddyf mawr.
Y drydedd sêl.5A phan agorodd efe y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn dywedyd, Tyred, A gwelais, ac wele, farch du; a'r hwn oedd yn eistedd arno a chlorian ganddo yn ei law.
6A chlywais megys llais yng nghanol y pedwar creadur byw yn dywedyd, Chwart o wenith er denarion, a thri chwart o haidd er denarion; a'r olew a'r gwin, na niweidia.
Y bedwaredd sêl.7A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn dywedyd, Tyred.
8A gwelais, ac wele, farch gwelw‐las: a'r hwn oedd yn eistedd arno, ei enw oedd Angau, ac yr oedd Hades yn canlyn gyd âg ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, a chan fwystfilod y ddaear.
Y bumed sêl.9A phan agorodd efe y bumed sêl, gwelais tàn yr allor eneidiau y rhai a laddesid am Air Duw, ac am y Dystiolaeth a ddygasant:
10a hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, o Feistr, y Sanctaidd a'r Gwirioneddol, nad wyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear?
11A rhoddwyd iddynt, i bob un, wisg wen, a dywedwyd wrthynt am orphwys eto am ychydig amser, hyd oni wnai eu cyd‐weision a'u brodyr, y rhai oedd ar fedr gael eu lladd fel hwythau hefyd, lanw i fyny eu rhif
.Y chweched sêl.12A gwelais pan agorodd efe y chweched sêl, a bu daeargryn mawr; a'r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a'r lleuad i gyd a aeth fel gwaed,
13a sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae y ffigysbren yn bwrw ei ffigys anaddfed, pan ei hysgydwer gan wynt mawr.
14A'r nef a roddwyd heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd, a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o'u lleoedd.
15A brenhinoedd y ddaear, a'r pendefigion, a'r milwriaid, a'r cyfoethogion, a'r gwŷr cedyrn, a phob caethwas a gwr rhydd, a guddiasant eu hunain yn yr ogofeydd a chreigiau y mynyddoedd;
16ac y maent yn dywedyd wrth y mynyddoedd ac wrth y creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni oddi wrth wyneb yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth lid yr Oen;
17canys daeth Dydd Mawr eu digter hwynt, a phwy a ddichon sefyll?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.