1A Saul eto yn chwythu bwgwth a lladdfa i Ddysgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr Arch‐offeiriad,
2ac a geisiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y Synagogau, fel, os caffai rai oedd o'r Ffordd, yn wyr a gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Jerusalem.
3Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, darfu iddo neshau i Damascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r Nef:
4ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glywodd lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid,
6A chyfod, dos i'r Ddinas, a dywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.
7Ond y gwyr oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais yn wir, ond heb weled neb.
8A Saul a gyfododd oddiar y ddaear; ac wedi agoryd o'i lygaid ef, ni welai ddim; a chan ei arwain gerfydd ei law, hwy a'i dygasant i mewn i Damascus.
9Ac yr oedd efe dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.
Ananias a Saul, 10–19.10Ac yr oedd rhyw ddysgybl yn Damascus o'r enw Ananias; a dywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, Ananias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd.
11A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Cyfod, a dos i'r heol a elwir Uniawn, ac ymofyn yn nhy Judas am un o'r enw Saul, o Tarsus: canys wele, y mae yn gweddio;
12a gwelodd mewn gweledigaeth wr o'r enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei ddwylaw arno, fel y gwelai drachefn.
13Ond Ananias a atebodd, Arglwydd, clywais gan lawer am y gwr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th saint i mi yw hwn, i ddal i fyny fy enw o flaen cenhedloedd, a brenhinoedd, a meibion Israel.
16Canys myfi a ddangosaf iddo faint o bethau y mae yn rhaid iddo eu dyoddef er mwyn fy enw.
17Ac Ananias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r ty, a chan ddodi ei ddwylaw arno, a ddywedodd, Frawd Saul, y mae yr Arglwydd wedi fy anfon i, sef Iesu, yr hwn a ymddangosodd i ti yn y ffordd y daethost, fel y gweli drachefn, ac y'th lanwer â'r Yspryd Glân.
18Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef megys cèn, ac efe a welodd drachefn; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd;
19ac wedi iddo gymeryd bwyd efe a gryfhaodd. Ac efe
a fu gyda'r Dysgyblion oedd yn Damascus rai dyddiau.Saul yn dechreu ar ei waith o bregethu a dyoddef, 20–25.20Ac yn ebrwydd yn y Synagogau efe a ddechreuodd bregethu Iesu, mai efe yw Mab Duw?
21A phawb a glybu a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn oedd yr un a anrheithiodd yn Jerusalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac yr oedd wedi dyfod yma i'r dyben hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym o flaen yr Arch‐offeiriaid?
22Eithr Saul a gynyddai fwy‐fwy o nerth, ac a ddyrysai yr Iuddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan brofi mai hwn yw y Crist.
23Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cyd‐ymgynghorodd yr Iuddewon i'w ladd ef:
24eithr eu brad a wybuwyd gan Saul. A hwy hefyd a wyliasant y pyrth ddydd a nos,, fel y lladdent ef:
25eithr ei Ddysgyblion a'i cymerasant ef o hyd nos, ac a'i gollyngasant i waered drwy y mur, gan ei ostwng mewn basged.
Paul yn ymweled a Jerusalem: yn cael ei ddanfon oddiyno i Tarsus, 26–31.26Ac wedi dyfod i Jerusalem, efe a geisiodd lynu wrth y Dysgyblion: ond yr oeddynt oll yn ei ofni ef, gan na chredent ei fod yn ddysgybl.
27Eithr Barnabas a'i cymerodd, ac a'i dyg at yr Apostolion, ac a adroddodd iddynt pa fodd yn y ffordd y gwelodd yr Arglwydd, ac y llefarodd efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y pregethodd yn hyf yn enw yr Iesu.
28Ac yr oedd efe gyda hwynt yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerusalem,
29gan bregethu yn hyf yn enw yr Arglwydd: ac efe a lefarai ac a ymddadleuai yn erbyn yr Iuddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef.
30A'r brodyr, pan wybuant, a'i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a'i hanfonasant ef ymaith i Tarsus.
31Gan hyny, yn wir, yr Eglwys trwy holl Judea, a Galilea, a Samaria, a gafodd heddwch, gan gael ei hadeiladu; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn nyddanwch yr Yspryd Glân, hi a amlhawyd.
Gwellhâd Aeneas ac Adgyfodiad Dorcas, 32–43.32A bu i Petr, pan yn tramwy trwy yr holl barthau
, ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn preswylio yn Lydda.33Ac efe a gafodd yno ryw ddyn o'r enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar ei wely, yr hwn oedd wedi ei barlysu.
34A Phetr a ddywedodd wrtho, Aeneas, Y mae Iesu Grist yn dy iachâu di: Cyfod, a thaena dy wely. Ac yn ebrwydd efe a gyfododd.
35A phawb ag oedd yn preswylio yn Lydda ac yn Saron a'i gwelsant ef, ac a droisant at yr Arglwydd.
36Ac yn Joppa yr oedd rhyw ddysgybles o'r enw Tabitha, ystyr yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Dorcas: hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac o elusenau, y rhai a wnelai.
37A bu yn y dyddiau hyny iddi glafychu a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn goruwch‐ystafell.
38A chan fod Lydda yn agos i Joppa, y dysgyblion, wedi clywed fod Petr yno, a anfonasant ddau wr ato, gan ddeisyf: Na fydded i ti oedi dyfod trosodd atom.
39A Phetr a gyfododd ac a aeth gyda hwynt. Hwy, wedi iddo gyrhaedd, a'i harweiniasant ef i'r Oruwch‐ystafell; a'r holl wragêdd‐gweddwon a safasant yn ei ymyl yn wylo, ac yn arddangos yr is‐wisgoedd a'r uch-wisgoedd, cynifer ag a wnaethai Dorcas, tra yr oedd hi gyda hwynt.
40Eithr Petr, wedi eu bwrw hwynt oll allan, a myned ar ei liniau, a weddïodd; a chan droi at y corph, a ddywedodd, Tabitha, Cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd Petr, hi a eisteddodd i fyny.
41Ac efe a roddodd iddi ei law, ac a'i cyfododd i fyny; a chan alw y saint a'r gwragedd‐gweddwon, efe a'i cyflwynodd hi ger bron yn fyw.
42Ac aeth hyn yn hyspys trwy holl Joppa, a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.
43A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Joppa gyda rhyw Simon, barcer.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.