1Yn ddiweddaf, frodyr, yr ydym yn deisyf ac yn eich annog yn yr Arglwydd Iesu, fel y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a boddloni Duw, fel hefyd yr ydych yn rhodio,
2ar i chwi ymhelaethu fwy‐fwy, canys chwi a wyddoch pa orchymynion a roddasom i chwi trwy yr Arglwydd Iesu;
3canys hyn yw ewyllys Duw, eich sancteiddiad, ar ymgadw o honoch oddiwrth odineb,
4ar wybod o bob un o honoch pa fodd i ennill meddiant o'i lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch,
5nid yng ngwŷn trachwant, fel y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw:
6fel na byddo i neb fyned dros y terfyn a gwneuthur cam a'i frawd yn y mater, canys dialydd yw yr Arglwydd yn yr holl bethau hyn, megys y dywedasom i chwi o'r blaen ac y tystiasom;
7canys ni alwodd Duw nyni i aflendid eithr mewn sancteiddiad.
8Gan hynny, y neb sydd yn gwrthod, nid dyn y mae yn ei wrthod, ond Duw, yr hwn sydd yn rhoddi ei Yspryd Glân i chwi.
9Ond am gariad brawdol, nid oes arnoch angen ysgrifennu o honof attoch, canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd;
10canys yr ydych hefyd yn gwneuthur hyn tuag at yr holl frodyr sydd yn holl Macedonia; ac yr ydym yn eich annog, frodyr,
11i ymhelaethu fwy‐fwy, a rhoddi o honoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylaw, megys y gorchymynasom i chwi,
12fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na bo arnoch eisieu dim.
Dyfodiad yr Arglwydd.13Ond ni ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno, na thristâoch, megys eraill y rhai nid oes ganddynt obaith;
14canys os ydym yn credu i Iesu farw ac adgyfodi, felly hefyd Duw a ddyg y rhai a hunasant trwy yr Iesu gydag ef.
15Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng Ngair yr Arglwydd: Nyni y rhai byw, y rhai sydd yn cael eu gadael hyd Ddyfodiad yr Arglwydd, ni rag‐flaenwn o gwbl y rhai a hunasant;
16oblegyd yr Arglwydd ei hun gyda bloedd, gyda llef archangel, ac âg udgorn Duw, a ddisgyn o'r nef, a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf;
17wedi hynny nyni y rhai byw, y rhai sydd yn cael ein gadael, a gipir i fyny ynghyd gyda hwynt mewn cymmylau, ac felly byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd.
18Am hynny calonogwch eich gilydd â'r ymadroddion hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.