Hebreaid 9 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Tabernacl a gwasanaeth yr Hen Gyfamod.

1Yr oedd am hynny gan y Cyfamod cyntaf ordeiniadau gwasanaeth a chysegr materol;

2canys tabernacl a ddodrefnwyd, y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canwyllyr, a'r bwrdd, a'r bara gosod; yr hwn a elwir y Cysegr.

3A thu hwnt i'r ail len, tabernacl a elwir y Cysegr Sancteiddiolaf,

4yn yr hwn yr oedd allor aur yr arogldarth, ac arch y Cyfamod wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon yr oedd y crochan aur yn dal y manna, a gwialen Aaron, yr hon a flagurodd, a llechau y Cyfamod;

5ac uwch ei phen cerubiaid y Gogoniant, yn cysgodi y Gymodfa; am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.

6A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yr ä yn wastadol yr offeiriaid, gan gyflawni y gwasanaethau;

7ond i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, yr a yr Arch‐offeiriad yn unig, nid heb waed, yr hwn a offryma drosto ei hun a thros gyfeiliornadau y bobl —

8yr Yspryd Glân yn hyspysu hyn, nad yw y ffordd i'r Cysegr wedi ei hamlygu eto, tra y mae y tabernacl cyntaf yn sefyll,

9a hyn sydd gyffelybiaeth am yr amser presennol, yn ol yr hon y mae rhoddion ac aberthau yn cael eu hoffrymu, nas gallant, o ran cydwybod, berffeithio yr addolydd,

10yn unig ar sail bwydydd a diodydd, ac amrywiol olchiadau, — ordeiniadau y cnawd, wedi eu gosod hyd adeg diwygiad.

Tabernacl a gwasanaeth y Cyfamod Newydd.

11Eithr Crist wedi dyfod atom, fel Arch‐offeiriad y daionus bethau i ddyfod, trwy y tabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r greadigaeth hon;

12ac nid trwy waed geifr a lloi, ond trwy ei waed ei hun, a aeth i mewn, unwaith am byth, i'r Cysegr, wedi ennill prynedigaeth dragwyddol.

13Canys os ydyw gwaed geifr a theirw a lludw anner yn taenellu y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i lanhâd y cnawd,

14pa faint mwy y bydd i waed y Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, lanhau eich cydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw?

15Ac o herwydd hyn y mae Efe yn Gyfryngwr gymeryd lle gyda golwg ar brynedigaeth oddiwrth y troseddau yn erbyn y cyfamod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.

16Canys lle y mae cymun‐rodd, rhaid dygwyddo marwolaeth y cymun‐roddwr.

17Canys wedi marw dynion y mae cymun‐rodd yn sicr; canys nis gall fod un amser mewn grym pan mae y cymun‐roddwr yn fyw.

18O herwydd paham nid yw hyd y nod y cyfamod cyntaf wedi ei gysegru heb waed.

19Canys wedi llefaru pob gorchymyn yn ol y Gyfraith gan Moses wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr a gwlan porphor ac isop, ac a daenellodd y llyfr ei hun, ynghyd a'r holl bobl,

20gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y cyfamod a orchymynodd Duw mewn perthynas i chwi.

21A'r tabernacl, a holl lestri y gwasanaeth a daenellodd efe â'r gwaed yr un modd.

22A bron y dywedwn mai â gwaed y glanhêir pob peth yn ol y Gyfraith, ac ar wahan i dywallt gwaed nid oes maddeuant.

Aberth Crist yn dileu pechod.

23Rhaid oedd gan hynny i'r adluniau sydd yn y nefoedd gael eu glanhau â'r pethau hyn, eithr y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.

24Canys nid i gysegr o waith llaw, gwrthlun y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos ger bron wyneb Duw drosom ni;

25nac eto fel yr offrymai ei hun yn fynych fel y mae yr Arch‐offeiriad yn myned i mewn i'r Cysegr bob blwyddyn â gwaed dyeithr;

26pe amgen rhaid fuasai iddo fod wedi dyoddef yn fynych er seiliad y byd; ond yn awr, unwaith am byth, yng nghyflawniad yr oesoedd, y mae efe wedi ei amlygu er dileu pechod trwy ei aberth ei hun.

27Ac megys y penodir i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn,

28felly hefyd y Crist, wedi ei offrymu unwaith, i ddwyn pechodau llawer, a welir yr ail waith heb bechod, gan y rhai sydd yn awyddus‐ddisgwyl am dano, er iachawdwriaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help