Ioan 5 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Crist yn iachâu ar y Sabbath yr hwn fu glaf ddeunaw mlynedd‐ar-hugain.

1Wedi y pethau hyn yr oedd Gŵyl yr Iuddewon; a'r Iesu a aeth i fyny i Jerusalem.

2Ac y mae yn Jerusalem, wrth Borth y Defaid, lyn a gyfenwir yn yr Hebraeg, Bethesda, ag iddo bum cyntedd:

3,4yn y rhai y gorweddai lluaws o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion.

5Ac yr oedd rhyw ddyn yno a fuasai yn ei afiechyd dri‐deg ac wyth o flynyddau.

6Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, ac yn gwybod ei fod ef felly weithian amser maith, a ddywed wrtho, A fyni di ddyfod yn iach?

7Y claf a atebodd iddo, Syr, nid oes genyf ddyn, pan gynhyrfer y dwfr, i'm bwrw i'r llyn: ond tra yr wyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i.

8Yr Iesu a ddywed wrtho, Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a rhodia.

9Ac yn ebrwydd y dyn a ddaeth yn iach, ac a gyfododd i fyny ei wely, ac a rodiodd. Yn awr, yr oedd y Sabbath ar y dydd hwnw.

Achwyniad yr Iuddewon.

10Am hyny dywedodd yr Iuddewon wrth yr hwn oedd wedi ei wellhâu, Y Sabbath ydyw: ac nid cyfreithlawn i ti gyfodi i fyny y gwely.

11Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.

12Am hyny hwy a ofynasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod i fyny dy wely

, a rhodia?

13A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy ydyw efe: oblegyd yr Iesu a ymneillduodd, gan fod tyrfa yn y lle.

14Ar ol y pethau hyn y mae yr Iesu yn ei gael ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, yr ydwyt wedi dyfod yn iach: na phecha mwyach, fel na ddygwyddo i ti beth a fyddo gwaeth.

15Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i'r Iuddewon mai yr Iesu yw yr hwn a'i gwnaethai ef yn iach.

Cyhuddiad yr Iuddewon, ac ateb Crist.

16Ac o herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn erlid yr Iesu,, oblegyd ei fod yn gwneuthur y pethau hyn ar y Sabbath.

17Ond yr Iesu a'u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhâd yn gweithio hyd yn awr, ac yr ydwyf finau yn gweithio.

18O herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn ceisio yn fwy ei ladd ef, canys nid yn unig yr oedd efe yn dirymu y Sabbath, ond hefyd dywedodd mai ei Dâd ei hun oedd Duw, gan ei wneuthur ei hun yn gyd‐radd â Duw.

19Yr Iesu gan hyny a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur: canys pa beth bynag y mae efe yn ei wneuthur, y pethau hyn hefyd y mae y Mab yr un modd yn eu gwneuthur.

20Canys y Tâd sydd yn caru y Mab, ac yn dangos iddo yr holl bethau y mae efe yn eu gwneuthur: a gweithredoedd mwy na'r rhai hyn a ddengys efe iddo, fel y rhyfeddoch chwi.

Hawliau a gwaith y Mab.

21Oblegyd megys y mae y Tâd yn cyfodi y meirw, ac yn eu bywhâu, felly hefyd y mae y Mab yn bywhâu y rhai a fyno.

22Canys nid yw hyd y nod y Tâd yn barnu neb; ond y mae efe wedi rhoddi y Farn gyfan i'r Mab:

23fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tâd, yr hwn a'i hanfonodd ef.

24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn gwrando fy ngair, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, sydd ganddo fywyd tragywyddol, ac nid yw yn dyfod i Farn, eithr y mae efe wedi myned trosodd allan o farwolaeth i fywyd.

25Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae yr awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y Meirw lais Mab Duw, a'r rhai a glywant a fyddant byw.

26Canys megys y mae gan y Tâd fywyd ynddo ei hun, felly hefyd i'r Mab y rhoddodd efe i gael bywyd ynddo ei hun:

27ac efe a roddodd iddo awdurdod i wneuthur barn, oblegyd ei fod yn Fab dyn.

28Na ryfeddwch at hyn: canys y mae yr awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb sydd yn eu beddau glywed ei lais ef,

29ac a ddeuant allan: y rhai a wnaethant bethau da i Adgyfodiad bywyd, ond y rhai a ymarferasant bethau isel‐wael i Adgyfodiad barn.

30Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hun: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn, canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys yr hwn a'm danfonodd i.

Tystiolaeth Crist.

31Os ydwyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth i yn wir.

32Arall ydyw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fi, ac mi wn mai gwir yw y dystiolaeth y mae yn ei thystiolaethu am danaf fi.

Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr.

33Chwychwi ydych wedi anfon at Ioan, ac y mae efe wedi tystiolaethu i'r gwirionedd:

34ond myfi nid ydwyf yn derbyn y dystiolaeth oddiwrth ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y'ch achuber.

35Efe oedd y llusern sydd yn llosgi ac yn goleuo, a chwithau a fynasech am dymhor byr orfoleddu yn ei oleuni ef.

Tystiolaeth y Tâd.

36Ond y mae genyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd y mae y Tâd wedi eu rhoddi i mi, fel eu gorphenwyf, y gweithredoedd hyny yr wyf yn eu gwneuthur sydd yn tystiolaethu am danaf fi, mai y Tâd sydd wedi fy anfon i.

37A'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i, efe sydd wedi tystiolaethu am danaf fi. Nid ydych erioed naill nac wedi clywed ei lais ef, nac wedi gweled ei wedd ef.

38A'i air ef nid yw genych yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnw nid ydych chwi yn ei gredu.

39Yr ydych yn chwilio yr Ysgrythyrau: canys yr ydych yn tybied cael ynddynt hwy fywyd tragywyddol; a hwynthwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi:

40ac ni fynwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.

41Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.

42Yr ydwyf wedi eich adnabod chwi, nad oes genych gariad Duw ynoch.

43Yr ydwyf wedi dyfod yn enw fy Nhâd, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch.

44Pa fodd y gallwch chwi gredu, gan dderbyn gogoniant oddi wrth eich gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth yr Unig Dduw?

45Na thybiwch y cyhuddaf chwi wrth y Tâd: y mae un a'ch cyhudda chwi, Moses, yn yr hwn yr ydych wedi gobeithio.

46Canys pe credasech i Moses, chwi a gredasech i minau; canys am danaf fi yr ysgrifenodd efe.

47Ond os chwi ni chredwch ei Ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch fy ngeiriau i?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help