1A'r Iesu a aeth i Fynydd yr Olew‐wydd.
2A chyd â'r wawr efe a ddaeth drachefn i'r Deml, a'r holl bobl a ddaethant ato ef; ac efe a eisteddodd, ac a'u dysgodd hwynt.
3A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddygasant ato wraig oedd wedi ei dal mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol,
4y maent yn dywedyd wrtho, Athraw, y wraig hon a ddaliwyd yn y weithred o odinebu.
5Yn awr, Moses yn y Gyfraith a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw: pa beth gan hyny yr wyt ti yn ei ddywedyd?
6A hyn a ddywedasant, gan ei demtio ef, fel y cawsent beth i'w gyhuddo ef o'i blegyd. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu i lawr, a ysgrifenodd â'i fys ar y ddaear.
7Ond fel yr oeddynt yn parhâu yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod o honoch, tafled fel y cyntaf y garreg ati.
8Ac wedi iddo drachefn ymgrymu i lawr, efe a ysgrifenodd ar y ddaear.
9A hwy, pan glywsant,, a aethant allan o un i un, gan ddechreu o'r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.
10A'r Iesu wedi ymunioni, ac yn gweled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Pa le y mae y rhai hyny oeddynt dy gyhuddwyr di? Oni chondemniodd neb di?
11Hithau a ddywedodd, Naddo, neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Ac hyd y nod myfi, nid wyf yn dy gondemnio di: dos, ac o hyn allan na phecha mwyach].
Y ddau Dyst Dwyfol.12Drachefn gan hyny y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw Goleuni y byd: yr hwn a'm dylyno i, ni rodia yn y Tywyllwch, eithr efe a gaiff Oleuni y Bywyd.
13Dywedodd gan hyny y Phariseaid wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu am danat dy hun: nid yw dy dystiolaeth di yn wir.
14Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyd y nod os wyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i; canys mi a wn o ba le y daethum, ac i ba le yr wyf yn myned ymaith: chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf yn dyfod, nac i ba le yr wyf yn myned ymaith.
15Chwychwi sydd yn barnu yn ol y cnawd; nid wyf fi yn barnu neb.
16Ac hyd y nod os wyf fi yn barnu, fy marn i sydd wirioneddol, canys nid wyf fi wrthyf fy hun, ond myfi a'r Tâd yr hwn a'm hanfonodd i.
17Ie, yn eich Cyfraith chwi y mae yn ysgrifenedig, fod tystiolaeth dau ddyn yn wir.
18Myfi yw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun, ac y mae y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i yn tystiolaethu am danaf fi.
19Am hyny y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dâd di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na'm Tâd i: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhâd i hefyd.
20Y geiriau hyn a lefarodd efe wrth y Drysorfa, wrth ddysgu yn y Deml: ac ni ddaliodd neb ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod.
Tynghed anghrediniaeth yn Anfonedig y Tâd.21Efe a ddywedodd gan hyny wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned ymaith ni ellwch chwi ddyfod.
22Am hyny dywedodd yr Iuddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, ni ellwch chwi ddyfod.
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi ydych oddi isod; minau sydd oddi uchod: chwychwi ydych o'r byd hwn; nid wyf fi o'r byd hwn.
24Am hyny y dywedais wrthych, y byddwch feirw yn eich pechodau: oblegyd oni chredwch mai myfi yw efe
, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.25Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pwy wyt ti? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn hanfodol yr hyn yr wyf hefyd yn ei lefaru wrthych.
26Y mae genyf fi lawer o bethau i'w llefaru a'u barnu am danoch chwi: ond y mae yr hwn a'm hanfonodd i yn wir; a'r pethau a glywais i oddi wrtho, y rhai hyn yr wyf fi yn eu llefaru i'r byd.
27Hwy ni wybuasant mai am y Tâd yr oedd efe yn llefaru wrthynt.
28Am hyny y dywedodd yr Iesu, Pan y dyrchafoch chwi Fab y Dyn, yna y deuwch i wybod mai myfi yw efe
, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun, ond megys y dysgodd y Tâd fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.29A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyd â mi: ni adawodd efe fi wrthyf fy hun: canys yr wyf yn gwneuthur bob amser y pethau sydd foddlawn ganddo ef.
30Ac efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant ynddo.
Gwir ryddid.31Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrth yr Iuddewon, y rhai oedd wedi ei gredu ef, Os aroswch chwi yn fy Ngair i, fy nysgyblion i ydych yn wir.
32A chwi a ddeuwch i wybod y Gwirionedd, a'r Gwirionedd a'ch rhydd‐hâ chwi.
33Hwy a atebasant iddo, Hâd Abraham ydym ni, ac nid ydym erioed wedi bod mewn caethiwed i neb: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?
34Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pob un sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn gaeth‐was pechod.
35A'r caeth‐was nid yw yn aros yn y ty byth: y Mab sydd yn aros byth.
36Ac os y Mab a'ch rhydd‐hâ chwi, rhyddion fyddwch mewn gwirionedd.
Hâd Abraham, ond nid plant Abraham.37Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi: ond yr ydych yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy Ngair i yn enill tir ynoch chwi.
38Yr wyf fi yn llefaru y pethau yr wyf wedi eu gweled gyd â fy
Nhâd, ac yr ydych chwithau yn gwneuthur y pethau a glywsoch gyd â eich Tâd.39Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein Tâd ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Os plant Abraham ydych, yr ydych yn gwneuthur gweithredoedd Abraham.
40Eithr yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd i, dyn yr hwn sydd wedi llefaru wrthych y Gwirionedd, yr hwn a glywais gyd â Duw: hyn ni wnaeth Abraham.
Mab Duw a Phlant y Diafol.41Yr ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tâd chwi. Dywedasant wrtho, Nid o buteindra y'n ganwyd ni: un Tâd sydd genym ni, Duw.
42Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe Duw fyddai eich Tâd chwi, chwi a'm carech i: canys o Dduw y daethum allan ac yr wyf bresenol: canys nid ydwyf wedi dyfod ychwaith o honof fy hun, ond efe a'm hanfonodd i.
43Paham nad ydych yn adnabod fy lleferydd i? Am nad ydych yn gallu gwrando fy Ngair i.
44Yr ydych o'ch tâd, y Diafol; a chwantau eich tâd y mynwch chwi eu gwneuthur. Llofrudd oedd efe o'r dechreuad: ac ni safodd yn gadarn yn y Gwirionedd, oblegyd nid oes Gwirionedd ynddo ef: pan y mae un yn llefaru celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn llefaru; canys ei dâd ef hefyd sydd gelwyddwr.
45Ond myfi am fy mod yn dywedyd y Gwirionedd, nid ydych yn fy nghredu.
46Pwy o honoch a'm profa yn euog o bechod? Os wyf yn dywedyd Gwirionedd, paham nad ydych yn fy nghredu i?
47Y mae yr hwn sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw: o achos hyn nid ydych chwi yn eu gwrando, oblegyd nad ydych o Dduw.
48Yr Iuddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Onid teg yr ydym yn dywedyd mai Samariad wyt ti, a bod genyt gythraul?
49Yr Iesu a atebodd, Nid oes genyf gythraul; ond yr wyf yn anrhydeddu fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu inau.
50Ond nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant: y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu.
Anfarwoldeb y Credadyn a thragywyddoldeb yr Iachawdwr.51Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy Ngair i, ni wêl farwolaeth yn dragywydd.
52Yr Iuddewon a ddywedasant wrtho, Yn awr yr ydym wedi dyfod i wybod fod genyt gythraul. Bu Abraham farw, a'r Proffwydi: ac meddi di, Os ceidw neb fy Ngair i, ni phrofa efe farwolaeth yn dragywydd.
53Ai mwy wyt ti na'n Tâd Abraham, yr hwn a fu farw? A'r Proffwydi a fuant feirw; pwy yr wyt yn dy wneuthur dy hun?
54Yr Iesu a atebodd, Pe byddai i mi ogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhâd yw yr hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd am dano, mai eich Duw chwi ydyw.
55Eto nid ydych wedi ei adnabod ef, ond yr wyf fi yn ei adwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen i ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei Air ef.
56Eich Tâd Abraham a orfoleddodd i weled fy Nydd i: ac efe a'i gwelodd, ac a lawenychodd.
57Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant wrtho, Nid wyt ti eto ddengmlwydd a deugain oed, ac a ydwyt ti wedi gweled Abraham?
58Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn geni Abraham yr wyf fi.
59Gan hyny hwy a godasant gerryg i'w taflu ato ef. Ond yr Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r Deml.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.