Ioan 16 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Gelyniaeth y Byd: Rhybudd Crist i'w Ddysgyblion.

1Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel na rwystrer chwi.

2Hwy a'ch esgymunant o'r Synagog: ie y mae yr awr yn dyfod, y tybia yr hwn a'ch lladdo ei fod yn offrymu gwasanaeth i Dduw.

3A'r pethau hyn a wnant, oblegyd nad adnabuant y Tâd na myfi.

4Ie y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel pan ddêl eu hawr hwy, y cofiwch hwynt, mai mi fy hun a ddywedodd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy mod i gyd â chwi.

5Ond yn awr yr wyf fi yn myned at yr hwn a'm hanfonodd i, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned?

6Eithr oblegyd fy mod wedi llefaru y pethau hyn wrthych, y mae tristwch wedi llenwi eich calon.

Danfoniad y Dadleuydd: ei swydd a'i waith.

7Ond yr wyf fi yn dywedyd y gwirionedd i chwi: Buddiol yw i chwi ymadael o honof: canys onid ymadawaf, y Dadleuydd ni ddaw atoch o gwbl, ond os âf fy ffordd, mi a'i hanfonaf ef atoch.

8A phan ddêl, efe a ddyg y byd i brawf o berthynas i bechod, ac o berthynas i gyfiawnder, ac o berthynas i farn:

9o berthynas yn wir i bechod, yn gymaint ag nad ydynt yn credu ynof fi;

10o berthynas i gyfiawnder, yn gymaint a'm bod i yn myned at y Tâd; ac ni'm gwelwch i mwyach;

11o berthynas i farn, yn gymaint a bod Llywodraethwr y byd hwn wedi ei farnu.

12Y mae genyf eto lawer o bethau i ddywedyd wrthych, ond ni ellwch eu dwyn yr awrhon.

13Ond pan ddêl efe, Yspryd y Gwirionedd, efe a'ch tywys i'r Gwirionedd oll: canys ni lefara o hono ei hun, ond pa bethau bynag a glywo a lefara efe, a'r pethau sydd yn dyfod a fynega efe i chwi.

14Efe a'm gogonedda i; canys efe a gymmer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.

15Pob peth bynag sydd eiddo y Tâd ydynt eiddo fi: o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddo fi y mae efe yn cymmeryd ac y mynega i chwi.

‘Yr ychydig enyd’ drallodus: y llawnder a'r llawenydd diddiwedd.

16Ychydig enyd ac nid ydych yn fy ngweled mwyach; a thrachefn ychydig enyd a chwi a'm gwelwch.

17Dywedodd gan hyny rai o'i Ddysgyblion wrth eu gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig enyd ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig enyd a chwi a'm gwelwch; ac, Am fy mod yn myned at y Tâd?

18Gan hyny y dywedasant, Pa beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig enyd? Ni wyddom ni beth y mae yn ei lefaru.

19Iesu a wybu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo, a ddywedodd wrthynt, Ai am hyn yr ydych yn ymofyn â'ch gilydd oblegyd i mi ddywedyd, Ychydig enyd ac ni'm gwelwch i, a thrachefn, Ychydig enyd a chwi a'm gwelwch?

20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a wylwch allan ac a gwynfanwch, ond y byd a lawenycha: chwi a fyddwch drist, ond eich tristwch a ddaw yn llawenydd.

21Y wraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr hi; ond wedi rhoddi genedigaeth i'r plentyn, nid yw mwyach yn cofio ei chyfyngder o herwydd y llawenydd, am eni dyn i'r byd.

22A chwithau gan hyny yr ydych yn awr mewn tristwch: ond drachefn mi a'ch gwelaf chwi, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.

23Ac yn y dydd hwnw ni ofynwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, os ceisiwch gan y Tâd, efe a'i rhydd i chwi yn fy enw i.

24Hyd yn hyn ni cheisiasoch ddim yn fy enw i; ceisiwch, a chwi a dderbyniwch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

Llefaru yn eglur: methiant byr, ac yna buddugoliaeth lwyr.

25Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych mewn alegoriau: y mae yr awr yn dyfod, pan na lefaraf wrthych mwyach mewn alegoriau, eithr yn ddigêl y mynegaf i chwi am y Tâd.

26Y dydd hwnw y ceisiwch yn fy enw i: ac nid wyf yn dywedyd i chwi y gofynaf i'r Tâd o berthynas i chwi;

27canys y Tâd ei hun sydd yn eich hoffi chwi, am eich bod chwi wedi fy hoffi i, ac wedi credu ddyfod o honof allan oddi wrth y Tâd.

28Mi a ddaethum allan oddi wrth y Tâd, ac yr wyf wedi dyfod i'r byd: trachefn, yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tâd.

29Dywed ei Ddysgyblion, Wele, yn awr yr wyt ti yn siarad yn ddigêl, ac nid wyt yn dywedyd un alegori.

30Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nad oes angen arnat i neb ofyn i ti: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddi wrth Dduw.

31Atebodd yr Iesu iddynt, A ydych chwi yn awr yn credu?

32Wele, y mae yr Awr yn dyfod, ie y mae wedi dyfod, y gwasgerir chwi, bob un at yr eiddo, ac y gadêwch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegyd y mae y Tâd gyd â mi.

33Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y caffech dangnefedd ynof fi. Yn y byd yr ydych yn cael gorthrymder: ond ymgalonogwch; yr wyf fi wedi gorchfygu y byd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help