Ioan 15 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Wir Winwydden: Undeb Crist a'i Ddysgyblion.

1Myfi yw y Winwydden Wirioneddol, a fy Nhâd yw y Llafurwr.

2Pob cangen ynof fi nad yw yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei chymmeryd ymaith; a phob un sydd yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thrwsio, fel y dygo fwy o ffrwyth.

3Yr ydych chwi eisioes yn lân o herwydd y gair yr wyf fi wedi ei lefaru wrthych.

4Aroswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megys na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden: felly ni ellwch chwithau, onid aroswch ynof fi.

5Myfi yw y Winwydden, chwi y cangenau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minau ynddo yntau, hwnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: canys ar wahan â mi nis gellwch wneuthur dim.

6Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd tu allan, fel y gangen, ac a wywodd allan: ac y maent yn eu casglu hwynt ynghyd, ac yn eu bwrw i'r tân, ac y maent yn llosgi!

7Os aroswch ynof fi, ac aros o'm geiriau ynoch, ceisiwch beth bynag a ewyllysioch, ac efe a fydd i chwi.

8Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhâd, fel y dygoch ffrwyth lawer, ac y deuwch yn ddysgyblion i mi.

9Fel y carodd y Tâd fi, minau hefyd a'ch cerais chwi. Aroswch yn fy nghariad fy hun.

10Os cedwch fy Ngorchymynion, chwi a aroswch yn fy nghariad: megys yr wyf wedi cadw Gorchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.

11Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y byddai fy llawenydd fy hun ynoch, ac fel y gwnelid eich llawenydd yn gyflawn.

Undeb yn mhlith dysgyblion yn Nghrist.

12Hwn yw fy Ngorchymyn fy hun: Bod i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.

13Cariad mwy na hwn nid oes gan neb: Bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.

14Chwi yw fy nghyfeillion os gwnewch y pethau yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.

15Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; canys y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond yr wyf fi wedi eich galw chwi yn gyfeillion; oblegyd pob peth a'r a glywais gan fy Nhâd a hysbysais i chwi.

16Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch penodais chwi, fel yr eloch ymaith, ac y dygoch ffrwyth, ac yr erys eich ffrwyth: fel pa beth bynag a geisioch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.

17Y pethau hyn yr wyf yn eu gorchymyn i chwi: Bod i chwi garu eich gilydd.

Casineb y Byd tu ag at Grist a'i ddysgyblion.

18Os yw y byd yn eich cashâu chwi, chwi a wyddoch ei fod wedi fy nghashâu i o'ch blaen chwi.

19Pe byddech o'r byd, y byd a hoffai yr eiddo: ond oblegyd nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis chwi allan o'r byd, o achos hyn y mae y byd yn eich cashâu chwi.

20Cofiwch yr ymadrodd yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, chwithau hefyd a erlidiant: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

21Eithr yr holl bethau hyn a wnant i chwi o herwydd fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i.

22Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod.

23Yr hwn sydd yn fy nghashâu i sydd yn cashâu fy Nhâd hefyd.

24Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yn awr y maent wedi gweled ac a'm casasant i a'm Tâd hefyd.

25Eithr fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu Cyfraith hwynt,

Hwy a'm casasant yn ddiachos.Cenadaeth a gwaith yr Yspryd.

26Eithr pan ddêl y Dadleuydd, yr hwn a anfonaf fi i chwi oddi wrth y Tad, Yspryd y Gwirionedd, yr hwn sydd yn dyfod allan oddi wrth y Tâd, efe a dystiolaetha am danaf fi:

27ac yr ydych chwithau hefyd yn tystiolaethu, am eich bod o'r dechreuad gyd â mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help