Hebreaid 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Perygl o esgeuluso cenadwri y Mab.

1O herwydd hyn rhaid i ni roddi sylw helaethach i'r pethau a glybuwyd, rhag un amser i ni gael ein cludo heibio iddynt.

2Canys os bu sicr y gair a lefarwyd trwy angelion, ac os derbyniodd pob troseddiad ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth,

3pa fodd y dïangwn ni, wedi esgeuluso iachawdwriaeth mor fawr? yn gyfryw a gafodd ar y dechreu ei llefaru trwy yr Arglwydd, a sicrhâwyd i ni gan y rhai a glywsant;

4Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amrywiol nerthoedd a chyfraniadau y darostyngodd efe y Byd sydd ar Ddyfod, am yr hwn yr ydym yn llefaru.

6Eithr tystiolaethodd rhyw un mewn rhyw fan, gan ddywedyd,

Pa beth yw dyn, i ti i'w gofio?

Neu fab dyn i ti ymweled âg ef?

7Ti a'i gwnaethost ychydig yn llai nag angelion;

A gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef;

[Ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylaw];

8Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef; canys mewn darostwng yr oll iddo, ni adawodd efe ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym ni eto yn gweled yr oll wedi ei ddarostwng iddo.

9Ond yr ydym yn canfod yr hwn a wnaed ychydig yn llai nag angelion, Iesu, o herwydd dyoddefaint ei Farwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw y profai flas marwolaeth dros bob un.

Y Mab a'r Meibion.

10Canys gweddai iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, pan yn arwain meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysydd eu hiachawdwriaeth trwy ddyoddefiadau.

11Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o Un Tad

y maent oll

; am ba achos nid oes arno gywilydd eu galw yn frodyr,

12gan ddywedyd,

Mynegaf dy enw i'm brodyr,

Ynghanol y Gynnulleidfa y canaf dy fawl.

13A thrachefn,

Myfi fyddaf yn ymddiried ynddo.

A thrachefn,

Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi.

Ein Harchoffeiriad yn Ddyoddefydd.

14Oblegyd hynny, gan fod y plant wedi cyfranogi o waed a chnawd, yntau hefyd mewn cyffelyb fodd a gyfranogodd o'r un pethau, fel trwy farwolaeth y dirymai efe yr hwn sydd ganddo nerth marwolaeth, hynny yw, y Diafol,

15ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt trwy eu holl fywyd yn ddarostyngedig i gaethiwed.

16Canys, bid sicr, nid mewn angelion y cymer efe afael, eithr efe a gymer afael yn hâd Abraham:

17am ba achos y dylai ym mhob peth ei wneud yn gyffelyb i'w frodyr, fel y byddai yn Arch‐offeiriad trugarog a ffyddlawn yn y pethau a berthynant i Dduw, er gwneuthur cymod dros bechodau y bobl:

18Canys yn yr hyn y dyoddefodd ef ei hun gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo y rhai a demtir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help