1A bu, pan orphenodd yr Iesu gyfarwyddo ei Ddeuddeg Dysgybl, efe a ymadawodd oddiyno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.
2A Ioan, pan glybu yn y carchar am weithredoedd y Crist, wedi danfon trwy sydd yn dyfod neu ai un gwahanol;
6a gwyn fyd yr hwn na chaiff achlysur o dramgwydd ynof fi.
Gwir fawredd Ioan Fedyddiwr.7Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i syllu arno? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?
8Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad
esmwyth, yn nhai breninoedd y maent.9Eithr paham yr aethoch allan? I weled proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a llawer mwy nâ phroffwyd.
10Canys hwn yw efe am yr hwn y mae wedi ei ysgrifenu,
“Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb,
Yr hwn a barotoa dy ffordd o'th flaen.”
11Yn wir meddaf i chwi, Yn mhlith y rhai a aned o wragedd ni chyfododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr; ond yr hwn sydd lai yn Nheyrnas Nefoedd sydd fwy nag ef.
12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr Teyrnas Nefoedd a gymmerir drwy rym, a'r gwyr grymus sydd yn dal gafael arni.
13Canys yr holl Broffwydi a'r Gyfraith a broffwydasant hyd Ioan.
14Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod.
15Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed.
Y genedlaeth drofaus a gwrthnysig.[Luc 7:31–35]16Eithr i ba beth y cyffelybaf y genedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant bychain yn eistedd yn y marchnadleoedd, y rhai, gan alw ar y lleill,
17a ddywedant, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom, ac ni churasoch ddwyfron.
18Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.
19Daeth Mab y Dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Treth‐gasglwyr a phechaduriaid. Etto, Doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant fydd i Tyrus a Sidon yn Nydd y Farn nag i chwi.
23A thydi Capernäum, a ddyrchefir di hyd y nef? ti a äi i lawr hyd yn Hades, canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynot ti, hi a arosai hyd heddyw.
24Er hyny, meddaf i chwi, y bydd esmwythach i dir Sodom yn Nydd y Farn nag i ti.
Y gwir ddoethion.[Luc 10:21, 22]25Yr amser hwnw yr atebodd yr Iesu, gan ddywedyd, Yr ydwyf yn diolch i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a'r ddaear, am i Ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a datguddio y cyfryw i fabanod.
26Ie, O Dad, am mai gwneuthur felly oedd dy ewyllys da.
27Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo.
Y wir orphwysfa.28Deuwch ataf fi, bawb ag ydych yn ymboeni ac yn llwythog, a mi a roddaf i chwi orphwysdra.
29Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon; a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau.
30Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.