1Ac efe a lefarodd dammeg wrthynt i'r dyben fod yn rhaid iddynt weddïo yn wastad ac heb ddigaloni ddyn.
3Ac yr oedd gwraig weddw yn y Ddinas hono; a hi a barhâodd i ddyfod ato ef, gan ddywedyd, Amddiffyn fi drwy ddedfryd rhag fy ngwrthwynebwr.
4Ac efe nid ewyllysiai am amser: ond wedi hyn efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad wyf yn ofni Duw, nac yn parchu dyn,
5o herwydd yn wir fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i hamddiffynaf drwy ddedfryd, rhag iddi ddyfod yn y diwedd a'm taro yn fy ngwyneb.
6A dywedodd yr Arglwydd, Gwrandêwch beth y mae y Barnwr Anghyfiawn yn ei ddywedyd.
7Ac oni effeithia Duw lwyr‐amddiffyniad i'w Etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos: ac eto?
8Yr wyf yn dywedyd i chwi, yr effeithia efe lwyr‐amddiffyniad iddynt ar frys. Yn mhellach, Mab y Dyn pan ddêl, a gaiff efe yn wir y fath:
10Dau wr a aethant i fyny i'r Deml i weddio; un yn Pharisead, a'r llall yn Drethgasglwr a safodd i fyny, ac a barhâodd i weddio y pethau hyn wrtho ei hun, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel pawb eraill o ddynion, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu hefyd fel y Treth‐gasglwr hwn:
12yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn rhoddi degwm o gymaint oll a enillwyf.
13A'r Treth‐gasglwr, gan sefyll o hirbell, ni fynai gymaint a chodi ei olygon tua'r Nef, eithr a barhâodd i guro ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd gymodlawn â mi, y pechadur.
14Yr wyf yn dywedyd i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhâu yn hytrach na'r llall. Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir; eithr yr hwn a ostyngo ei hun a ddyrchefir.
Crist yn bendithio babanod, ac yn dysgu gwers oddiwrthynt.[Mat 19:13–15; Marc 10:13–16]15A hwy a ddygasant ato ef y babanod hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: ond pan welodd y Dysgyblion, hwy a'u ceryddasant.
16Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Gadêwch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo cyfryw rai yw Teyrnas Dduw.
17Yn wir meddaf i chwi, pwy bynag ni dderbynio Deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â i mewn o gwbl iddi.
Y Llywodraethwr Cyfoethog yn amddifad o ffydd[Mat 19:16–30; Marc 10:17–31]18A rhyw Lywodraethwr a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Athraw Da, Pa beth a wnaf.
21Eithr efe a ddywedodd, Y pethau hyn oll a gedwais yn ddyfal o'm hieuenctyd.
22A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd wrtho, Eto y mae un peth yn ddiffygiol ynot: gwerth yr hyn oll sydd genyt, a rhana rhwng tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd: a thyred, canlyn fi.
23Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist iawn: canys yr oedd efe yn gyfoethog ryfeddol.
24A'r Iesu wrth ei weled ef a ddywedodd, Gyd â y fath anhawsder y mae y rhai y mae golud ganddynt yn myned i mewn i Deyrnas Dduw!
25Canys hawddach yw i gamel fyned trwy grai nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw.
26A'r rhai a glywsant a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?
27Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd anmhosibl gyd â dynion sydd bosibl gyd â Duw.
28Eithr Petr a ddywedodd, Wele, ni a adawsom ein heiddo ein hunain, ac a'th ganlynasom di.
29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn Teyrnas Dduw,
30a'r nis derbyn yn ol lawer mwy yn y pryd hwn, ac yn y byd sydd yn dyfod, fywyd tragywyddol.
Crist yn rhag‐ddywedyd ei Farwolaeth a'i Adgyfodiad[Mat 20:17–19; Marc 10:32–34]31Ac efe a gymmerodd y Deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem, a'r holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu trwy y Proffwydi am Fab y Dyn a ddygir i ben.
32Canys efe draddodir i'r Cenedloedd, ac a watwerir, ac a drinir yn warthus, ac a boerir arno;
33a hwy a'i fflangellant, ac a'i lladdant ef; a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.
34A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r peth oedd wedi ei guddio oddi wrthynt, ac ni ddaethant i wybod y pethau a ddywedwyd.
Jericho: Iachâu Bartimeus[Mat 20:29–34; Marc 10:46–52]35A bu, ac efe yn neshâu at Jericho, yr oedd rhyw ddyn dall yn eistedd ar ymyl y ffordd, yn cardota:
36a chan glywed tyrfa yn myned trwodd, efe a ymofynodd beth oedd hyn.
37A hwy a fynegasant iddo, Iesu o Nazareth sydd yn myned heibio.
38Ac efe a waeddodd, gan ddywedyd, Iesu, Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
39A'r rhai oedd yn myned o'r blaen oeddynt yn ei geryddu ef, fel y tawai: ond efe ei hun a lefodd yn fwy o lawer, Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
40A'r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei arwain ef ato: a phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo,,
41Pa beth a fyni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg.
42A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg: y mae dy ffydd wedi dy achub.
43Ac yn y man efe a gafodd ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl pan welsant, a roisant foliant i Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.