1A bu yn fuan ar ol hyn drwy bob dinas a phentref, gan bregethu a mynegi newyddion da Teyrnas Dduw, a'r Deuddeg gyd âg ef;
2a rhai gwragedd oedd wedi eu hiachâu oddiwrth ysprydion drwg a gwendidau: Mair, yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr oedd saith cythraul wedi myned allan,
3a Johanna, gwraig Chuzas, Gweinyddwr Herod, a Susannah, a llawer eraill, y rhai oeddynt yn gweini iddynt lawr ar y graig; ac wedi egino, efe a wywodd allan, am nad oedd iddo leithder.
7A pheth arall a syrthiodd i ganol y drain; a'r drain a gyd‐dyfasant âg ef, ac a'i tagasant.
8A pheth arall a syrthiodd i dir da, ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth gàn cymaint. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Yr hwn sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed.
Y Deongliad[Mat 13:10–23; Marc 4:10–25]9A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, Pa beth a all y ddammeg hon fod?
10Ac efe a ddywedodd, I chwi y mae gwybod dirgelion Teyrnas Dduw wedi ei roddi, eithr i'r gweddill mewn dammegion; fel
Yn gweled na welant,
Ac yn clywed na ddeallant.
11A dyma y ddammeg: Yr hâd ydyw Gair Duw.
12A'r rhai ar hyd y ffordd ydyw y rhai a wrandawsant; yna y mae y Diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y Gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig.
13A'r rhai ar y graig yw y rhai pan glywant ydynt yn derbyn y Gair gyd â llawenydd; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn; y rhai ydynt yn credu am dymhor, ac yn adeg profedigaeth yn cadw draw.
14A'r hyn a syrthiodd i'r drain, y rhai hyn yw y rhai a glywsant, ac fel y maent yn myned yn mlaen, y maent yn cael eu tagu ynghyd gan bryderon, a golud, a phleserau y bywyd hwn, ac nid ydynt yn dwyn dim i addfedrwydd.
15A'r hyn yn y tir da yw y cyfryw, wedi gwrando y Gair, a'i cadwant yn ddyogel mewn calon rinweddol a da, ac a ddygant ffrwyth mewn dyfal‐barhâd amyneddgar.
16Ac nid yw neb, wedi goleu llusern, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei gosod dan wely, ond yn ei gosod ar ddaliadyr, fel y gwelo y rhai sydd yn dyfod i mewn y goleuni.
17Canys nid oes cuddiedig a'r ni wneir yn amlwg, na dirgel yr hwn nis gwybyddir yn hollol, ac ni ddaw i'r amlwg.
18Edrychwch gan hyny pa fodd yr ydych yn gwrando: canys pwy bynag y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, hyd y nod yr hyn a dybia fod ganddo a gymmerir oddiwrtho.
Y rhai ydynt Fam a Brodyr iddo[Mat 12:46–50; Marc 3:31–35]19A daeth ato ei Fam a'i Frodyr: ac nis gallent ddyfod hyd ato o achos y dyrfa.
20A mynegwyd iddo, Y mae dy Fam a'th Frodyr yn sefyll oddiallan, yn ewyllysio dy weled di.
21Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy Mam a'm Brodyr i yw y rhai sydd yn gwrando ac yn gwneuthur Gair Duw.
Yn Gostegu y gwyntoedd a'r Mor[Mat 8:23–27; Marc 4:35–41]22A bu ar un o'r dyddiau, efe ei hun a aeth i mewn i gwch, a'i Ddysgyblion: ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu arall i'r Llyn; a hwy a gychwynasant.
23Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a thymestl o wynt a ddisgynodd i'r Llyn, ac yr oeddynt yn llanw gan ddwfr, ac mewn perygl.
24A hwy a aethant ato, ac a'i deffroisant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu am danom. Ac efe, wedi ei lwyr‐ddeffroi, a geryddodd y gwynt a chynddeiriogrwydd y dwfr: a hwy a beidiasant, a bu tawelwch.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy a ofnasant ac a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy ynte yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwynt ac i'r dwfr, ac y maent yn ufuddhâu iddo.
Y Cythreuliaid a'r genfaint foch[Mat 8:28—9:1; Marc 5:1–20]26A hwy a gyrhaeddasant i wlad y Geraseniaid, yr hon sydd o'r tu arall gyferbyn a Galilea.
27Ac wedi iddo ddyfod allan ar y tir, rhyw wr o'r Ddinas a gyfarfu âg ef, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid, ac am hir amser ni wisgai ei wisg am dano, ac nid arosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
28A phan welodd efe yr Iesu, efe a lefodd allan, ac a syrthiodd i lawr ger ei fron, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn deisyf arnat, Na phoena fi yr oedd wedi ei gipio ymaith; a rhwymid ef â chadwynau ac â llyffetheiriau, gan ei gadw dan wyliadwriaeth; a chan ddryllio yn ddarnau y rhwymau, efe a yrwyd gan y cythraul i'r diffeith‐leoedd.
30A'r Iesu a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Pa beth yw dy enw di? Ac yntau a ddywedodd, Lleng iddynt fyned i'r Llyngclyn Diwaelod.
32Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn ymborthi ar y mynydd, a hwy a ymbiliasant âg ef adael o hono iddynt fyned i mewn i'r rhai hyny. Ac efe a adawodd iddynt.
33A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd i lawr ar hyd y dibyn i'r Llyn, ac a dagwyd.
34A phan welodd y rhai a'u porthent hwy yr hyn oedd wedi dygwydd, hwy a ffoisant, ac a fynegasant yn y Ddinas, ac yn y lleoedd gwledig.
35A daethant allan i weled yr hyn oedd wedi dygwydd. A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o'r hwn yr oedd y cythreuliaid wedi myned allan, yn eistedd wrth draed yr Iesu, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll: a hwy a ofnasant.
36A'r rhai a welsant, a fynegasant iddynt pa fodd yr achubwyd y cythreulig.
37Ar holl luaws o'r wlad o amgylch y Geraseniaid a ofynasant iddo fyned ymaith oddiwrthynt: canys yr oedd ofn mawr wedi eu goddiweddyd. Ac efe ei hun a aeth i mewn i'r cwch, ac a ddychwelodd.
38A'r dyn o'r hwn yr oedd y cythreuliaid wedi myned allan, oedd yn deisyf fel yr oedd yr Iesu yn dychwelyd, y dyrfa a'i croesawasant ef: canys yr oeddynt oll yn ei ddysgwyl ef.
41Ac wele daeth gwr o'r enw Jairus, ac yr oedd efe ei hun yn Lywodraethwr y Synagog; a chan syrthio wrth draed yr Iesu, efe a atolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef:
42oblegyd yr oedd iddo ferch unig‐anedig, ynghylch deuddeg mlwydd oed, ac yr oedd hi yn marw.
Iachâd y wraig a'r diferlif gwaed[Mat 9:20–22; Marc 5:25–34]Ac fel yr oedd efe yn myned, y torfeydd a gyd‐wasgent arno ef.
43A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeg mlynedd, yr hon a dreuliodd yn ychwanegol ei holl fywoliaeth ar feddygon, ac nis gallai gael ei hiachâu gan neb.
44A hi a ddaeth yn mlaen, o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd âg ymyl‐waith ei wisg ef: ac yn y fan y peidiodd diferlif ei gwaed hi.
45A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd a mi? Ac a phawb yn gwadu, dywedodd Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, O Feistr arnat, ac yn dy wasgu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd yn ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddodd hi âg ef, a'r modd yr iachâwyd hi yn y man.
48Ac efe a ddywedodd wrthi, O Ferch, y mae dy ffydd wedi dy achub: dos mewn tangnefedd.
Cyfodiad Merch Jairus o farw[Mat 9:23; Marc 5:35–43]49Ac efe eto yn llefaru, y mae rhywun yn dyfod o dŷ Llywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw: na flina yn mhellach.
50A'r Iesu pan glybu a'i hatebodd ef, Nac ofna: cred yn unig, a hi a fydd iach.
51Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn gyd âg ef, ond Petr, ac Ioan, ac Iago, a thâd y plentyn, a'i mam.
52Ac yr oeddynt oll yn wylo, ac yn cwynfan am dani hi. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: canys ni fu farw, ond huno y mae.
53A hwy a'i dirmygasant ef, gan wybod ei marw hi.
54Ac efe a gydiodd yn ei llaw hi, ac a lefodd, gan ddywedyd, Blentyn, Cyfod.
55A'i hyspryd hi a ddychwelodd, a hi a safodd i fyny yn y man: ac efe a orchymynodd roddi iddi beth i'w fwyta.
56A'i Rhieni hi a ryfeddasant yn ddirfawr: ond efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb yr hyn oedd wedi ei wneuthur.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.