Matthew 17 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Gweddnewidiad neu drawsffurfiad Crist.[Marc 9:2–10; Luc 9:28–36]

1Ac ar ol chwe' diwrnod y cymmerodd yr Iesu gyd ag ef Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel o'r neilldu.

2Ac efe a drawsffurfiwyd ger eu bron hwy; a'i wyneb a ddysglaeriodd fel yr haul, a'i ddillad a aethant cyn wyned â'r goleuni.

3Ac wele, ymddangosodd iddynt Moses ac Elias, yn ymddyddan ag ef.

4A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, mi a wnaf yma dair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias.

5A thra yr oedd efe yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a'u cysgododd hwynt; ac wele lef o'r cwmmwl yn dywedyd,

Hwn yw fy Anwyl Fab,

Yn yr hwn y'm boddlonwyd:

Gwrandewch arno ef.

6A phan glybu y Dysgyblion, hwy a syrthiasant ar eu gwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.

7A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8Ac wedi codi eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.

Dyfodiad Ioan Fedyddiwr.[Marc 9:10–13]

9Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered allan o'r mynydd, yr Iesu a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb hyd oni chyfodir Mab y Dyn oddiwrth y meirw.

10A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hyny, y mae yr Ysgrifenyddion yn dywedyd fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf?

11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Elias yn wir sydd yn dyfod, ac a edfryd bob peth.

12Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi ddyfod o Elias eisoes, ac nid ydynt wedi ei adnabod, ond a wnaethant iddo beth bynag a fynasant; felly y bydd hefyd i Fab y Dyn ddyoddef ganddynt.

13Yna y deallodd y Dysgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.

Gwendid annghrediniaeth; Gwellhad y masglwyfus.[Marc 9:14–29; Luc 9:37–42]

14Ac wedi eu dyfod at y dyrfa, daeth ato ddyn, ac a syrthiodd ar ei liniau iddo,

15ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, canys masglwyfus ydyw, ac y mae yn glaf iawn, canys yn fynych y mae efe yn syrthio i'r tân, ac yn fynych i'r dwfr.

16Ac mi a'i dygais ef at dy Ddysgyblion di, ac ni allent hwy ei iachau ef.

17A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genedlaeth anffyddiog a throfäus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y byddaf ymarhöus wrthych? dygwch ef yma ataf fi.

18A'r Iesu a'i ceryddodd ef, a'r cythraul a aeth allan o hono ef; a'r bachgen a iachawyd o'r awr hono.

19Yna y daeth y Dysgyblion at yr Iesu o'r neilldu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

20Ac efe a ddywed wrthynt, O herwydd eich ychydig ffydd; canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai genych ffydd megys gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddiyma draw, ac efe a symmudai: ac ni fydd dim yn anmhossibl i chwi.

21[Eithr nid ä y rhywogaeth hon allan ond drwy weddi ac ympryd.]

Crist yn rhagddweyd yr ail waith ei farwolaeth.[Marc 9:30–33; Luc 9:43–45]

22Ac fel yr oeddynt yn ymgasglu at eu gilydd yn Nghalilea, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y Dyn i gael ei draddodi i ddwylaw dynion;

23a hwy a'i lladdant ef, a'r trydydd dydd y cyfodir ef. A hwy a aethant yn drist iawn.

Rhyddid plant y Deyrnas.

24Ac wedi dyfod o honynt i Capernäum, y rhai oedd yn derbyn yr hanner‐sicl a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu yr hanner‐sicl?

25Yntau a ddywed, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r ty, yr Iesu a'i rhagflaenodd ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? Breninodd y ddaear, oddiwrth bwy y cymmerant drethi neu deyrnged? oddiwrth eu meibion eu hunain ynte oddiwrth estroniaid?

26A phan ddywedodd efe, Oddiwrth estroniaid, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn sicr felly y mae y meibion yn rhyddion.

27Er hyny, rhag i ni achosi tramgwydd iddynt, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pysgodyn a ddel i fyny yn gyntaf: ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei sicl, hwnw cymmer, a dyro iddynt drosof fi a thithau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help