Titus 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Amryw gyfarwyddiadau i Titus.

1Dwg ar gôf iddynt fod yn ddarostyngedig i lywodraethau, i awdurdodau, i fod yn ufudd, i fod yn barod i bob gweithred dda,

2bod heb gablu neb, i fod yn anymrysongar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn.

3Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn crwydro, yn gwasanaethu amryw chwantau a phleserau, gan dreulio ein bywyd mewn drygioni a chenfigen, yn atgas, yn cashâu ein gilydd.

4Eithr pan ymddangosodd caredigrwydd a chariad Duw ein Hiachawdwr at ddyn,

5nid o weithredoedd mewn cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, ond yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad adenedigaeth ac adnewyddiad yr Yspryd Glân,

6yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn oludog, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr,

7fel, gwedi ein cyfiawnhâu trwy ei ras ef, y'n gwnelid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragywyddol.

8Ffyddlawn yw y gair, ac am y pethau hyn mi a ewyllysiwn i ti lefaru yn groyw, fel y byddo i'r sawl sydd wedi credu i Dduw ofalu bod yn flaenllaw mewn gweithredoedd da: y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.

9Ond gochel gwestiynau ffol, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonnau ynghylch y Gyfraith; canys y maent yn anfuddiol ac ofer.

10Gwrthod ddyn a fyddo heretic wedi un ac ail rybudd,

11gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyr‐droi ac yn pechu, ac yn hunan‐gondemniedig.

12Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod attaf i Nicopolis; canys yno yr wyf wedi penderfynnu gauafu.

13Gyda gofal anfon ym mlaen Zenas y Cyfreithiwr, ac Apollos ar eu taith, fel na byddo arnynt eisieu dim.

14A dysged yr eiddom ni hefyd flaenori mewn gweithredoedd da er yr eisieu angenrheidiol, fel na byddont yn ddiffrwyth.

15Y mae yr holl rai sydd gyda mi yn dy gyfarch. Cyfarch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help