1Canys yn wir am y weinidogaeth i'r saint, afraid yw i mi ysgrifennu attoch;
2canys gwn eich parodrwydd, am yr hwn yr wyf yn ymffrostio drosoch chwi wrth y Macedoniaid, fod Achaia wedi ymbarottoi er y llynedd; a'ch sêl chwi a symbylodd y rhan fwyaf o honynt.
3Eithr mi a ddanfonais y brodyr, fel na wneler ein hymffrost ni, yr hwn sydd ar eich rhan chwi, yn ofer yn y mater hwn, sef, fel y dywedais, y byddoch wedi ymbarottoi;
4rhag mewn un modd, os daw Macedoniaid gyda mi, a'ch cael yn ammharod, bod i ni — ni ddywedwn, chwi — gael ein cywilyddio yn yr hyder hwn.
5Mi a feddyliais gan hynny yn angenrheidiol attolygu i'r brodyr fyned o honynt o'r blaen attoch, a rhag‐ddarparu eich caredigrwydd a rag‐addawyd, fel y byddo y cyfryw yn barod, fel mater o garedigrwydd, ac nid o gybydd‐dra.
6Ond hyn ystyriwch
:Yr hwn sydd yn hau yn brin a fêd hefyd yn brin.
A'r hwn sydd yn hau yn hael, yn hael hefyd y mêd.
7 Gwneled pob un, fel y mae wedi rhag‐arfaethu yn ei galon, nid o dristwch neu o orfodaeth: canys y mae Duw yn caru rhoddwr llawen.
8Ac y mae Duw yn alluog i beri i bob gras fod yn helaeth tuag attoch; fel y byddoch chwi, a chennych ym mhob peth bob amser bob hunan‐ddigonedd, yn ymhelaethu i bob gwaith da;
9fel y mae yn ysgrifenedig,
Gwasgarodd, rhoddodd i'r tlodion;
Ei gyfiawnder sydd yn aros yn dragywydd.
10A'r hwn sydd yn cyflenwi hâd i'r hauwr a bara yn yma borth, a gyflenwa ac a amlha eich hâd, ac a gynnydd-ffrwythau eich cyfiawnder;
11gan gael eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw;
12canys y mae gweinyddiad y gwasanaeth hwn, nid yn unig yn llanw i fyny ddiffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw;
13gan eu bod, trwy y prawf o'r weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw am ufudd‐dod eich cyffes i efengyl Crist, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb;
14tra y maent hwythau eu hunain hefyd, gyda gweddi ar eich rhan, yn hiraethu am danoch chwi, o herwydd tra‐ragorol ras Duw, yr hwn sydd ynoch chwi.
15Diolch i Dduw am ei rodd annesgrifiadwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.