1Ac efe a aeth i fewn i gwch, ac a aeth drosodd, ac a ddaeth i'w Ddinas ei hun.
2Ac wele, hwy a ddygasant ato un parlysig, yn gorwedd ar wely; a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy a ddywedodd wrth y parlysig, Ymwrola, fab, maddeuir dy bechodau.
3Ac wele, rhai o'r Ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.
4A'r Iesu yn canfod eu meddyliau, a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonau?
5Canys pa un hawddach ai dywedyd, Maddeuir dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?
6Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywed efe wrth y parlysig), Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ.
7Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun.
8A'r torfeydd pan welsant a ofnasant, a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roddasai y fath awdurdod i ddynion.
Galwad Mathew a'r wledd yn ei dy.[Marc 2:13–17; Luc 5:27–32]9Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned heibio oddiyno, efe a ganfu ddyn yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew, ac a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef.
10A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele, Treth‐gasglwyr lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion.
11A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Paham y bwyty eich Athraw chwi gyda'r Treth‐gasglwyr a'r pechaduriaid?
12A phan glybu, efe a ddywedodd, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.
13Ond ewch a dysgwch pa beth yw hyn,
“Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth”
Canys ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.Hen arferiad a'r egwyddor newydd.[Marc 2:18–22; Luc 5:33–39]
14Yna y mae Dysgyblion Ioan yn dyfod ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio?
15A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas alaru tra byddo y Priodfab gyda hwynt? Ond y dyddiau a ddeuant pan ddygir y Priodfab oddiarnynt, ac yna yr ymprydiant.
16Ac ni ddyd neb lain o frethyn annhriniedig ar hen ddilledyn, canys yr hyn a leinw a dyn oddiwrth y dilledyn, a'r rhwyg a fydd waeth.
17Ac ni ddodant win newydd mewn hen win grwyn; os amgen, y crwyn a rwygir, a'r gwin a red allan, a'r crwyn a gollir; eithr gwin newydd a ddodant mewn gwin‐grwyn newyddion, a chedwir y ddau.
Cyfodiad Merch Jairus ac iachâd y gwaedlif.[Marc 5:20–43; Luc 8:40–56]18Tra yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn wrthynt, wele, daeth rhyw Lywodraethwr ac a'i haddolodd ef, ac a ddywedodd, Bu farw fy merch yr awrhon; eithr tyred a gosod dy law arni, a hi a fydd byw.
19A'r Iesu a gyfododd, ac a'i canlynodd ef, a'i Ddysgyblion.
20Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd âg ymyl ei wisg ef:
21canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.
22A'r Iesu a drodd, ac a'i gwelodd hi, ac a ddywedodd, Ferch, ymgalonoga: y mae dy ffydd wedi dy iachau; a'r wraig a iachawyd o'r awr hono.
23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ y Llywodraethwr, a gweled y cerddorion a'r dyrfa yn terfysgu,
24efe a ddywedodd, Ciliwch, canys ni fu farw y llances, ond cysgu y mae. A hwy a'i gwatwarasant ef.
25Ond wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i fewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a'r llances a gyfododd.
26A'r hanes hwn a aeth dros yr holl wlad hono.
Iachâd dau ddeillion.27Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned heibio oddiyno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Fab Dafydd, trugarha wrthym.
28Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant ato; ac y mae yr Iesu yn dywedyd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Dywedant hwythau wrtho, Ydym, Arglwydd.
29Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwynt, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi.
30A'u llygaid a agorwyd. A'r Iesu a orchymynodd iddynt yn bendant gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.
31Ond wedi iddynt ymado, hwy a daenasant ei glod drwy yr holl wlad hono.
Adferu y mudan cythreulig.32Ac â hwy yn myned allan, wele, hwy a ddygasant ato ddyn mud, wedi ei feddiannu gan gythraul.
33Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan; a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni ymddangosodd y cyffelyb erioed yn Israel.
34Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy Dywysog y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan y cythreuliaid.
Y cynauaf a'r gweithwyr.[Marc 6:6–11; Luc 9:1–9]35A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r pentrefi, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd.
36Ond pan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd o'u herwydd, am eu bod wedi eu trallodi, a'u taflu ar wasgar, fel defaid heb fugail.
37Yna y dywed efe wrth ei Ddysgyblion, Y cynauaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml.
38Am hyny, atolygwch i Arglwydd y cynauaf anfon gweithwyr i'w gynauaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.