Rhufeiniaid 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Cyfarchiad.

1Paul, gwas Crist Iesu, wedi ei alw i fod yn apostol, wedi ei neillduo i efengyl Duw —

2yr hon a rag‐addawodd Efe trwy ei brophwydi yn yr Ysgrythyrau sanctaidd —

3am ei Fab, yr hwn a aned o hâd Dafydd yn ol y cnawd,

4yr hwn a ddynodwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ol yspryd sancteiddrwydd, trwy Adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd,

5trwy yr hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd‐dod ffydd ym mhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef:

6ym mhlith y rhai yr ydych chwithau hefyd yn alwedigion Iesu Grist:

7At bawb o rai anwyl Duw yn Rhufain, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.

Dyddordeb Paul yn y Credinwyr yn Rhufain.

8Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i'm Duw trwy Iesu Grist am danoch chwi oll, oblegyd fod eich ffydd yn cael ei chyhoeddi yn yr holl fyd.

9Canys fy nhyst yw Duw, yr hwn wyf yn ei wasanaethu yn fy yspryd yn efengyl ei Fab ef, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch bob amser yn fy ngweddiau,

10yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwydd‐hynt, yn ewyllys Duw, i ddyfod attoch chwi.

11Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysprydol, fel y'ch cadarnhâer;

12hynny yw, fel y'n calonoger ynghyd ynoch chwi, trwy y ffydd sydd yn y naill a'r llall, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau.

13Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod attoch (ond lluddiwyd fi hyd yn hyn), fel y cawn ryw ffrwyth hefyd ynoch chwithau, megys ag yn y Cenhedloedd eraill.

14Dyledwr ydwyf i Roegiaid ac i Farbariaid hefyd, i ddoethion ac i rai anneallus hefyd.

15Felly, o'm rhan i, awyddus wyf i efengylu i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.

Gallu ac Egwyddor yr Efengyl.

16Canys nid oes arnaf gywilydd o'r efengyl, oblegyd gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu; i Iuddew yn gyntaf, hefyd i Roegwr.

17Canys ynddi cyfiawnder Duw a ddadguddir, o ffydd i ffydd, fel y mae yn ysgrifenedig, Ond y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

Sefyllfa Bechadurus y Cenhedloedd.

18Canys dadguddir digofaint Duw, o'r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac annghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd mewn annghyfiawnder.

19Canys yr hyn sydd wybyddus am Dduw sydd hyspys yn eu plith, canys Duw a'i hyspysodd iddynt.

20Canys ei anweledig bethau ef, o greadigaeth y byd, a welir yn amlwg, gan gael eu canfod trwy y pethau a wnaed, sef ei fythol allu a'i Ddwyfoldeb; fel y maent hwy yn ddiesgus.

21Oblegyd, a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac ni roddasant ddiolch; eithr hwy a wnaed yn ofer yn eu hymresymiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus.

22Gan honni eu bod yn ddoethion, hwy a wnaed yn ynfydion;

23ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw am gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar‐carnol, ac ymlusgiaid.

24O ba herwydd Duw a'u traddododd hwynt, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, fel yr ammherchid eu cyrph yn eu plith:

25yn gyfryw ag a drawsnewidiasant wirionedd Duw yn y Celwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn hytrach na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen.

26O herwydd hyn traddododd Duw hwynt i wyniau gwarthus; eu benywod hefyd a drawsnewidiasant yr arfer naturiol i'r hon sydd yn groes i natur:

27ac yn gyffelyb y gwrrywod hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r fenyw, a fflamiasant i fyny yn eu chwant un am y llall, gwrrywod ynghyd â gwrrywod yn gweithredu yr anweddeidd‐dra, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd ddyledus.

28Ac fel na fu gymmeradwy ganddynt gael Duw yn eu gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl annghymeradwy i wneuthur pethau anweddus:

29wedi eu llenwi a phob annghyfiawnder,, anfadrwydd, trachwant, drygioni, yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drygduedd; yn hustyngwyr,

30yn athrodwyr, yn gashawyr Duw, yn sarhaus, yn feilchion, yn ymffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufudd i rieni,

31yn anneallus, yn dorwyr ammod, yn ddiserch, Duw, fod y rhai sydd yn arfer y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn arfer y cyfryw, eithr hefyd yn cydsynio â'r rhai sydd yn eu harfer hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help