1Pan wybu yr Arglwydd gan hyny glywed o'r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddysgyblion nag Ioan,
2(ac eto yr Iesu ei hun ni fedyddiasai, ond ei Ddysgyblion a wnaethent),
3efe a adawodd Judea, ac a aeth ymaith drachefn i Galilea.
4Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned drwy Samaria.
5Y mae efe yn dyfod gan hyny i ddinas yn Samaria, a elwir Sychar, ger llaw y darn o dir a roddodd Jacob i Joseph ei fab.
6Ac yno yr oedd ffynon Jacob. Yr Iesu gan hyny, wedi diffygio gan y daith, a eisteddodd fel yr oedd wrth y ffynon: ynghylch y chweched awr oedd hi.
7Y mae yn dyfod wraig o Samaria i dynu dwfr. Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Dyro i mi i yfed.
8Canys ei Ddysgyblion ef oeddynt wedi myned ymaith i'r Ddinas i brynu bwyd.
9Gan hyny y dywed y wraig, y Samariad, wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iuddew, yn ceisio genyf fi beth i yfed, a myfi yn wraig o Samaria? Oblegyd nid yw Iuddewon yn ymgyfeillachu â Samariaid.
10Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenasit ti rodd Duw, a phwy yw yr hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.
11Y wraig a ddywed wrtho, Syr, nid oes genyt lestr i dynu dwfr, a'r ffynon sydd ddofn: o ba le gan hyny y mae i ti y dwfr bywiol?
12Ai mwy wyt ti na'n Tâd Jacob, yr hwn a roddodd i ni y ffynon, ac efe ei hun a yfodd o honi, a'i feibion, a'i anifeiliaid?
13Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pob un ag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:
14ond pwy bynag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn sicr yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo a ddaw ynddo yn ffynon o ddwfr yn tarddu i fyny i fywyd tragywyddol.
Gwir addoliad.15Y mae y wraig yn dywedyd wrtho, Syr, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yr holl ffordd yma i dynu dwfr.
16Dywed yr Iesu wrthi, Dos ymaith, galw dy wr, a thyred yma.
17Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes genyf wr. Dywed yr Iesu wrthi, Da y dywedaist, Nid oes genyf wr:
18canys pump o wŷr a fu i ti; a'r hwn sydd genyt yr awrhon, nid yw wr i ti: hyn wyt wedi ei ddywedyd yn wirionedd.
19Dywed y wraig wrtho, Syr, yr wyf yn canfod mai proffwyd wyt ti.
20Ein Tadau a addolasant yn y Mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerusalem y mae y man lle y mae yn rhaid addoli.
21Dywed yr Iesu wrthi, Cred fi, O wraig, Y mae awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tâd, nac yn y Mynydd hwn nac yn Jerusalem.
22Chwychwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch: ninau ydym yn addoli y peth a wyddom; canys yr Iachawdwriaeth sydd o'r Iuddewon.
23Ond y mae awr yn dyfod, ac yn awr y mae hi, pan yr addolo yr addolwyr gwirioneddol y Tâd mewn yspryd a gwirionedd: canys y mae y Tâd yn wir yn ceisio y cyfryw fel ei addolwyr ef.
24Yspryd yw Duw: a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef addoli mewn yspryd a gwirionedd.
Crist yn cyfaddef ei Fessiayddiaeth.25Dywed y wraig wrtho, Mi a wn fod y Messia yn dyfod (yr hwn a elwir Crist): pan ddelo hwnw, efe a hysbysa i ni bob peth.
26Dywed yr Iesu wrthi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw efe.
27Ac ar hyn y daeth ei Ddysgyblion ef; ac yr oeddynt yn rhyfeddu ei fod ef yn ymddiddan â gwraig; ac eto ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
28Gan hyny y wraig a adawodd ei dwfr-lestr, ac a aeth ymaith i'r Ddinas, ac y mae yn dywedyd wrth y dynion,
29Deuwch, gwelwch ddyn, yr hwn a ddywedodd i mi yr oll, pa bethau bynag a wnaethum. A all hwn fod y Crist?
30A hwy a aethant allan o'r Ddinas, ac yr oeddynt yn dyfod ato ef.
Bwyd Crist a gwaith y Dysgyblion.31Yn y cyfamser yr oedd ei Ddysgyblion yn ceisio ganddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.
32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae genyf fi fwyd i'w fwyta nad ydych chwi yn ei adnabod.
33Am hyny yr oedd y Dysgyblion yn dywedyd wrth eu gilydd, A ddygodd neb iddo beth i'w fwyta?
34Dywed yr Iesu wrthynt, Fy mwyd i yw fel y gwnelwyf ewyllys yr hwn a'm danfonodd, a gorphen ei waith ef.
35Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac y mae y Cynhauaf yn dyfod? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, a syllwch ar y meusydd eu bod yn wynion i'r Cynhauaf.
36Yn barod y mae yr hwn sydd yn medi yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragywyddol; fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, a'r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd.
37Canys yn hyn y mae y dywediad yn wir, Arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi.
38Myfi a'ch danfonais chwi i fedi yr hyn nid ydych wedi llafurio arno: eraill sydd wedi llafurio, a chwychwi sydd wedi myned i mewn i'w llafur hwynt.
Ffydd y Samariaid.39Ac o'r Ddinas hono llawer o'r Samariaid a gredasant ynddo o yherwydd gair y wraig, yr hon a dystiolaethodd, Efe a ddywedodd i mi yr holl bethau a wnaethum.
40Gan hyny pan ddaeth y Samariaid ato ef, yr oeddynt yn atolygu iddo aros gyd â hwynt: ac efe a arosodd yno ddeuddydd.
41A mwy o lawer a gredasant o herwydd ei air ei hun:
42a dywedasant wrth y wraig, Hwyach nid ydym yn credu o herwydd dy ymddiddan di; canys yr ydym ni ein hunain wedi ei glywed ef, ac yr ydym yn gwybod mai
Hwn yn wir yw IACHAWDWR Y BYD.
Iachâd mab y swyddog breninol.43Ac ar ol y ddeuddydd, efe a aeth allan oddi yno i Galilea.
44Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, Nid yw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei dâd‐wlad ei hun bethau bynag a wnaeth efe yn Jerusalem ar yr Wyl: canys hwythau hefyd a ddaethant i'r Wyl.
46Efe a ddaeth gan hyny drachefn i'r Cana yn Galilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog breninol, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yn Capernaum.
47Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Judea i Galilea, efe a aeth ymaith ato ef, ac yr oedd yn atolygu iddo ddyfod i waered, a iachâu ei fab ef: canys yr oedd efe yn mron marw.
48Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrtho, Oni welwch arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch o gwbl.
49Dywed y swyddog breninol wrtho, Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy mhlentyn bychan.
50Dywed yr Iesu wrtho, Dos dy ffordd: Y mae dy fab yn fyw. Y gwr a gredodd y gair yr hwn a ddywedodd yr Iesu wrtho, ac a aeth i'w ffordd.
51Ac fel yr oedd efe weithian yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant âg ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd fod ei blentyn yn fyw.
52Efe gan hyny a ymofynodd â hwynt yr awr yn yr hon y cafodd dro er gwell. Hwythau gan hyny a ddywedasant wrtho, Doe, yn ystod y seithfed awr, y gadawodd y dwymyn ef.
53Yna y gwybu y tâd mai yn yr awr hono yn yr hon y dywedodd yr Iesu wrtho, Y mae dy fab yn fyw: ac efe ei hun a gredodd, a'i holl deulu.
54A hwn drachefn, yr ail arwydd, a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Judea i Galilea.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.