2 Corinthiaid 8 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cymhorth i'r tlodion: haeledd Macedonia.

1Yr ydym ni hefyd yn hyspysu i chwi, frodyr, ras Duw yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia,

2ddarfod mewn mawr brofiad gorthrymder, i orlawnder eu llawenydd hwy a'u tlodi dwfn orlifo i gyfoeth eu haelioni,

5a hyn, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw;

6mewn canlyniad, cymhellasom Titus, megys y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orphen o hono ynoch chwi y gras hwn hefyd.

7Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob llwyrfrydedd, ac yn eich cariad tuag attom ni, gofelwch ar fod o honoch yn helaeth yn y gras hwn hefyd.

8Nid mewn ffordd o orchymyn yr wyf yn dywedyd, eithr gan ddwyn i brawf, trwy lwyrfrydedd eraill, wiredd eich cariad chwi.

9(Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac efe yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, nid yn unig i wneuthur ond hefyd i ewyllysio.

11Ond yn awr, gorphennwch y gwneuthur hefyd, fel, megys ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly hefyd y byddo y cyflawniad, yn ol eich gallu.

12Canys os yw y parodrwydd yn bresennol, y mae y rhodd yn gymmeradwy, yn ol yr hyn sydd gan ddyn, nid yn ol yr hyn nid oes ganddo;

13canys nid fel y byddo hyn i fod er ysgafnder i eraill a gorthrymder i chwi; eithr yn ol cyfartalrwydd;

14y pryd hwn eich helaethrwydd chwi ar gyfer eu hangen hwy, fel y delo eu helaethrwydd hwythau ar gyfer eich hangen chwi, fel y byddo cyfartalrwydd;

15fel y mae yn ysgrifenedig,

Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo dros ben;

a'r hwn a gasglodd ychydig, nid oedd ganddo lai.

16Eithr i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi yr un llwyrfrydedd calon ar eich rhan yng nghalon Titus;

17canys yn wir, efe a dderbyniodd ein hannogaeth; ond gan ei fod o'r dechreu yn eiddgar, o'i ddewisiad ei hun efe a aeth allan attoch chwi.

18A danfonasom gydag ef y brawd yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy yr holl eglwysi;

19ond nid hynny yn unig, ond hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gyd‐ymdaith a ni yn y gras hwn, yr hwn a weinyddir gennym i ogoniant yr Arglwydd, ac i ddangos ein parodrwydd ni;

20gan drefnu hyn, na fydd i neb feio arnom yn achos y llawndid hwn a weinyddir gennym;

21oblegyd yr ydym yn rhag‐ddarpar pethau anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion.

22A danfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau lawer gwaith, ei fod yn eiddgar, ond yn awr yn llawer mwy eiddgar, o herwydd ei ymddiried mawr ynoch chwi.

23Os am Titus y gofynnir, efe yw fy nghydymaith a'm cyd‐weithiwr tuag attoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, gogoniant Crist.

24Dangoswch iddynt hwy gan hynny amlygiad o'ch cariad, ac o'n hymffrost ninnau ar eich rhan yn wyneb yr eglwysi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help