1A phan yr agosasant i Jerusalem, ac y daethant i Bethphage, i fynydd yr Olew‐wydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau Ddysgybl,
2gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn ebrwydd chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt a dygwch ataf fi.
3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd eu heisieu: ac yn ebrwydd efe a'u denfyn hwynt.
4A hyn a ddygwyddodd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwyd, gan ddywedyd,
5Dywedwch i Ferch Seion,
Wele dy Frenin yn dyfod i ti,
Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen,
Ac ar ebol, llwdn anifail dan yr iau.
6Y Dysgyblion a aethant ac a wnaethant fel y gorchymynodd yr Iesu iddynt;
7a hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a osodant arnynt y dillad, ac efe a eisteddodd arnynt.
8A'r rhan fwyaf o'r dyrfa a daenasant eu dillad ar y ffordd; ac ereill a dorasant gangau o'r coed, ac a'u taenasant ar y ffordd.
9A'r torfeydd, y rhai oeddynt yn myned o'i flaen, a'r rhai oeddynt yn canlyn, oeddynt yn llefain, gan ddywedyd,
Hosanna i Fab Dafydd,
Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd,
Hosanna yn y goruchafion.
10A phan ddaeth efe i Jerusalem, yr holl ddinas a ysgydwyd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn?
11A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw y proffwyd Iesu, o Nazareth yn Galilea.
Glanhau Ty Dduw.[Marc 11:15–19; Luc 19:45, 46]12A'r Iesu a aeth i fewn i'r Deml, ac a daflodd allan bawb a'r a oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, a byrddau y cyfnewidwyr arian efe a ddymchwelodd, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu y colomenod.
13Ac efe a ddywed wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig,
Fy nhŷ I, Tŷ Gweddi y gelwir ef.
Eithr chwi ydych yn ei wneuthur yn ogof yspeilwyr.
14A'r deillion a'r cloffion a ddaethant ato yn y Deml, ac efe a'u hiachaodd hwynt.
15A phan welodd yr Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant ag oeddynt yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i Fab Dafydd, hwy a sorasant,
16ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywed wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed,
O enau babanod a rhai sydd yn sugno y perffeithiaist foliant?
17Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r Ddinas i Bethania, ac a lettyodd yno.
“Ddim ond dail.”[Marc 11:19–24]18Ac yn foreu, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r Ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.
19A phan welodd efe un ffigysbren ar ymyl y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac efe a ddywed wrtho, Na fydded ffrwyth o honot byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
20A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren!
21A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Os oes genych ffydd, ac heb betruso, ni wnewch yn unig yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i'r môr; a hyny a fydd.
22A pha beth bynag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.
Ffynnonell awdurdod Crist.[Marc 11:27–33; Luc 20:1–8]23Ac wedi iddo ddyfod i'r Deml, yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant ato, ac efe yn dysgu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon?
24A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minau hefyd a fynegaf i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn:
25Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? O'r Nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?
26Eithr os dywedwn, O ddynion, y mae arnom ofn y dyrfa, canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan fel proffwyd.
27A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Dammeg y ddau fab.28Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, O Fab, dos, gweithia heddyw yn y winllan.
29Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Nid âf; ond wedi hyny yr oedd yn ddrwg ganddo, ac a aeth.
30Ac efe a aeth at yr ail, ac a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Mi a âf, Arglwydd; ac nid aeth efe.
31Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi yr ä y Trethgasglwyr a'r puteiniaid i Deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
32Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y Treth‐gasglwyr a'r puteiniaid a'i credasant ef; a chwithau, pan welsoch hyn, ni fu hyd y nod ddrwg genych ar ol hyny, fel y credech ef.
Dammeg y gwinllanwyr drygionus.[Marc 12:1–12; Luc 20:9–19]33Gwrandewch ddammeg arall: Yr oedd gwr, perchenog tŷ, yr hwn a blanodd winllan, ac a osododd glawdd o'i hamgylch hi, ac a gloddiodd ynddi win‐wasg, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth i wlad arall.
34A phan neshaodd tymhor y ffwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau.
35A'r llafurwyr a gymmerasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36Trachefn, efe a anfonodd weision ereill, fwy nâ'r rhai cyntaf, a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.
37Ac yn ddiweddaf, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab.
38Eithr pan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a chymmerwn ei etifeddiaeth ef.
39Ac wedi iddynt ei gymmeryd, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.
40Am hyny, pan ddel arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hyny?
41Hwy a ddywedant wrtho, Rai drwg, yn llwyr y dyfetha efe hwynt, ac a esyd y winllan allan i lafurwyr ereill, y cyfryw a dalant iddo y ffrwythau yn eu tymhorau.
42A'r Iesu a ddywed wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythyrau,
Maen a wrthododd yr adeiladwyr,
Hwn a wnaethpwyd yn ben congl;
Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn,
A rhyfedd yw yn ein golwg ni.
43Am hyny, meddaf i chwi, dygir Teyrnas Dduw oddiarnoch chwi, a rhoddir hi i genedl a ddygo ei ffrwythau hi.
44A'r yn ddarnau; eithr ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwal fel llwch21:44 Mae yr adn. yn א B C Z Brnd. ond Ti.; Gad D. Ti. Gwel Luc 20:18..
45A phan glybu yr Archoffeiriaid a'r Phariseaid ei ddammegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe.
46A hwy yn ceisio ei ddal, hwy a ofnasant y torfeydd, gan eu bod yn ei gymmeryd ef yn broffwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.