Galatiaid 4 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Meibion i Dduw trwy ffydd yn unig.

1Ond yr wyf yn dywedyd, am gymmaint o amser ag y mae yr etifedd yn blentyn, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl;

2eithr y mae efe dan warcheidwaid a goruchwylwyr hyd amser pennodedig y tâd.

3Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, a gedwid dan wyddorion y byd.

4Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, Duw a ddanfonodd allan ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan ddeddf,

5fel y prynnai y rhai oeddent dan ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.

6Ac o herwydd eich bod yn feibion, Duw a anfonodd allan Yspryd ei Fab i'n calonnau ni, yn llefain, Abba, Dâd.

7Felly nid wyt mwyach yn gaethwas, eithr yn fab; ac os mab, yna etifedd trwy Dduw.

Eu dychweliad i gaethiwed.

8Eithr yn wir y pryd hwnnw, ac heb adnabod Duw, yr oeddech mewn caeth‐wasanaeth i'r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau:

9ond yn awr, a chwi wedi dyfod i adnabod Duw, neu, yn hytrach, yn cael eich adnabod gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol drachefn at y wyddorion gwan a thlodion, i'r rhai yr ydych yn dymuno drachefn o'r newydd bod mewn caeth‐wasanaeth?

10Yr ydych yn cadw yn fanwl ddyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd.

11Mae arnaf ofn am danoch, rhag mewn un modd, fy mod wedi llafurio yn ofer mewn perthynas i chwi.

Eu serch blaenorol tuag atto, a'i bryder am eu llwyddiant.

12Dymunaf arnoch, frodyr, byddwch fel myfi; canys yr wyf fi fel chwi. Mewn dim ni wnaethoch gam â mi;

13eithr gwyddoch mai o herwydd gwendid y cnawd y pregethais yr efengyl i chwi y tro cyntaf;

14a'ch profedigaeth chwi yn fy nghnawd ni ddiystyrasoch, ac ni wrthodasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megys angel Duw, megys Crist Iesu.

15Pa le gan hynny y mae eich dedwyddiad ac a'u rhoisech i mi.

16Felly a wyf wedi myned yn elyn i chwi, wrth ddywedyd y gwir i chwi?

17Y maent yn eich ceisio yn selog, ond nid yn onest; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y byddo i chwi eu ceisio hwy yn selog.

18Eithr da yw cael ein ceisio yn selog mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi,

19fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn esgor arnoch drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch.

20Ewyllysiwn fod yn bresennol yn awr gyda chwi a newid fy llais, canys yr wyf mewn dyryswch yn eich cylch.

Ismael ac Isaac.

21Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan ddeddf, ai ni wrandewch ar y ddeddf?

22Canys y mae yn ysgrifenedig fod gan Abraham ddau fab, un o'r wasanaeth‐ferch, ac un o'r wraig rydd.

23Eithr yr hwn o'r wasanaeth‐ferch a aned yn ol y cnawd, a'r hwn o'r wraig rydd trwy addewid.

24Yr hyn bethau ydynt ffugyrol; canys y gwragedd hyn ydynt ddau gyfammod: un o fynydd Sinai, yn dwyn plant i gaethiwed, yr hon yw Hagar.

25A'r Hagar hon yw mynydd Sinai yn Arabia, ac y mae yn cyfatteb i'r Jerusalem sydd yn awr, canys y mae mewn caethiwed gyda'i phlant.

26Ond y Jerusalem uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni.

27Canys ysgrifenedig yw:—

Llawenycha, y diffrwyth, yr hon nid wyt yn dwyn plant; Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae ganddi wr.

28A chwychwi, frodyr, megys Isaac, ydych blant addewid.

29Eithr megys y pryd hwnnw, yr hwn a aned yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a aned yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr.

30Eithr pa beth a ddywed yr Ysgrythyr? Bwrw allan y wasanaeth‐ferch a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaeth‐ferch etifeddu gyda mab y wraig rydd.

31Felly, frodyr, nid plant y wasanaeth‐ferch ydym, ond y wraig rydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help