1-2Dechreu Efengyl Iesu Grist, Fab Duw: fel y mae yn ysgrifenedig yn Esaiah y Proffwyd, —
Wele, yr wyf yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb,
Yr hwn a barotöa dy ffordd.
3Llef un yn llefain, —
Yn y diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd:
Gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.
4Daeth Ioan Fedyddiwr yn y diffaethwch, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.
5Ac aeth allan ato ef holl wlad Judea, a hwy oll o Jerusalem; a hwy a fedyddiwyd ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
6Ac Ioan oedd wedi ei wisgo a blew camel, a gwregys o groen o gylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
7Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ol i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf deilwng i ymostwng a'i dattod.
8Myfi a'ch bedyddiais chwi mewn dwfr; eithr efe a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân.
Bedyddiad Crist[Mat 3:13–17; Luc 3:21, 22; Ioan 1:31–34]9A bu yn y dyddiau hyny, ddyfod o'r Iesu o Nazareth yn Galilea, ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.
10Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny allan o'r dwfr, efe a welodd y Nefoedd wedi ei rhwygo, a'r Yspryd fel colomen yn disgyn tu ag ato ef.
11A llef a ddaeth o'r Nefoedd, Tydi yw fy anwyl Fab, ynot ti y'm boddlonwyd.
Y Temtiad[Mat 4:1–11; Luc 4:1–13]12Ac yn ebrwydd y mae yr Yspryd yn ei yru ef allan i'r Diffaethwch:
13Ac efe a fu yn y Diffaethwch ddeugain niwrnod yn cael ei demtio gan Satan; ac yr oedd efe gyda y gwylltfilod; a'r Angelion a weiniasent iddo.
Dechreuad ei Weinidogaeth: Galw ei Ddysgyblion[Mat 4:12–22; Luc 4:14, 15; 5:10, 11]14Ac ar ol traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu Efengyl Duw,
15a dywedyd, Y mae yr amser wedi ei gyflawnu, ac y mae Teyrnas Dduw wedi neshâu: Edifarhewch, a chredwch yr Efengyl.
16Ac wrth fyned heibio ar làn Môr Galilea, efe a welodd Simon, ac Andreas brawd Simon, yn bwrw rhwyd yn y môr: canys pysgodwyr oeddynt.
17A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf i fod yn bysgodwyr dynion.
18Ac yn ebrwydd gan adael y rhwydau, y canlynasant ef.
19Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig, efe a welodd Iago, Mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y cwch yn cyweirio y rhwydau.
20Ac yn ebrwydd efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tâd Zebedëus yn y cwch gyda'r cyflog‐weision, ac a aethant ar ei ol ef.
Yn y Synagog: yn iachau dyn ag yspryd aflan ynddo[Luc 4:31–37]21Ac y maent yn myned i mewn i Capernäum: ac yn ebrwydd ar y Sabbath efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ddysgodd.
22A hwy a darawyd a syndod wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr Ysgrifenyddion.
23Ac yn ebrwydd yr oedd yn eu Synagog ddyn gyd ag yspryd aflan; ac efe a lefodd,
24gan ddywedyd, Beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? A ddaethost ti i'n dyfetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.
25A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan o hono.
26Yna wedi i'r yspryd aflan ei daflu i bangfeydd, a gwaeddi a llef uchel, efe a ddaeth allan o hono.
27A hwy a synasant oll, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, Pa beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd! gyd ag awdurdod y mae efe yn gorchymyn hyd y nod yr ysprydion aflan, a hwy a ufuddhant iddo.
28Ac yn ebrwydd yr aeth allan sôn am dano yn mhob man dros yr holl wlad o amgylch Galilea.
Iachau chwegr Simon[Mat 8:14, 15; Luc 4:38, 39]29Ac yn ebrwydd wedi iddynt ddyfod allan o'r Synagog hwy a ddaethant i dy Simon ac Andreas gyd ag Iago ac Ioan.
30Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o dwymyn; ac yn ebrwydd y dywedesant wrtho am dani hi.
31Ac efe a ddaeth ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi; a'r dwymyn a'i gadawodd, a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
Iachau Amryw Eraill.32Ac wedi iddi hwyrhâu, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato ef yr holl gleifion, a'r rhai a feddianid gan gythreuliaid.
33A'r holl Ddinas oedd wedi ymgasglu at eu gilydd wrth y drws.
34Ac efe a iachaodd lawer oeddynt gleifion o amrywiol glefydau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni chaniataodd i'r cythreuliaid lefaru, oblegyd yr oeddynt yn ei adwaen ef.
35Ac yn fore, yn hir cyn iddi wawrio, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le annghyfanedd, ac yno yr oedd efe yn gweddio.
36A Simon, a'r rhai oedd gyd ag ef a ddylynasant yn ddyfal ar ei ol ef,
37ac a'i cawsant ef, ac a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio.
38Ac efe a ddywed wrthynt, Awn i leoedd eraill, i'r trefi cymydogaethol, fel y pregethwyf yno hefyd: canys i hyny y daethum allan.
39Ac efe a aeth i'w Synagogau hwynt, trwy holl Galilea, gan bregethu a bwrw allan gythreuliaid.
Iachau y Gwahan‐glwyfus[Mat 8:2–4; Luc 5:12–15]40Ac y mae yn dyfod ato un gwahan‐glwyfus, gan ymbil ag ef,, a dywedyd wrtho, Os myni, ti a elli fy nghlanhâu.
41A chan dosturio, efe a estynodd ei law, a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywed wrtho, Mynaf, bydd lân.
42Ac yn ebrwydd yr ymadawodd y gwahan‐glwyf ag ef, a glanhâwyd ef.
43Ac wedi gorchymyn yn ddifrifol iddo, efe a'i hanfonodd ef ymaith yn ebrwydd, ac a ddywed wrtho,
44Gwel na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith: dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma am dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.
45Eithr efe a aeth allan, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thaenu y gair ar led, fel na allai efe mwyach fyned yn amlwg i ddinas; eithr yr oedd efe y tu allan mewn lleoedd annghyfanedd; ac yr oeddynt yn dyfod ato efe o bob parth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.