1A bu ar ddydd Sabbath iddo fyned drwy y meusydd ŷd, a'i Ddysgyblion a dynasant y tywys, ac a'u bwytasant, gan eu rhuglo â'u dwylaw.
2A rhai o'r Phariseaid a ddywedasant, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn ar y Sabbath?
3A'r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch gymaint a hyn, y peth a wnaeth Dafydd, pan y daeth chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef?
4Y modd yr aeth efe i Dŷ Dduw, ac a gymmerodd ac a fwytâodd y Torthau Gosod; y rhai nid ydyw gyfreithlawn eu bwyta ond i'r Offeiriaid yn unig.
5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn Arglwydd hefyd ar y Sabbath.
Iachâu y llaw wywedig[Mat 12:9–14; Marc 3:1–6]6A bu ar Sabbath arall iddo fyned i mewn i'r Synagog, a dysgu: ac yr oedd dyn yno a'i law ddeheu wedi gwywo.
7A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef yn ddyfal, a iachâi efe ar y Sabbath, fel y caffent fodd i'w gyhuddo ef.
8Ond efe a wybu eu hymresymiadau hwy, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a'r llaw wedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.
9A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf finau yn gofyn i chwi, Os yw gyfreithlawn ar y Sabbath i wneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, neu golli?
10Ac wedi edrych oddi amgylch arnynt oll, efe a ddywedodd wrtho ef, Estyn allan dy law. Ac efe a wnaeth: a'i law ef a adferwyd, ac a gyd-ymddiddanent a'u gilydd, pa beth a wnaent i'r Iesu.
Dewisiad y Deuddeg[Mat 10:1–4; Marc 3:7–21]12A bu yn y dyddiau hyny, fyned o hono allan i'r mynydd i weddio. Ac efe a barhâodd drwy y nos mewn gweddi at Dduw.
13A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei Ddysgyblion: ac efe a etholodd allan o honynt Ddeuddeg, y rhai a gyfenwodd efe yn Apostolion:
14Simon yr hwn hefyd a gyfenwodd efe Petr, ac Andreas ei frawd; ac Iago, ac Ioan; a Philip, a Bartholomëus;
15a Matthew, a Thomas; ac Iago mab Alphëus, a Simon, yr hwn a elwir y Zelotiad:
16a Judas mab
Iago, a Judas Iscariot, yr hwn oedd Fradwr.17Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a safodd ar le gwastad, a thyrfa o'i Ddysgyblion ef, a lluaws mawr o'r bobl, o holl Judea a Jerusalem, ac o arfordir Tyrus a Sidon,
18y rhai a ddaethant i wrando arno, ac i'w hiachâu o'u clefydau: a'r rhai a flinid gan ysprydion aflan a iachâwyd.
19A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd âg ef, canys gallu oedd yn myned allan oddiwrtho, ac yn iachâu pawb.
Y Gwynfydedigion[Mat 4:25—5:12]20Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid ar ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd,
Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw Teyrnas Dduw.
21Gwyn eich byd y rhai ydych mewn newyn yr awrhon: canys chwi a a ddigonir.
Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awrhon: canys chwi a chwerddwch.
22Gwyn eich byd pan y cashâo dynion chwi, ac y'ch hesgymunant, ac y'ch gwaradwyddant, ac a daflant allan eich enw fel drwg er mwyn Mab y Dyn.
23Llawenychwch y dydd hwnw, a llemwch gan lawenydd: canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y Nef: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eu Tadau i'r Prophwydi.
24Yn mhellach, Gwae chwi y Cyfoethogion, canys yr ydych yn derbyn yn llawn eich diddanwch.
25Gwae chwi, y rhai ydych lawnion yr awrhon: canys chwi a newynwch.
Gwae chwi, y rhai a chwerddwch yr awrhon: canys chwi a alerwch ac a wylwch.
26Gwae chwi, pan ddywedo pob dynion yn dda am danoch: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eich Tadau i'r Gau‐Brophwydi.
Pa beth yw Cariad Cristionogol[Mat 5:38–48]27Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion: gwnewch dda i'r rhai a'ch cashânt:
28bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: gweddiwch ar ran y rhai a ymddygant yn faleisus tu ag atoch:
29i'r hwn a'th darawo ar y gern, cynyg y llall hefyd; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy wisg‐uchaf, na chadw yn ol dy is‐wisg chwaith.
30Dyro i bob un a geisio genyt; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy eiddo, na cheisia ef yn ol.
31Ac yn y modd yr ewyllysiech i ddynion i wneuthur i chwi, gwnewch chwithau hefyd yr un ffunud.
32Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys y mae y pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a'u carant hwy.
33Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnant dda i chwithau, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys y mae hyd y nod y pechaduriaid yn gwneuthur yr un peth.
34Ac os rhoddwch fenthyg i'r rhai yr ydych chwithau yn gobeithio derbyn oddiwrthynt, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys hefyd y mae pechaduriaid yn rhoddi benthyg i bechaduriaid, fel y derbyniont yn ol yr hyn sydd gyfartal.
35Yn mhellach, Cerwch eich gelynion, a gwnewch dda; a rhoddwch fenthyg, heb anobeithio mewn dim: a'ch gwobr a fydd mawr, a Meibion y Goruchaf a fyddwch: canys cymwynasgar yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.
Tosturi a Thrugaredd[Mat 7:1–5]36Byddwch dosturiol, yr un modd ag y mae eich Tâd yn dosturiol.
37Ac na fernwch, ac ni'ch bernir ddim: ac na chondemniwch, ac ni'ch condemnir ddim: gollyngwch yn rhydd, a chwithau a ollyngir yn rhydd:
38rhoddwch, a rhoddir i chwithau: mesur da, wedi ei wasgu ynghyd, wedi ei ysgwyd ynghyd, yn rhedeg allan drosodd, a roddant i'ch mynwes: canys â'r mesur y mesuroch, yr ad‐fesurir i chwithau.
39Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, Yn wir a ddichon dyn dall dywys dyn dall? Oni syrthiant ill dau i mewn i'r ffos?
40Nid ydyw dysgybl uwchlaw yr athraw: ond pob un sydd wedi ei lawn‐gymhwyso a fydd fel ei athraw.
41A phaham yr wyt yn edrych ar yr asglodyn yn llygad dy frawd, ac nad wyt yn darganfod y trawst yn dy lygad dy hun?
42Pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Frawd, gâd i mi fwrw allan yr asglodyn sydd yn dy lygad, a thithau dy hun heb edrych ar y trawst sydd yn dy lygad? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur fwrw allan yr asglodyn sydd yn llygad dy frawd.
Y galon a'r bywyd[Mat 7:15–20]43Canys nid oes un pren da sydd yn dwyn ffrwyth gwael un pren gwael ffrwyth da.
44Canys pob pren sydd yn cael ei adwaen wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddiar ddrain y maent yn casglu ffigys, ac nid ar lwyn mïeri y maent yn casglu yr addfed swp o rawnwin.
45Y dyn da, allan o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda: a'r dyn drwg allan o'r drwg a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg: canys allan o helaethrwydd calon y mae ei enau yn llefaru.
46A phaham yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?
Y ddau Adeiladwr[Mat 7:21–27]47Pwy bynag sydd yn dyfod ataf fi, ac sydd yn gwrando fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb:
48cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sylfaen ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y cenllif a dorodd yn erbyn y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo, am ei fod wedi ei adeiladu yn dda.
49Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, sydd gyffelyb i ddyn yn adeiladu tŷ ar y ddaear heb sylfaen; yn erbyn yr hwn y torodd y cenllif, ac yn ebrwydd y syrthiodd i fewn; a'r niwed i'r tŷ hwnw oedd fawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.