1Ar ol y pethau hyn gwelais angel arall yn dyfod i waered o'r nef, âg awdurdod mawr ganddo; a'r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef.
2Ac efe a lefodd â llef gref, gan ddywedyd,
Syrthiodd, syrthiodd. Babylon Fawr.
Ac aeth yn drigfa cythreuliaid,
Ac yn gadwrfa pob yspryd aflan,
Ac yn gadwrfa pob aderyn aflan ac atgas:
3Canys trwy win llid ei phuteindra y syrthiodd yr holl genhedloedd,
A brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi,
A marchnatâwyr y ddaear a gyfoethogwyd trwy allu ei rhysedd hi.
Galwad i ddyfod allan o honi.4A chlywais lef arall o'r nef yn dywedyd,
Deuwch, fy mhobl i, allan o honi,
Fel na byddoch gyd‐gyfranogion o'i phechodau hi,
Ac na dderbynioch o'i phläau hi;
5Oblegyd ei phechodau hi a bentyrrwyd hyd y nefoedd,
A Duw a gofiodd ei hanghyfiawnderau hi.
6Telwch yn ol iddi fel y talodd hithau,
A dyblwch iddi y dwbl yn ol ei gweithredoedd:
Yn y cwpan a gymysgodd hi, cymysgwch iddi yn ddyblyg.
7Cymaint ag y gogoneddodd hi ei hun, ac yr aeth yn foethus,
Y cymaint y rhoddwch iddi o boen a galar;
Oblegyd y mae hi yn dywedyd yn ei chalon,
Yr wyf yn eistedd yn frenhines,
A gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.
8Am hynny mewn un dydd y daw ei phläau hi:
Marwolaeth, a galar, a newyn;
A hi a losgir yn ulw â thân,
Canys cadarn yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn a'i barnodd hi.
Galarnad ei gordderchwyr.9Ac wylo a galaru drosti a wna brenhinoedd y ddaear.
Y rhai gyda hi a buteiniasant ac a fuont foethus,
Pan edrychont ar fwg ei llosgiad hi,
10Gan sefyll o hir bell gan ofn ei phoenedigaeth hi, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr, Babylon, y Ddinas gadarn!
Canys mewn un awr y daeth dy farn di.
11A marchnatâwyr y ddaear sydd yn wylo a galaru drosti,
Canys nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau hwynt;
12Nwyddau o aur, ac arian, a meini gwerthfawr a pherlau,
A llian main, a phorphor, a sidan, ac ysgarlad,
A choed citrus, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawrocaf,
Ac o brês, ac o haiarn ac o farmor,
13A sinamon, ac amomon, ac arogldarth, ac enaint, a thus,
A gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith;
A gwartheg, a defaid, a thrafnidiaeth mewn meirch a cherbydau;
Ac mewn caethweision ac eneidiau dynion.
14A'r ffrwythau a chwenychodd dy enaid a aeth ymaith oddiwrthyt,
A phob peth danteithiol a gorwych a gollwyd gennyt;
Ac mwyach ni chaiff dynion
mo honynt.15A marchnatâwyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell, gan ofn ei phoenedigaeth, gan wylo a galaru,
16gan ddywedyd,
Gwae, gwae, y Ddinas Fawr,
Yr hon oedd wedi ei gwisgo â llian main a phorphor ac ysgarlad,
Ac wedi ei haddurno âg aur a meini gwerthfawr a pherlau;
17Canys mewn un awr yr anrheithiwyd golud mor fawr. A phob llong‐lywydd, a phob un yn hwylio i unrhyw le, morwyr, a chynifer ag sydd a'u gorchwylion ar y môr, a safasant o hirbell,
18a llefasant allan wrth weled mwg ei llosgiad, gan ddywedyd,
Pa ddinas sydd debyg i'r Ddinas Fawr!
19A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau,
Ac a lefasant, gan wylo a galaru, gan ddywedyd,
Gwae, gwae, y Ddinas Fawr!
Yn yr hon yr ymgyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau yn y môr, trwy ei thrysorau gwerthfawr;
Canys mewn un awr yr anrheithiwyd hi.
Crechwen yn y nef.20Ymhyfryda uwch ei phen, o nef,
A'r Saint, a'r Apostolion, a'r Prophwydi;
Canys Duw a gyflawnodd eich barnedigaeth chwi arni hi.
21Ac un angel cryf a gododd faen megys maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd,
Fel hyn gyda rhuthr nerthol, y bwrir Babylon, y Ddinas Fawr,
Ac ni cheir hi ddim mwyach;
22A llais telynorion a cherddorion a phibyddion ac udganwyr ni chlywir ynot ddim mwyach;
Ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y byddo, ni cheir ynot ddim mwyach;
A llais maen melin ni chlywir ynot ddim mwyach:
23A goleuni llusern ni lewyrcha ynot ddim mwyach;
A llais priod‐fab a phriod‐ferch ni chlywir ynot ddim mwyach:
Oblegyd dy farchnatâwyr oeddynt dywysogion y ddaear;
Canys trwy dy swyn‐gyfaredd di yr arweiniwyd yr holl genhedloedd ar gyfeiliorn.
24Ac ynddi hi y caed gwaed Prophwydi a Saint,
A phawb a'r a laddwyd ar y ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.