1Ac wedi iddo alw ynghyd y Deuddeg, efe a roddodd iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i wella clefydau.
2Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu Teyrnas Dduw, ac i iachâu y cleifion.
3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddygwch ddim ar gyfer y daith, na llaw‐ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fydded genych ddwy o is‐wisgoedd.
4Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn, aroswch yno, ac oddiyno yr ewch allan.
5A pha rhai bynag ni'ch derbyniant, fel yr eloch allan o'r Ddinas hono, ysgydwch, ac efe gythryblwyd yn ddirfawr, o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw;
8a chan rai, Elias a ymddangosodd; a chan eraill, Y mae rhyw Broffwyd, un o'r rhai cyntefig, wedi adgyfodi.
9Ond dywedodd Herod, Ioan y torais i ei ben: ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
Y Pum Mil a'r Pum Torth[Mat 14:13–21; Marc 6:30–44; Ioan 6:1–14]10A'r Apostolion, pan ddychwelasant, a draethasant iddo gymaint âg a wnaethant. Ac efe a'u cymmerodd, ac a ymneillduodd yn ddirgelaidd i Ddinas a elwir Bethsaida.
11Ond y torfeydd a wybuant, ac a'i canlynasant ef; ac efe a'u croesawodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am Deyrnas Dduw, ac efe a iachâodd y rhai oedd eisieu gwellhâd arnynt.
12A'r dydd a ddechreuodd dreulio allan: a'r Deuddeg a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel yr elont i'r pentrefi, ac i'r lleoedd gwledig oddi amgylch, i letya a chael lluniaeth: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfanedd.
13Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes genym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn: oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.
14Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn gwmpeini, oddeutu deg a deugain yr un.
15A hwy a wnaethant felly, ac a wnaethant iddynt oll eistedd.
16Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r Nef, efe a'u bendithiodd, ac a'u torodd yn ddarnau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.
17A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd: a chyfodwyd o'r hyn oedd yn ngweddill iddynt o'r briwsion, ddeuddeg basgedaid.
Cyffes Petr a rhag‐ddywediad Crist[Mat 16:13–16, 20, 21; Marc 8:27–31]18A bu, fel yr oedd efe yn gweddio wrtho ei hun, fod ei Ddysgyblion gyd âg ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae y torfeydd yn dywedyd fy mod i?
19A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill Elias: ac eraill, Prophwyd, rhyw un o'r rhai cyntefig a adgyfododd.
20Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr a atebodd ac a ddywedodd,
Crist Duw o ran yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'i gyfodi y trydydd dydd.
Gwerth dyoddef er mwyn Crist[Mat 10:38, 39; 16:24–28; Marc 8:34—9:1; Ioan 12:25]23Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned fi.
24Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei einioes?
26Canys pwy bynag y bydd arno gywilydd o honof fi a'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd o hwnw, pan y daw yn ei Ogoniant ei hun, a'i Dâd, a'r Angelion Sanctaidd.
27Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, Mewn gwirionedd y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant angeu o gwbl, hyd oni welont Deyrnas Dduw.
Gwedd‐newidiad Crist[Mat 17:1–9; Marc 9:2–10]28A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi y geiriau hyn, efe a gymmerodd gyd âg ef Petr, ac Ioan, ac Iago, ac a aeth i'r Mynydd i weddio.
29A phan yr oedd efe yn gweddio, ymddangosiad ei wyneb‐pryd ef a aeth yn wahanol, a'i ddillad ef yn wyn ddysglaeriol.
30Ac wele dau wr oeddynt yn cyd‐ymddiddan âg ef, y rhai oedd Moses ac Elias;
31y rhai a ymddangosasant mewn Gogoniant, ac a ddywedasant am ei Ymadawiad, yr hwn yr oedd efe ar ei gyflawnu yn Jerusalem.
32Ond Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, oeddynt wedi trymhâu gan gwsg, ond wedi iddynt aros yn hollol effro, hwy a welsant ei Ogoniant ef, a'r ddau wr oedd yn sefyll gyd âg ef.
33A bu, fel yr oeddynt yn ymadael oddi wrtho ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, O Feistr, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod pa beth y mae yn ei ddywedyd.
34Ac efe yn dywedyd y pethau hyn, daeth cwmwl, ac a gysgododd drostynt, a hwy a ofnasant pan yr aethant i mewn i'r cwmwl.
35A llef a ddaeth allan o'r cwmwl, yn dywedyd,
Hwn yw fy Mab, fy
36A phan ddarfyddodd y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwynt‐hwy a fuant ddystaw, ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hyny ddim o'r pethau yr oeddynt wedi eu gweled.
Gwella y llanc masglwyfus[Mat 17:14–18; Marc 9:14–27]37A bu dranoeth, fel yr oeddynt yn dyfod i waered o'r Mynydd, tyrfa fawr a gyfarfu âg ef.
38Ac wele, gwr o'r dyrfa a waeddodd, gan ddywedyd, Athraw, yr wyf yn deisyf arnat, edrych ar fy mab: canys efe yw fy unig‐anedig.
39Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yn ddisymwth y mae efe yn gwaeddi, ac yn ei ddirdynu, hyd oni falo ewyn, a braidd y mae yn ymadael oddi wrtho, gan ei lethu yn flin.
40A mi a ddeisyfais ar dy Ddysgyblion di ei fwrw ef allan, ac nis gallasent.
41A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O Genedlaeth anffyddiog, hyd pa bryd y byddaf gyd â chwi, ac y byddaf ymarhöus wrthych? Dwg yma dy fab.
42Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i taflodd i lawr, ac a'i dirdynodd yn flin. Ond yr Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachâodd y plentyn, ac a'i rhoddodd ef yn ol i'w dâd.
43A tharawyd hwynt oll â syndod gan Fawrhydi Duw.
Crist yr ail waith yn rhagfynegi ei Farwolaeth[Mat 17:22, 23; Marc 9:30–32]Ac fel yr oedd pawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai, efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion,
44Gosodwch yn eich clustiau y geiriau hyn: canys Mab y Dyn sydd ar gael ei draddodi i ddwylaw dynion.
45Eithr hwy oeddynt anwybodus o'r peth hwn, ac yr oedd wedi cael ei guddio oddi wrthynt, fel na chanfyddent ef: a hwy a ofnasant ofyn iddo am y peth hwn.
Mawredd Cristionogol[Mat 18:1–5; Marc 9:33–37]46A daeth i mewn ddadl yn eu plith: Pwy fyddai y mwyaf o honynt.
47A'r Iesu yn gwybod ymresymiad eu calon hwynt, a gymmerodd afael mewn plentyn bychan, ac a'i gosododd ef yn ei ymyl,
48ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynag a dderbynio y plentyn bychan hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr Hwn a'm hanfonodd i: canys yr hwn sydd o'r dechreu y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwn sydd fawr.
Goddef Anghydffurfiaeth[Marc 9:38–40]49Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, Ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni.
50A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch: canys yr hwn nid yw yn eich herbyn, trosoch chwi y mae.
Ei wrthod gan y Samariaid: yspryd dialgar Meibion y Daran.51A bu, pan yr oedd dyddiau ei Esgyniad yn cael eu cyflawnu, efe a gyfeiriodd ei wyneb yn ddiymod i fyned i Jerusalem.
52Ac efe a ddanfonodd genadau o flaen ei wyneb; a hwy wedi myned, a aethant i mewn i bentref Samariaid, er parotoi iddo ef.
53Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegyd fod ei wyneb ef yn cyfeirio tua Jerusalem.
54A'i Ddysgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, A ewyllysi di ddywedyd o honom am i dân ddisgyn o'r Nef, a'u difa hwynt?
55Ond efe a drôdd ac a'u ceryddodd hwynt.
56A.
Amodau canlyn Crist[Mat 8:18–22]57Ac fel yr oeddynt yn rhodio yn y ffordd, rhyw un a ddywedodd wrtho, Mi a'th ganlynaf di i ba le bynag yr elych.
58A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod lechfaoedd, Canlyn fi. Ond efe a ddywedodd, Caniatâ i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhâd.
60Eithr efe a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain: ond tydi, dos ymaith, a mynega ar led Deyrnas Dduw.
61Ac arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ganlynaf di, O Arglwydd: ond yn gyntaf caniatâ i mi ganu yn iach i Deyrnas Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.